Penardd. Disgynodd mewn ty, ac arhosodd yno y noswaith honno; daeth gwr y ty, a'i fab, i mewn yn fuan, ac yn ddiweddaf oll, daeth y meichiad, neu y moch-geidwad yno: a gofynai gwr y ty wrth hwnw, "Wel, fy ngwas i," a ddaeth dy hwch i mewn heno?" "Y mae hi wedi dyfod;" atebai y llall. "O fewn yr awr yma y daethai at y moch." "Pa ryw fath ymdaith y mae yr hwch honno yn arfer gymeryd?" gofynai Gwdion? "Pan yr agorir y cut bob dydd, y mae hi yn myned allan; ac ni welir mo honi, ac ni cheir dim o'i hanes, ac ni wyddir i ba le y bydd wedi myned, mwy na phe byddai yn myned i'r ddaear." "A wnei di hyn, er fy mwyn i," ebai Gwdion; "a beidi di ag agor y cut, hyd oni byddwyf fi ar yr ochr arall i'r cut, gyda thi?" "Gwnaf, gyda phob parodrwydd," meddai y meichiad. Aethant i gysgu am y noswaith ar hyny. A phan y gwelodd y meichiad oleu dydd dranoeth, efe a ddeffroai Gwdion; a Gwdion a gyfododd, ac a ymwisgodd, ac a ddaeth yn mlaen gyda y meichiad, ac a safodd wrth ochr y cut. Agorodd y gwas y cut; a chyda ei fod wedi ei agor, neidiai yr hwch am allan, gyda chyflymder mawr. Dilynodd Gwdion ar ei hol, gan gymeryd yr ochr arall i'r afon; a daeth yr hwch i nant, a elwir yn awr Nantllef, neu Nant y llefain, ac yno y safai, a phorai dan bren yno. Daeth yntau Gwdion dan y pren, ac a edrychodd ar ba beth yr oedd yr hwch yn ymborthi, a gwelai hi yn ymborthi ar gig pydredig, a chynron. Yna efe a edrychodd i fynu at frig y pren, ac wedi syllu yno, gwelai Eryr yn y gangen; a phan ysgydwai yr eryr ei hun, yna y syrthiai y cynron, a'r cig pydredig oddiwrtho, y rhai a fwytai yr hwch. A thybiai ef mai Llew oedd yr eryr, a chanodd y penill canlynol:—
"Tyf Derwen rhwng y ddeulyn
Nes cuddio nen a glyn,
Os adwaen i y Blodau,
Daw'r Llew yn ol ar hyn."
Ac yna yn fuan, disgynai yr eryr yn is i lawr, hyd ganol y goeden, yna Gwdion a ganai eilwaith:—
"Fe dyf y Ddar dan addurn mes
Er gwaetha gwynt a gwlaw,
Adferir yntau er ein lles,
O'r Eryr Llew a ddaw."
Disgynai yr Eryr drachefn yn is ar y pren, a hyd fforch isaf y canghenau, a chanai Gwdion y drydedd waith:—
"Y man lle tyf y Dderwen hon,
Yr yfir mêdd a gwin,
Os dychwel Llew, a'i lygaid llon,
Daw'r Eryr ar fy nglin!"
Ac ar hyny gwelai yr eryr yn disgyn yn is drachefn, ac o'r diwedd, yn dyfod ar ei lin; ac ar hyny tarawodd Gwdion ef a'i hudlath, fel yr ymddangosai efe yn ei ffurf ei hun yn y fan. Ni welwyd neb a golygfa mor druenus arno yn unman ag oedd arno ef; nid oedd o hono ddim ond croen ac asgwrn. Wedi yr helynt hwn, buan y cyrchasant am Gaer Dathl, a dygwyd y meddyg goreu a feddai Gwynedd at Llew. A chyn diwedd y flwyddyn honno, yr oedd ef yn berffaith iach. "Fy arglwydd," ebai ef wrth Math ab Mathonwy, "y mae yn llawn bryd i mi fynu iawn oddiwrth y dyn a barodd i mi y fath drallod." "Diameu," ebai Math, "ni all efe ymgynal tra y byddo dy iawnderau di yn ei feddiant." "Wel," ebai y llall, "goreu po cyntaf fyddai genyf fi fynu yr hyn sydd deg i mi ei gael." Yna y cynullasant Gwynedd, ac y daethant i Ardudwy. Aethai Gwdion yn mlaenaf, ac fel hyn y dynesodd ef at Fur-yCastell. Ac felly clywai Blodeuwedd drwst eu dyfodiad; a chymerai hi ei morwynion gyda hi ar ffrwst, ac esgynasant i'r mynydd, dros afon Cynfal, a daethant i lys oedd ar y mynydd; ac ni amlygasant eu dyfodiad, gan ofn i neb eu hadnabod, ond aethant gyda'u gwynebau yn ol, yn wysg eu cefnau, ac felly ni sylwasant ar ddim, hyd nes y syrthiasant i'r llyn; ac yno y boddwyd hwy oll, oddigerth Blodeuwedd ei hun. Yna Gwdion a'i goddiweddai, a llefarodd wrthi yn y fan, "Ni'th laddaf di; ond gwnaf beth gwaeth na hyny i ti; a hyny ydyw; mi a'th ollyngaf yn rhydd yn rhith aderyn; ac o blegid y cywilydd a beraist i Llew Llawgyffes, na byddo i ti byth ddangos dy wyneb yn ngoleuni y dydd, a hyny rhag ofn yr holl adar, ac fel y byddo yn elfen ynddynt dy faeddu a'th anmherchi, pa le bynag y delont o hyd i ti; ac na chollech byth mo dy enw, Blodeuwedd. Ac felly, y mae Blodeuwedd yn Ddalluan, yn ol iaith y dydd, ac o herwydd hyn, y mae gelyniaeth rhwng yr adar â'r Ddalluan; ac eto y gelwir y ddalluan yn Flodeuwedd. Yna Goronwy Befr a giliodd i Benllyn; ac oddi yno, efe a anfonodd genhadaeth, a dyma y genadwri a anfonodd, i ofyn i Llew Llawgyffes, pa un a fynai ef ai tir ai daear, ai aur neu arian, fel iawn am y sarhad a gafodd. Ni chymeraf fi ddim o'r fath bethau, meddai ef, yr wyf yn cyffesu hyny ger bron y nefoedd. A dyma y peth lleiaf a dderbyniaf ganddo; fod iddo ef fyned i'r lle y bum i yn sefyll ger ei fron, pan yr archollodd fi a'r saeth, ac i mi hefyd gael bod yn y lle y safai ef, ac iddo ef oddef i mi daflu gwaewffon ato ef. A dyna y peth lleiaf a dderbyniaf fi ganddo ef." Hysbyswyd Goronwy Befr o hyny. "Wel," ebai yntau, "gan hyny, y mae yn anhebgorol i mi wneud hyny. Fy nynion ffyddlon a da, fy mherthynasau, a'm brodyr maeth, a oes neb o honoch chwi a dder-