Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu/131

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bynia yr ergyd yn fy lle i?" "Diameu, nad oes neb," oedd yr atebiad. Ac o blegid iddynt wrthod derbyn yr ergyd yn lle eu harglwydd, y gelwir hwy hyd y dydd hwn, "y trydydd anniwair deulu." "Wel," ebai ef "ar hyny, myfi a'i derbyniaf." Ac yna daethant ill dau hyd lan afon Cynfal; ac yna Goronwy Befr a safodd, yn y lle y safai Llew Llawgyffes, pan y traws-newidiwyd ef, a Llew yntau ar y llecyn y safai y llall arno. Yna dywedodd Goronwy Befr wrth Llew, "Fy arglwydd," gan mai trwy ddyfais ddichellgar gwraig, y gwnaethum i yr hyn a wnaethum i ti, yr wyf yn awr, yn erfyn genyt ti, er mwyn y nefoedd, y llech-faen a welaf ar ochr yr afon, ac i mi gael ei chyfleu rhyngof a'r ergyd." "Sier iawn," medd y Llew, "ni wrthodaf fi hyny." "Gan hyny, bydded i'r Nefoedd dy wobrwyo," medd Goronwy; ac yna cymerodd y llech-faen, ac a'i dododd rhynddo ef â'r ergyd. Yna taflodd Llew y waywffon tuag ato gyd a'r fath nerth, fel y treiddiodd drwy y llech-faen, a thrwyddo yntau, ac felly y lladdwyd Goronwy Befr; ac y mae y llechfaen eto ar lan afon Cynfal, a'r twll trwyddi; ac o herwydd hyny y gelwir hi, "Llechen Goronwy" hyd y dydd hwn. Yna, cymerodd Llew llaw-gyffes ail feddiant o'r wlad, ac a'i llywodraethodd yn dra llwyddiannus. Ac yn ol y dywed yr Hanes, efe a fu wedi hyny yn Arglwydd ar Wynedd.-Ac felly y terfyna Mabinogi Math.

Nid yw yn annhebyg mai prif amcan y Fabinogi uchod oedd dangos y canlyniadau niweidiol o dwyll mewn trafodaeth fasnachol, ac anffyddlondeb priodasol, yn nghyd a'r mawr bwys i ieuenctyd fod yn gywir eu dybenion, ac anrhydeddus eu hymddygiadau yn eu rhag gyfeillach. Y mae lle cryf i farna fod y Mabinogion yn seiliedig ar ryw hanesion gwirioneddol, er na cheir namyn yr amlinelliad yn unig yn eglur; ac y mae yn deilwng o sylw, fod enwau y lleoedd y cyfeirir attynt yn cael eu cadw yn eu perffeithrwydd hyd yr oes hon; ac y mae lle i farnu fod y personau a ddygir i sylw yn y Fabinogi, yn rhai a flodeuent mewn gwirionedd tua diwedd y bummed ganrif, ac yn gymeriadau pwysig yn mysg y genedl yn y cyfnod hwnw; canys y mae enwau amryw o honynt yn aros hyd heddyw ai lafar gwlad, mewn cyssylltiad a lleoedd neillduol.

CYFANSODDIADAU SION CENT.

SION CENT, neu, fel ei gelwir weithiau, Dr. John Kent, ydoedd yn Offeiriad dysgedig, a Bardd tra enwog, yr hwn oedd yn ei flodau o tu a'r flwyddyn 1380, hyd 1420. Efe a anwyd ar arglwyddiaeth Cilgeran, yn swydd Benfro, fel y gellir casglu oddiwrth ryw grybwylliadau a wneir ganddo yn rhai o'i Gyfansoddiadau Barddonol. Efe a noddogid gan dylwyth y Scudamores, o Kentchurch, a bu yn offeiriad y plwyf hwnw, yr hwn sydd yn swydd Henffordd, ac ar derfynau swyddi Brycheiniog, a Mynwy. Y mae yn amlwg oddiwrth ei gyfansoddiadau, ei fod wedi yfed yn helaeth o egwyddorion y Lollardiaid; ac efe a ddynoethai ymddygiadau anweddus offeiriaid ei oes yn ddiarbed. Yn wir, y mae yn lled debyg ei fod, pan yn wr lled ieuane, wedi cael y fraint o gyfeillachu a'r pendefig goleuedig hwnw, Syr John Oldcastle, neu yr Arglwydd Cobham, yr hwn wedi diane o'r Twr Gwyn, a fu am oddeutu tair blynedd yn tramwy Mynydd-dir Mynwy, Brycheiniog a Threfaldwyn, gan egluro gair Duw i'w gyd-genedl; a thebygid y byddai yn cael achles weithiau gyda Syr William Scudamore, yr hwn a briodasai ferch Owain Glyndwr; ac ar y cyfryw achlysuron, efallai, y cafodd yr Offeiriad ieuane ei ddysgu yn ffordd Duw yn fanylach; ac y mae yn crybwyll am farwolaeth y Merthyr hwnw yn un o'i Gywyddau. Am ei fod yn rhagori ar ei gydwladwyr yn gyffredin mewn gwybodaeth a dysg, efe a gyfrifid megis dewin yn yr oes dywell hono; ac y mae lluaws o draddodiadau rhyfedd am dano ar lafar gwlad, yn y parthau hyny eto. Dywedir iddo gael ei gladdu yn mynwent Grosmont, lle y dangosir hen feddfaen, heb unrhyw argraff arno, fel y fan lle y gorweddai llwch y dyn enwog hwn.


CYWYDD YN DANGOS DIALEDDAU Y BYD;
A LLAWER O YSTORIAU ENWOG.

Ystudio ydd wyf was didwyll,
Ystad y byd astud bwyll,
Astud boen, ystod benyd;
Ystad Beirdd yn studio byd.
Astrus yr oedd mewn ystryw,
Ystyr y byd, ynfyd yw:
Llawn dialedd llawn dolur,
Llawn llid, llawn gofyd, llawn cur.
Cyntaf dial, medd Psaleg
Erioed a fu er dysgu'n deg,
Oedd yru Luciffer ddiriaid
O'r nef lle'r oedd fawr ei naid:
Uchaf angel heb gelu,
Euraidd ei fodd erioed a fu;
A meistr oedd yn mwstr Ion,
Yn ngolwg yr angelion.