Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu/132

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Teccach na'r haul gythraul gi,
O'r diwedd bu oer ar dewi:
Cwympodd y cythraul campus,
Ef a'i lu aeth rhanu rhŷs.
A'r ail gafael dial dwys,
Brwydr Adda o Baradwys.
Dial drydydd cynnydd cwyn,
Yn amser Noah iawn ymswyn;
Boddes yr holl-fyd byddar,
Onid wyth banllwyth a'i car;
Noa a'i blant, cwbl foliant côr,
A'u gwragedd hwy yw'r grugor,
Ranodd y byd enyd awr,
Noe a'i dri mab yn dramawr:
Sem, Asia, swm a esyd,
Heiniar bydd haner y byd;
Cain i Affrig côr cymwys;
Siapheth, Ewropa dda ddwys.
Aeth pob gwlad gad gynaid
Fwy-fwy tyfu, planu plaid.
Dial bedwaredd Dwy-wawl,
Pabilon dŵr, pabiliwn diawl;
Ar y maes, roedd y mesur,
A main y gwnaethpwyd y mur,
Dwy leng oedd hyd bryd brawdwr,
O'r nen hyd dalcen y twr;
Yno y symmudodd anadl
Y byd oll ddidoll ddadl;
Pedair ugein-iaith myn Pedr,
A dwy hefyd, da hyfedr.
Er maint hyn meddynt i mi,
Pan sorrodd y pen seiri,
Llyma'r ieithiau llwm aruthr,
Cyntaf ond un eithaf uthr;
Yr iaith Groeg, wyth a grewyd,
Dardan fab i leian lwyd,
Fab Siapheth, lle'i pregethan
Fab Noë deg, fab Lameg lan;
Gomer, a Heber hybant,
Fab Sem, fab Noe hen, fab Sant.
Cyff Ebryw, cyff seith-ryw son,
A'i wiw dŵf o'r Iuddewon.
Prophwydi a'r Padrieirch,
A swm dwy fil o feirch.
Sabo las cŷff y Saeson,
Mab Narconys dilys don,
Fab Elami ri roddlawn,
Fab Sem, fab Noe, ddwywedd ddawn.
Ineta Anwm trwm tramwy,
Tabor wlad mae eu had hwy.
Galia a Ffrainc, a'r Gulys,
A'r Twrci trwm yw'r llys.
Llyma achau heidiau hil,
Ewropa, wyf o'r epil.
Llin mab trydydd dedwydd dysg,
Cam yr Affrig yw'r cymmysg;
Esym fab Ronwyth Seithydd,
Cus fab Cam, ddinam ddydd.
Cwl fab Sythal, fab milwr,
Fab Mes, fab Cam teir-flam twr.
Cyff persarum trwm trimis,
A chyff Ewropa a'i rhis.
Sidon fab Canan annoeth,
Frawd Mizraim wr cain coeth;
Cyff y cewri, rhi rhyfael,
O'r sarph, ac o'r gades hael.
Pummed, Troia, cwpla cam,
O bras yn amser Abram
Pum dinas ffol eu helynt,
Sodom, a Gomorah gynt.
A dinas oedd dref nefawl,
Segor mewn maenor a mawl.
Llosged oll rhif llysgiad od,
Bychan a mawr am bechod.
Chweched dial gofalus,
Tân o'r wybr ryw lwybr rhys.
Seithfed dial anial oedd,
Mae'n y Beibl mwynion bobloedd;
Deuddeg brenhiniaeth gaeth gor,
Ar hugain, gynt a rhagor,
A laddodd Josuah lyw-ddoeth,
Eu gyd o arch Jehofa goeth.
Gwyr, gwragedd, plant, sant synwyr,
A lladd anifeiliaid yn llwyr.
Dial wythfed ged gadarn,
Yw diwedd byd, a dydd barn.
Yn nglyn Josaphad heb wadu
Y farn a fydd ar ddydd du:
Yno i grynu un fydd cri,
Y llu'n uchel llawn ochi.
Dy nawdd Arglwydd dan oddef,
Dy nerth, Mab un Duw o nef:
Dy fersi yn dy farsoedd,
Dy garennydd ufudd oedd;
Rhag myned ysged asgen,
Asw a mi Iesu, Amen.


CYWYDD I DDUW.

Ein Tad Sanctaidd buraidd barch,
Duw unben diau iawnbarch:
Yr hwn a all bob gallu,
Naf i'r wyd yn y nef fry;
Sancteiddiol rasol ddi rus,
Yw dy enw Dduw daionus;
Deled i ni dy wlad Naf,
Drwy achos Duw oruchaf;
Dy ewyllys heb gel a welon,
Ior hael ar y ddaear hon;
Fal y mae geiriau ar goedd,
Iawna Naf yn y nefoedd:
Dyro i ni dirion Naf,
Hoyw ddawn Bor, heddyw'n buraf;
Beunyddiol diboen weddi,
Moddion oll, a maddeu i ni
Ein dyledion aflonydd,
A rhown faddeuant yn rhydd,
I'r sawl wnaeth dystiolaeth syn,
Hirbwynt erioed i'n herbyn:
Nad yr haeldad ein gadaw,
O'th olwg i'r lle drwg draw;