O'th odlau, ddyn a'th adlam,
O'th gas, y cafas y cam.
O'th rwyf, dithau, a'th ryfig,
A wnai Dduw beunydd yn ddgi.
Diffrwyth oedd, fel dwy Affrig,
I ddyn ei dda, a'i Duw yn ddig!
Anair i ddyn na rô ei dda,
A byred fydd ei bara.
Mae Salmon nid oedd annoeth
O ddysg? P'le mae Sibli ddoeth?
Mae tàl a gwallt Absalon,
Dêg o bryd? Dwg ef ger bron.
Mae Samson, galon y gwŷr
Nerthol? P'le mae nai Arthyr?
Oes a edwyn, syw ydych,
Bridd y rhai'n rhagor pridd y rhych?
Afraid i lawen hyfryd
Ryfyg er benthyg y byd.
Ni pherŷ'r byd hoff ir-wych,
Mwy na'i drem ym min y drych.
A fyno Nef i'w Enaid,
O'i feiau byth ef a baid.
Dir i'r bobl, dewr yw'r bwbach,
Rhyngu bodd i'r Angau bach.
A faco'r ddaear aren
A'i llwnge oll, fel Afane hên:
Nid oes nerth ar a berthyn,
Onid Duw, i enaid dyn.
Iesu wrth Gyfraith Moesen,
Awr brid, a'n prynodd ar bren.
Pruddlawn ydyw'r corff priddlyd,
Pregeth oer o beth yw'r byd.
Hoyw ddyn aur heddyw yn arwain,
Caeau, modrwyau, a main:
Gostwng gwan yn ei eiste
Dan ei law, a dwyn ei le:
Cynnull arian dau cannyn,
Cyrchu'r da carcharu'r dyn;
Ni roddai'n ddiau ddwy-fuw
O'i dda ddoe, er dau o Dduw;
Heddyw mewn pridd yn ddiddim,
O'i dda nid oes ganddo ddim!
A'i ddewr-gorph i'r ddaear-gist,
A'i drwyn yn rhy laswyn drist;
A'i bais o goed, hoed hydryn;
A'i grys heb lewys, heb lun:
A'i ddir hynt i'r ddaear hon,
A'i ddeu-fraich ar ei ddwyfron:
A'i wraig o'r winllan adail,
Gowir iawn, yn gwra'r ail:
A'i neuadd fawr-falch, galchbryd,
Yn arch bach, yn eiriach byd:
A da'r wlad yn ei adaw
I lawr, heb ddim yn ei law:
Llyffant hyll, tywyll yw'r tŷ,
Os gŵyl fydd ei was gwely;
Yna ni bydd i'r enaid
Na phlas, nac urddas, na phlaid.
Am y trosedd a wneddyw
A'r camoedd tra f'oedd yn fyw.
Rhy hwyr fydd yn y dydd du,
Od wyf ŵr, i 'difaru!
Astud fod ystad fydawl
A ddwg lawer dyn i ddiawl.
Medd Sant Bernad gredadyn,
Ni fyn Duw fod nef ond un.
Dyn na chymmered er da,
Nwyf aml, ei nef yma;
Rhag colli, medd meistri mawl,
Drwy gudd, y nef dragwyddawl.
Dig yw'r cedyrn clo-chwyrn clyd,
Dig iawn nas dyoganwyd:
Dig yw'r gwŷr llên, a'r menaich,
Dygn fyth dwyn digon o faich.
Truth noeth traethu a wnaethost,
Na chânt hwy, gwn achwyn tôst,
Groen du ffol graen yw dy ffêd,
Gaerydd nef yn agored!
Meddir, o bydd cywir cant,
I minnau, hwy a'i mynnant;
Arian glew ar a glywais,
Orddwy drud ar Dduw o drais,
Pob un heb na llûn na llês,
Ofer iawn, a'i feiriones;
Ei weddi miloedd wiwdda,
I wlad nef, medd ef, ydd â'!
Minnau o'm dysg a'm hanian,
A thrwy liw'r Ysgrythyr Lân,
Mi a gaf gwiraf gwarant,
O'i gwrs ef y goreu Sant,
Na lewas gwiw-ras gwerin
Dewi ar ei weddi win;
Na gwisgo crys gwiw ysgawn,
Na phais, ond yr un bais raw:
Na llanw, yn ddisalw'i sain,
Y pot; na rhuthro puttain.
Gwn gyfraith euriaith, arab,
Y Tad, eiriau mâd, a'r Mab.
Eu nifer hwy nef ar hynt
Am ei gael ymogelynt!
Astud wŷf ystod ofwy,
Ystyru twyll, ystyriant hwy,
Nad o wleddau gau gymmen,
Ydd air i nef ddïoer nen!
Rhyfalch ydynt yn rhwyfaw,
Rhyfig, Duw yn ddig a ddaw;
Pan ddel Dydd y Farn arnam,
A chosp dros bechod a cham.
Am yr hawl a'r mawr hwyliaw,
Y Farn ddig ar frys a ddaw.
Pob plaid, ddyfynir, pob blin
Gar ei fron, y gwir Frenhin.
Ni ddichon brawd gŵr tlawd-gall,
Na'r llaw ymddiried i'r llall.
Er pwyth byd, er peth bydawl,
Er da ydd â'r dyn i ddiawl!
Profais i megis Prifardd,
Pawb o'r byd wr hyfryd hardd;
Profais yn rhwydd Arglwyddi,
Tlawd, cyfoethog, rhywiawg rhi:
Nid cywir gradd o naddyn;
Nid oes iawn gyfaill, ond Un!
Er neb ni thores Iesu
Ei lân gyfeillach â'i lu.
Tudalen:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu/134
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon