Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu/136

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhedwn ceisiwn anrhydedd,
Rhodiwn bawb, rhedwn i'n bedd;
Rhodiwn dir yn hir a nhw,
Rhodiwn, ond rhaid i'n farw;
Awstin a erchys ystyr,
Beth ydyw hyd y byd byr;
Yna ni cheisi unawr,
Dueddu y'mysg dy ddâ mawr;
A fyno nef i'w enaid,
A'i feiau, byth ef a baid;
Rhaid yw gochel tri gelyn,
Swyn tost sy i enaid dyn,
Y cythraul dirgel ei don,"
Y cnawd, a'r cwyn anudon;
Tri meddig safedig sydd,
Ar ran dyn o'r un deunydd;
Cerdod o'i dda, cywirdeb,
Ympryd, a nenbryd i neb,
A chariad gwych a weryd,
Perffaith yw'n gobaith i gyd;
Ni wn un yn y neall,
A wnelo lles heb y llall;
Awn i 'studio 'n wastadol,
O bwys a nerth be sy'n ol;
Mae corn o fryd i'm cern fry,
A eilw bawb o'i wely.
Mae y farn mor gadarngref,
A'r cri'n ol fal y cryn nef;
Yno pan dduo'r ddaiar,
Gwellt a gwydd, a gwyllt a gwar;
Llu eiddo Duw llaw ddeau 'don,
Llu du a eilw lle'y delon;
Oh! Dduw Iesu ni ddewiswn,
Awr dda a hap ar ddeau hwn;
I'n ledio oll i liw dydd,
O'r lle yno i'r llawenydd.[1]


CYWYDD I'R CYBYDD.

Llyma yr hawl lle mae rhaid,
Llef ar Dduw llyfr a ddywaid:
Gwyn ei fyd ennyd anyn,
A fo hael o'i dda ei hun;
Rhyw bechawd feddylgnawd fydd,
Gwag obaith a gwae gybydd;
Gwŷs ag awydd gwas gaudduw,
A gar dâ, mwy na gair Duw.
Cyffelyb o fawrdyb a fydd,
Tomen geuben i gybydd;
Ni ellir lle'r henwir hi,
Wyth-ryw lwgr eithr halogi.
O bwrier lle gwrth gwaith,
Y dom ar y naid ymaith;
I ogylch amlwg eigion,
A'i lliw hi a wellha hon.
Tebyg yw'r cybydd bydd ben,
Af o hwyr i fyharen,
Fe orfydd gwiailydd gely,
I rwymo er cneifio'r cný;
Ag felly o dery y dydd,
Am y cwbl y mae'r cybydd.
Tal o'i unfodd fileinfa,
O câr ddyn y ceir ei dda;
Braw yw'r hael iawn afaelion,
Berw ffyniant y brif ffynnon;
Llawn a hawdd llyn i roddi,
Lli a'i hŷf ag nid llai hi.
I dwrch cyff'lyber y dyn,
A'i ward ing an-gor dengnyn;
Pob lluniaeth bai pell hyny,
A fyn y twrch o fewn y ty;
Ag ni ddwg amlwg ymladd,
Unos o les nes ei ladd.
Felly ydd â fal lladd iddaw,
Y twrch am ei foly tew;
Pan ddarffo heno i hwn,
Gasglu ato gwas glwtwn,
Marw fydd ef, mawr ei dda,
Mur ing ag nid Maer yna.
Ei stor hael a gaiff drafael,
A'i gophor hen a gaiff yr hael.
Nid cwbwl, ni âd y cybydd,
Rhanu dim hyd yr un dydd;
Hyd yr awr hy daer orhoen,
Y del i'r pwll dalar poen;
Pan ddel yno rho rhygraff,
I'r gwely pridd arogl praff;
Odid y medd dan do main,
O'i law ond un lenlliain.
Oer dwrw ar ei derfyn,
Ond a roes nid oes i'r dyn;
Rhoed Grist yn ddidrist her,
I'r llawrwydd aur lle rhodder,
Ar gongl fethiant ag angen
A roir yrhawg i'r an-gor hen.



CYWYDD.
GOBEITHIAW'R GORAU I'R CYMRU.

Och Gymru fynych gamfraint!
Och wyr o'r diwedd uwch haint!
Och faint ych wr di bechod,
Och dechrau cael dyddiau clod!
A heddyw y'ch dyhuddir,
Ar drai, heb na thai na thir;
Rhyfedd ynof rhag gofid,
Na'm lladd meddyliau i'm llid;
Ac etto enwog itti yr wyf,
Gobeithiaw addaw ydd-wyf;
Pennaf nasiwn gwn gwmpas,
Erioed fuon ni o ras.
Cyntaf, Arglwydd mewn rhwyddhynt,
Fu o honom heb gam gynt.

  1. Y mae y Cywydd uchod yn cael ei briodoli i'r Dr. John Kent, mewn un hen Ysgrif lyfr; ac mewn un arall llawn mor oedranus, fe'i priodolir i Sion Dafydd Trefor: pa fodd bynag y mae yn hwn amryw o'r un llinellau ag a gair mewn Cywydd blaenorol o waith Sion Cent, "Ar Farwolaeth."