chymerodd ef yn ddystaw i'w law, rhag ofn y buasai yn dda iddo wrth ei wasanaeth. Cyn hir wele fenyw yn dyfod i mewn. Adnabu y morwr hi fel yr un a wnaethai ymgais am ei fywyd awr a haner yn ol.
"Gaenor," ebe'r dyn "yr wyt wedi aros yn hir heno."
"Do, ond yr oedd genyf dipyn o waith, a methais a gwneyd y cwbl hefyd."
"Beth fethaist ei wneyd, Gaenor?"
Aeth hithau dros hanes y llongddrylliad, a'i hymdrech i foddi y morwr, yn fanwl, a mawr y gofidiai oblegid ei haflwyddiant.
"Mae pob peth yn barod i hyny," ebe'r dyn, gan gyfeirio at rywbeth oedd yn gyd-ddealledig rhyngddo a Gaenor o'r blaen?
"A oes gennych ddyn i'm cynnorthwyo?"
"Yr wyf wedi meddwl am un, Sion Pant y rhos, ond nid wyf wedi son wrtho am y peth eto."
"Hen wlanen digalon ydyw Sion, ac ni wnaf ddim ag ef o gwbl, rhag ofn iddo ollwng y gath o'r cwd."
"Pwy a gawn, ynte?"
"Fi fy hun, os caf yr holl arian."
"Mae arnaf ofn na lwyddi i'w lladd, Gaenor, ac fe fuasai methiant yn ddigon i ddyrysu yr holl gynllun."
"Ho! peidiwch malio am hyny. Gwyr Gaenor ferch Ifan yn dda, pa fodd i wneyd gwaith felly; a buasai wedi llwyddo gyda'r morwr oni"Twrf yn y gongl lle y llechai y morwr, a daflodd y ddau i'r dychryn mwyaf. Rhuthrodd y dyn am ei ddryll, ond yr oedd y morwr mewn agwedd barod i'w ddefnyddio ei hun ar foment, os byddai galwad.
"Pwy, a pha beth ydwyt ?" ebe Gaenor, gan ddal ei chanwyll frwyn tuag ato, mewn agwedd fygythiol a mileinig.
"Ha! gelli hebgor yr ystumia yna," ebe'r morwr, gan bwyntio y dryll ati.
"Yr wyf yn adnabod dy lais feddyliwn," ebe hithau, mewn gradd o ddychryn.
"Felly," ebe'r morwr, gan ymddangos ar fin ei saethu; "tydi a wyddost am beth yr wyt yn cael dy saethu."
"Aros! Aros!" ebe'r dyn, "gad i ni ddeall ein gilydd, cyn niweidio ein gilydd."
"Beth sydd genyt i'w ddywedyd, ynte?" ebe'r morwr.
"Hyn-ai ti a ddaeth i'r lan o'r llongddrylliad?"
"Ie."
"A ydwyt yn gwybod pwy ydwyf?"
"Nac ydwyf; ac ni waeth genyf ychwaith."
"A glywaist ti son am y Marchogwr Du? Dyma fo," ebe'r dyn gan ymdorsythu o flaen y morwr.
"Wel rhoddaf derfyn ar ei branciau, ynte," ebe'r morwr, gan gyfeirio y dryll ato.
"Aros fynyd; deall fy mod yn wr boneddig o waed."
"Mynaf weled pa fath waed sydd genyt."
"Ymbwylla ddyn, a gad wybod a ddeallaist ti yr ymddiddan oedd rhyngom."
"Do."
"A wnei di ymuno â ni i weithio allan y cynllun?"
"Ar ba ammodau?"
"Ti gei gan punt, a dy holl gostau os llwyddi?"
"Ond ni addawaf, heb gael gwybod yr holl fanylion."
"Wel ynte a fedri di ladd dyn?"
"Medr mi warantaf," ebe Gaenor. "Ond mi ddymunwn iddo fo ro'i prawf i ni, trwy saethu mab y Person."
"Pwy ydyw hwnw?" ebe'r morwr.
"John Harries—y dyn a'th achubodd rhag myn'd dros y graig," ebe Gaenor.
"Medraf wneyd prawf heb fyn'd mor bell," ebe'r morwr gan fygwth saethu Gaenor eto.
"Pwyll, pwyll," ebe'r dyn. "A thithau Gaenor, paid a'i gynhyrfu. Ti" (gan droi at y morwr) "yw y dyn i mi. Awn i ffwrdd ar unwaith, a chei ddyfod yn fy ysgil. Ond beth yw dy enw?"
"Rhys Owain."
"Yn mha le y mae dy gartref ?"
"Yn Llaneugrad, yn Mon."
"Llaneugrad? A adwaenost ti aeres yr Ucheldref?"
"Adwaen yn dda."
"Ffodus iawn ynte. Gad i ni fyned ar unwaith."
"Aros fynyd," ebe'r morwr, "i ba le? a phwy wyt?"
"Fy enw," ebe yntau, "yw John Bodville, ac yr wyf yn gefnder i aeres yr Ucheldref."
Y mae yn rhaid i ni adael pob peth yn nglyn a chartref John Bodville, a dwyn y darllenydd i le arall. Ar y mynydd rhwng Dolgellau a Dinas Mawddwy, cyd-deithiai dyn a dynes, bob un ar ei farch. Y morwr o Laneugrad oedd y dyn, a gwraig John Bodville oedd y ferch.
"Meistres," ebe Rhys Owain, gan dynu yn awenau ei farch yn sydyn, "nid yw fy nhaith i fod yn ddim pellach na'r mynydd hwn."
"Beth? pa'm? Fy ngadael yma yn y nos fel hyn. Cawsoch orchymyn i'm hebrwng i Loegr at y meddyg, oni chawsoch?"
"Naddo. Mae'n debyg na chlywsoch am y cynllun."
"Pa gynllun?"
"Wel dywedaf wrthych ar fyr eiriau. Mae