eich gwr wedi syrthio mewn cariad â'i gefnither o'r Ucheldre' yn Llaneugrad."
"Y fulain tywyllodrus."
"Na, Na," ebe Rhys, gan gywiro ei hun, "mi gamgymerais. Y mae yn hytrach wedi syrthio mewn cariad â'i hettifeddiaeth."
"Ond pa faint haws ydyw er hyny?"
Dywedodd wrthyf fod yr ettifeddiaeth "wedi myned i gogail," ac mai yr unig ffordd iddo ef ei chael, ydyw trwy briodi yr etifeddes.
"Beth-Priodi? A oes arno eisiau dwy wraig?"
"Nac oes. Peidiwch a dychryn dim wrth i mi ddyweyd y cwbl wrthych. Yr wyf wedi penderfynu eich amddiffyn hyd yr eithaf, a dyma'r pa'm"——
Dywedwch yn ddi ymdroi ynte. Beth sydd arno ei eisiau?"
"Hyn-eich cael chwi o'r ffordd."
"Beth yw hyny?"
"Dyma ystyr hyny; y mae wedi addaw can' punt i mi-cofiwch hefyd fy mod am eich amddiffyn-os saethaf chwi yn farw ar y mynydd hwn, er mwyn iddo gael y ffordd yn glir i ddyfod i feddiant o ettifeddiaeth yr Ucheldref, trwy briodi yr etifeddes."
"A'i dyma eich neges gyda mi?"
"Ië, i hyn y cefais fy anfon."
"Ha adyn" meddai'r wraig mewn cynnwrf mawr, "gwna dy waith ynte. Paid a fy mhoeni yn hwy. Gwyn fyd na chawswn farw heb wybod dim am y peth. O! y mae yn chwerwach nag angau i mi wrando dy eiriau. Tynghedaf di, gwna dy waith ar fyrder. Gollwng dy ergyd angeuol i fy mynwes. Yr wyf yn barod!"
"Peidiwch cyffroi dim meistres bach, dywedais yr amddiffynwn chwi hyd yr eithaf." "A cholli y can' punt?"
"Ie, a mil o bunau pe byddai raid. Ar fy anrhydedd, a chewch wybod nad ydyw anrhydedd morwr yn siomedig; amddiffynaf chwi, a gellwch lwyr ymddiried ynof."
"O'r goreu, ynte, Diolch, ië, can mil diolch i chwi am eich caredigrwydd, Ei ad-dalu nis gallaf. Beth a wneir eto? I ba le y trown?"
"Y mae yn rhaid i ni beth bynag fod yn wyliadwrus rhag ystrywiau Gaenor ferch Ifan," ebe Rhys. "Y mae hi wedi derbyn ei thâl yn barod am gynnorthwyo yn hyn. Hi oedd wedi ei phenodi ar y cyntaf i wneyd y gwaith, ac y mae dialedd yn llosgi yn ei chalon. Penderfynais i gymeryd ei lle; a hyny gyda'r unig amcan o'ch achub. Buoch mor garedig ataf pan ddaethum i Bodvel. Os caf fy nghan' punt, anfonaf hwynt i chwi. Mae arnaf ofn fod Gaenor ar ein lledol yn rhywle; gan hyny y mae yn rhaid i ni ymadael. Ewch i—Ust! dyna Gân."
Yr oedd llais benyw i'w chlywed yn eglur yn adsain trwy'r cymoedd. Nid oeddynt yn ddigon agos i ddeall y Gân ond yn anmherffaith iawn. Dyma ranau o honi:—
Y mae ein teulu ni yn awr
Yn trigo yn y Dugoed mawr:
Cawn fyn'd ar lawer gwibiol hynt
Yn llwybrau'r Gwylliaid Cochion gynt.
Gwae i bob fynwes la no frad
Gwae pob Sion Rhydderch yn y wlad[1]
Mae'r Barwn Owain yn ei fedd
Ap Cadell fawr yn dwyn y cledd.
"Beth sydd yn bod mewn difrif ?" gofynai Rhys. "Tybed fod gwir yn y chwedl fod rhai o'r Gwylliaid Cochion yn y wlad eto. Yr oeddwn yn meddwl eu bod wedi cael eu llwyr ddinystrio gan y Barwn Owain er's dros dri ugain mlynedd. Ha! dyna ergyd-bloedd eto. Ysbeilwyr yn wir! Ffown i rywle, y mae eu twrw yn nesu. Ffown, ffown, onide byddant ar ein gwarthaf."
"Na, was, ni raid i ti ffoi," ebe llais croch o'r prysgwydd yn ymyl. "Nid oes neb o'ch bath chwi yn cael eu hysbeilio ar y mynydd yma. Yr ydym wedi penderfynu y caiff hen greuloniaid gorthrymus ein helpu ni, a chawn ninnau helpu y gweiniaid. Yr wyf wedi clywed yr hyn a ddywedasoch eich dau. Gwn am eich sefyllfa a'ch peryglon; ymunwch â'n mintai ni. A wyt ti yn deall was? (gan droi at Rhys Owain,) bydd di yn un o honom ni. Cewch eich dau eich amddiffyn, a'r pleser o weled Gaenor ferch Ifan yn gelain marw dirmygus: a chewch glywed John Bodville yn erfyn yn ofer am ei fywyd. Y cwbl cyn pen yr wythnos, was!"
"Mae yn rhaid i mi fod yn blaen" ebe Rhŷs Owain, "nis gallaf ymuno â chwi."
"Wel, ynte, nid oes le o fath y Dugoed mawr i dy feistres?"
"Nac oes yn wir os caf aros," ebe hithau.
"Aros, cewch, hyd nes y bydd John Bodville, a Gaenor ferch Ifan, yn y lle hwnw sydd yn boethach na'r purdan."
"Ha, gobeithiaf, na bydd i chwi wneyd un niwed i fy ngwr, beth bynag."
"Beth wraig, a'i nid ydych yn foddlawn i ladd yr un a amcanodd eich lladd chwi?"
"O, na peidiwch! Os caf fi fy amddiffyn, bydd hyny yn ddigon genyf."
"O'r goreu ynte, myfi ydyw y pennaeth," ac aeth y dyn dan chwibianu i gyfarfod mintai o ddynion yn arwain gwr ieuanc tal tuag ato.
"Yr ydym yn dwyn y llanc yma o'ch blaen, er gwybod pa beth a wnawn iddo," ebe un o'r dynion.
- ↑ Darfu i un Sion Rhydderch guddio nifer o'r Gwylliaid Cochion mewn das wair, ac yna eu bradychu i'r swyddogion; ac oddiwrth hyn y daw y ddihareb sydd yn amgylchoedd Mawddwy, "Mor ffals a Sion Rhydderch."