Yn unol a'r awgrymiad, er mwyn ei ddyogelwch ei hun, a chysur ei deulu, aeth Rhys i ymofyn Meistres Bodville, o'r Dugoed Mawr, a chynifer o dystion a allai ei gael. Daethant yn ei long i'r glanau cyfagos. Pan oeddynt gyferbyn ag ynys Moelfre, clywsant lais benyw yn y pellder, fel yn erfyn yn galed. Gwrandawent yn fanylach; ond darfu y llais; a chyn hir, clywent dwrf rhwyfau cwch yn ymgolli yn y pellder, yn nghyfeiriad y lan.
"Mae bron yn sicr," meddai Rhys Owain, fod hyn eto yn un o ystrywiau John Bodville, ond cawn weled pan laniwn."
Glaniasant yn nhraeth Dulas, ac aethant i letya i'r Rhosymynach, i aros i bethau gael eu parotoi er dwyn cyhuddiad ffurfiol yn erbyn John Bodville. Aeth Llwyd Llugwy atynt yno y cyfleustra cyntaf, er mwyn cael llawn foddlonrwydd o barth i wirionedd chwedl Rhys. Nid bychan oedd ei syndod, pan ganfu ei nai, John Harries, yn eu mysg.
"Yr wyf yn synu eich gweled yn y fath gwmpeini. A ellwch fy sicrhau mai nid twyll ydyw yr holl helynt hwn? meddai wrtho." Adroddodd y boneddwr ieuanc y cwbl a wyddai am yr achos, ac nis gallai ei ewythr ei ammeu.
"Yn awr," ebe Llwyd Llugwy, "ar ol gwrando ychydig ar y lleill, cawn fyned i'r Ucheldref i edrych beth a ellir wneyd."
Er eu syndod, pan oeddynt yn ymyl y ty, pwy a'u cyfarfyddodd ond Gruffydd Sion, gwr Rhosymynach, yn dychwelyd o fod yn rhoddi hysbysrwydd i John Bodville am ei letywyr, a'u dyben.
"Mae John Bodville," ebe'r amaethwr, "wedi cael ei daraw yn sal iawn er neithiwr; a mwy na'r cwbl, y mae y wraig wedi myned oddi cartref." "Peidiwn cymeryd ein twyllo yn hwy gan ddichellion John Bodville," ebe Llwyd Llugwy, "awn i mewn ato."
Felly y bu, ac yr oedd yn amlwg fod dywediad yr amaethwr yn wir.
"Ha! John Harries," ebe'r claf ai tydi sydd yna? Cynygiais dy lofruddio, ond methais. A faddeui di i mi? Na, na, ni ymostyngaf i ofyn dy faddeuant, a melldith a'th ddilyno byth. O! fyd arall-dychrynllyd, dychrynllyd! Rhys Owain a wyt tithau yna?--ti fy hen elyn.—Och! fywyd, pa bryd y dirwyni i ben? Yn mha le y mae'r meddyg? Yn mha le y mae'r arian?"
Llwyd Llugwy, John Harries, Rhys Owain, ac Ap Cadell, yn unig a aethant i ystafell y claf; ac yr oeddynt wedi eu taraw a'r fath syndod wrth ei wrando, fel na's gallent ddyweyd dim.
"Pwy wyt tithau eto?" meddai ar ol hylldremu am ychydig ar Ap Cadell. "Tithau hefyd, Llwyd Llugwy, beth a fyni di yma? Rhys Owain eto? Yr wyf ar fy nhir fy hun yn awr onid wyf Rhys? Ewch ymaith mewn mynyd, a gadewch imi farw! Yr wyf wedi eich poeni pan yn fyw, a mynaf eich poeni ar ol marw hefyd. Ymaith! ymaith!"
Cyn hir, wele fenyw ddychrynllyd ei golwg i mewn. Adnabu Harries, a Rhys Owain hi ar unwaith. Hi ydoedd Gaenor ferch Ifan.
"Y mae yma foneddiges eisiau dy weled," ebe Gaenor wrth y claf mewn gwatwariaeth; "Oes, oes, mi a'th ddysgaf di i'm rhegi. Gwnaf fileinddyn! Wedi dy wasanaethu ar hyd fy oes, a thithau yn troi yn fy erbyn yn y diwedd, aie? Felly, gad i hyny fod. A wyt ti yn cofio echnos? A ydyw gwaeddiadau torcalonus dy wraig pan foddaist hi, wedi dystewi yn dy glustiau eto? Ha! aros fynyd!"
Aeth Gaenor ferch Ifan o'r ystafell, ac mewn byr amser daeth yn ol, gyda chorph marw gwlŷb yn ei breichiau.
"John Bodville," meddai, "edrych. Dyma dy wraig. Gwel fel y mae yn gwenu arnat. Ti dy hunan a'i boddaist, ac y mae y môr yn mynu datguddio dy anfadrwydd. Cefais hi ar draeth Llugwy, a dygais hi i'th gyhuddo."
"Gaenor ferch Ifan," ebe yntau, "ti a'm gwnaeth yr hyn ydwyf. Ie ti, ellylles! O! na chawn ddial arnat!"
"Dial dial!" llefai Gaenor, "cawn weled beth a elli ei wneyd," gan ruthro tuag atto, a buasai wedi ymosod arno oni buasai iddi gael ei hatal trwy orthrech.
"Ond" meddai, gan watwar-ffugio gostyngeiddrwydd mawr; "agaf fi gyflwyno y foneddiges hon i chwi, syr? Dyma'r genau fu yn erfyn mor daer am arbediad, ond yn ofer. Ië John Bodville, dyma'r foneddiges," a gwnaeth ymgais i gilgwthio y corph ato.
"Beth" ebe'r claf "a wnaethost i'r—"
"Taw."
"Y gyllell y buost trwy y dydd yn ei hogi. yn mha le y mae hono, Gaenor ferch Ifan?" ebe yntau.
"Gaenor," ebe Rhys Owain, "y mae genyf air à thi. Tyred gyda mi i'r ystafell nesaf.
Dyma ni yn awr, y mae genyf y pleser o gyflwyno i ti y foneddiges hon. A wyt ti yn ei hadnabod?" gan gyfeirio at wraig gyntaf John Bodville.
"Beth yw hyn Rhys Owain?"
"Beth yw hyn a ofyni?" ebe yntau. "Dyma ydyw, dy gynllun melldigedig di wedi troi yn fethiant. Ha! Gaenor ferch Ifan, cei dy alw i gyfrif am hyn."
"Felly," ebe Gaenor, gan wasgu ei gwefusau hagr at eu gilydd, fel pe buasai rhyw benderfyniad dychrynllyd wedi cael ei ffurfio yn ei meddwl
y mynyd hwnw. Aeth allan, a gwelwyd hi yn