Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu/147

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhedeg yn wyllt i gyfeiriad y môr, ond ni welwyd hi, ac ni chlywyd gair o'i hanes mwyach Credai y bobl gyffredin i'r diafol ei chymeryd gorph ac enaid; ac y mae traddodiad cyffelyb hyn yn aros yn y fro hyd heddyw. Y tebygol rwydd ydyw, iddi ymdaflu i'r môr, a boddi, ac i'r llanw ei dwyn ymaith.

Yroedd John Bodville yn gwanhau yn gyflym Tybiwyd yn addas i Meistres Bodville fyned ato Clywodd y claf dwrf rhywun yn dyfod i' ystafell.

"Ha!" meddai, "brysiwch; trowch Gaenor ferch Ifan allan. Hi sydd wedi fy ninystrio Ymaith! ymaith! ti forwyn y diafol. Ymaith ti wrthun — beth ysgymun. Yr wyf yn dy gashau à chasineb angerddol. Bydd y tywyllwch eithaf yn lle rhy dda i ti, ymaith! ymaith! Och fi," meddai pan ganfu ei gamgymeriad, "beth? Gad i mi siglo llaw a thi. Na, na, yr wyt yn dy fedd er's llawer blwyddyn. A gyf odaist ti i'm cyhuddo? Dos yn ol, dos yn ol; deuaf atat yn union. O! fywyd! pa bryd y gadewi fi? Na—gwell genyf fyw hefyd. Ar ol hyn! ar ol hyn!

"Syrthiodd mewn llewyg; ond yn fuan cafodd raddau o adferiad.

"Ffarwel," meddai, "A gaf fi siglo llaw gyda chwi unwaith?" gan gyfeirio at Meistres Bodville. Dyma derfyn fy holl ymdrech am gyfoeth. Yr wyf yn myned-rhyw dywyllwch—heb ddim! Ymdrafferthais yn ofer. Ffarwel."

"Ffarwel," ebe hithau, "os da a gwnaethoch da a gewch, yr wyf yn maddeu y cwbl i chwi; a gobeithiaf fod UN arall yn maddeu i chwi hefyd."

"Rhy ddiweddar—i son-am hyny," ebe yntau, a bu farw yn esiampl ddychrynllyd o farwolaeth bydolddyn.

OL-NODIAD. Ar brydiau, flyneddau yn ol, clywid bloeddiadau calondreiddiol yn yr awyr, yn Llaneugrad a'i amgylchoedd. Mae rhai ugeiniau o bobl barchus eto yn fyw, a allant dystio i wirionedd hyn. Yr ydym yn foddlawn i'r athronwyr deallus sydd yn gallu egluro y cyfryw bethau, i roddi esboniad ar yr achos o hono. Mae traddodiad yn ein sicrhau, fod rhyw gysylltiad rhyngddo a'r cymeriad a ddarluniasom. — JOHN BODVILLE.

OLION DOETHINEB DDERWYDDOL.
GAN "BRUTUS."

Y mae pob cenhedloedd ag ydynt gwedi ymgasglu a chydgorpholi yn rheolaidd, yn ystyried eu henafiaethau fel cynnifer o weddillion cyssegredig, a adawyd iddynt gan eu henafiaid yn oesoedd pellaf eu hanfodaeth. Yr ydym yn cael yr Israeliad yn ennyn yn holl falchder ei dadau, pan yn myfyrio ar y colofnau anfarwol a adeiladwyd gan ei genedl yn hen ddyddiau ei mawredd a'i gogoniant. Yr un peth a ellir ei ddywedyd am y Groegwr, y Rhufeiniwr, yr Arabiad, yr Hindwad, a'r Chinead; ac oni all y Celtiad hefyd honi yr un hawl i'r duedd gyffredinol hon, pan ag y mae yn ffaith a gydnabyddir yn gyffredinol, fod ymchwiliadau, hyd yn nod yn nyrysfeydd tywyllion traddodiadau a hen chwedlau cenhedloedd, yn fynych yn arwain at y darganfyddiadau pwysiccaf? Pan ystyrir bod llwyth y Brython gwedi bod mor honnaid ym mhlith y llwythau boreuol; pan ystyrir mudiadau yr hen genedl hon, ei gwroldeb, ei chymeriad anymddibynol, ei buddugoliaethau, ei maeddiadau, a'r erlidigaethau a fuont arni; ac er hyn oll, bod gweddill o honi yn aros hyd heddyw fel cenedl, a'r holl beirianwaith, mewn yspryd, iaith, arferion, defodau, a thraddodiadau, mewn gweithrediad cyflawn; nid yw yn rhyfedd fod y Brython yn ymddyrchafu pan yn ymhwylio ym mlaen ym maes henafiaeth, oblegid y mae mor bwysig yno ag y dichon i unrhyw ddyn fod. Y pwnge ag sydd yn tynu fwyaf o sylw, braidd, mewn henafiaeth Geltaidd, ydyw y gyssegr-lywodraeth, neu'r offeiriadaeth, gyda ei duwinyddiaeth ddiaddurn, a'i hathrawiaethau ymarferol, dylanwad pa rai yn ddiau a fu y moddion penaf yn ffurfiad y cymeriad Celtaidd. Mewn perthynas i grefydd y Derwyddon, os nad ydoedd yn hollol batriarchaidd, yr ydoedd yn oruwch adeiladaeth ar sail y grefydd batriarchaidd ei hun; a phan feddyliom am grefyddau yr Aifftiaid, y Caldeaid, y Groegiaid, y Rhufeiniaid, a'r Hindwaid, ynghyd a'u hathrawiaethau, eu defodau, eu gwrthunwch, a'u bod mor wrthwynebol i synwyr cyffredin ag ydynt i deimladau goreu ein natur, gallwn yn mron gyhoeddi Derwyddiaeth yn grefydd bur, ac anllygredig. Ni ellir pennodi amser pan ymsefydlodd llwyth o Geltiaid gyntaf yn Ynys Prydain; ac yn nghroniclau ein hanesyddiaeth, y mae rhai, mwy neillduol am eu penboethni na'u synwyr, gwedi pennodi cyfnod eu trigianniad yma ddwy fil o flyneddoedd cyn geni ein Hinchawdwr; sef tu ar amser y croesodd Abraham yr Euphrates, pan ddaeth allan o Ur y Caldeaid. Ond pan y cymmerwn dan ein hystyriaethau, mor araf y trigiennid parthau pellenig y byd, a'r amser a ofynid i gynnyrchu gor-boblogaeth, fel ag i'w gwneuthur yn anghenrheidiol i ryw gyfran fudo ymaith, y mae dwy fil o flyneddoedd cyn Crist, braidd yn gyfnod rhy fore i'w benderfynu fel amser trigianniad cyntaf Prydain gan lwyth o'r Celtiaid Y mae Mr. Whittaker, yn ei hanes