am Manchester, yn pennodi i'r trigianiad cyntaf yma gymeryd lle yng nghylch mil o flyneddoedd cyn geni ein Hiachawdwr, sef ar gyfer amserau Dafydd, a Solomon, brenhinoedd Israel; ac yn hyn y mae amryw haneswyr eraill yn cyduno âg ef; ac wrth ystyried pob peth, ymddengys y cyfnod hwn yn nes i'w le nag un arall. Yn ngwasgariad cyffredinol dynolryw, yn ol eu llwythau, a'u teuluoedd, o wastadedd Sinar, gwedi cymmysgu yr ieithoedd, yr oedd pob llwyth yn credu yn, ac yn ymarfer â'r grefydd a ddysgwyd gan ail-seilydd yr hiliogaeth ddynol. Ond gwedi i ychydig oesau fyned heibio, llygrwyd y grefydd batriarchaidd yn fawr yn mhlith yr holl genhedloedd, namyn yr Hebreaid yn unig, a hwy a ddilynasant oferedd eu meddyliau yn eu tywyllwch. Eithr o bob cenhedloedd, y Celtiaid a gadwasant yr hen grefydd yn ei phurdeb gwreiddiol oreu o bawb, dan yr enw Derwyddiaeth. Gelwid yr offeiriaid Celtaidd wrth yr enw Gwyddon, a hyny yn arwyddo naill ai dynion y coed, dysgawdwyr y coed, neu offeiriaid yn y coed; neu fe allai yn fwy tebygol, dynion yn meddianu gwybodaeth; philosophyddion; dynion o wyddiant a dysgeidiaeth; a bryn Gwyddon ydoedd un y o dri phrif-leoedd ymgynnulliad Beirdd Ynys Prydain. Eithr megis ag yr ydoedd yr offeiriaid hyn yn dysgu y bobl, ac yn cyflawni eu defodau, mewn lleoedd coediog, ac yn enwedig dan gysgod y derw canghenog, rhoddwyd y blaenddawd Derw o flaen Gwyddon, ac efelly y galwyd hwynt, Derwyddon, pa enw sydd yn aros yn ddigyfnewid hyd y dydd hwn. A gellir sylwi yma, mai nid rhyw beth newydd, neu ychwanegiad o eiddo y Derwyddon, ydoedd addoli y Duwdod mewn coedydd a llwyni; oblegid perthynai hyn i'r hen grefydd foreuol yn mhlith teulu Sem, hyd oni sefydlwyd yr oruchwyliaeth Iuddewig drwy Foses yn mhlith meibion Israel. Er yr ystyrid Derwyddiaeth Ynys Prydain yn uwch, ac yn burach nag un gangen arall o'r grefydd hon, eto hi a lygrwyd i raddau helaeth mewn amser, gan egwyddorion crefydd estronol. Crybwylla y Trioedd am amryw oresgyniadau a wnaed ar Ynys Prydain cyn Cred; megis gan y Coraniaid, gan y Pictiaid Gwyddelig, gan y Scandinafiaid, a chan Ganfal, y Gwyddyl, yr hwn a fu yn meddiannu Gogledd Cymru am ugain mlynedd, hyd oni ymlidiwyd ef ymaith gan Gaswallawn Law Hir. Ond yr oedd perygl llygriad Derwyddiaeth yn llai oddi wrth elynion, nag oddiwrth gyfeillgarwch y Phenisiaid, a'r Groegiaid, y rhai a fasnachent à brodorion Prydain yn yr hen amserau. Yr oedd y masnachwyr eilunaddolgar ar delerau cyfeillgar â'r brodorion cyntefig, ac yn cael cyfleusderau mynych i wasgaru yn mhlith y bobl eu syniadau coel grefyddol, a'u defodau; ac yn hyn hwy a lwyddasant i raddau. Gwedi i'r llygriadau hyn gael gafael yn y bobl, mewn amser hwy a effeithiasant ar yr offeiriadaeth, ond nid mor bell a dymchwelyd y grefydd Dderwyddol ei hun; a phan ddarfu i'r gallu Rhufeinig gael ei sefydlu yn Mrydain, gwanhaodd yr hen grefydd Dderwyddol yn fawr, a llanwyd yr ynys o ffieidd-dra delw-addoliaeth; ond nid yn hir y parhaodd y nos hon yma.
Yr oedd cyflwr yr offeiriadaeth Dderwyddol yn Gâl a Phrydain yn uchel iawn, a'i chymmeriad yn bwysig yn y ddwy wlad. Dyweda Caisar, mai gan y Derwyddon yr oedd arolygiaeth pob peth crefyddol; mai ganddynt hwy yr oedd gofal yr aberthau; mai hwynthwy oeddynt ddehonglwyr pyngciau dyrus; mai hwynthwy oeddynt ddysgawdwyr yr ieuengetyd, a barnwyr pethau dadleugar; a bod eu hesgymundod o ganlyniadau mor arswydus i'r esgymunedigion, fel ag yr oeddynt yn cael eu hamddifadu o'u dinasyddiaeth, y cwlwm cymdeithasol yn cael ei dorri, a'r diarddeledig yn alltud yn mhlith ei berthynasau a'i gyfeillion. Dyweda Caisar ym mhellach, na fyddai y Derwyddon byth yn gwisgo arfau, nac yn talu treth, a'u bod yn mhob ystyr, yn ddynion rhyddion oddiwrth bob rhwymedigaethau a pherthynasau lleygol. Dyweda Caisar ym mhellach, ac y mae y dywediad hwn wedi cael ei ail adrodd gan bob haneswyr ar ei ol, sef bod y Derwyddon yn ei ystyried yn annghyfreithlon i roddi dim o'u hathrawiaethau mewn ysgrifen, a bod eu hysgolheigion, a'r ymgeisyddion am yr offeiriadaeth, yn gorfod dysgu, a thrysori y cwbl yn eu cof; a'u bod ynghylch ugain mlynedd yn ymbarottoi gyferbyn a'r Weinidogaeth Dderwyddol, cyn y derbynient gyflawn urddau i weinyddu ei dirgelion. Mae dywediad Caesar, ynghylch y gomeddiad o roddi yr athrawiaethau Derwyddol mewn ysgrifen, wedi effeithio yn wenwynig ar hen Lenyddiaeth Gymreig; y mae wedi dirymmu, ac wedi marweiddio ymchwiliadau henafiaethwyr i athrawiaethau a dysgeidiaeth y Derwyddon. "Ni ysgrifenent ddim; o ganlyniad, mae braidd y cwbl gwedi myned ar ddifancoll, ond rhyw weddillion bychain a geir yma ac accw yn nhryblith hen adfeilion." Dyma a ddyweda yr haneswyr; ac felly, âg un ergyd, ysgubir Derwyddiaeth, a'r hyn a berthyn iddi, dros y bwrdd ar unwaith, a gadewir ninnau yn magddu y tywyllwch. Ond, yr wyf yn sylwi, ni wna hyn y tro, ac ni chaniatteir i'r pwnge i gael ei benderfynu fel hyn hefyd. Pan ag y mae cenhedloedd a fuont unwaith yn enwog a chedyrn gwedi diflanu; a phan ag y mae hen ddinasoedd, a'u muriau a'u rhagfuriau, a'u temlau, a cholofnau eu cadernid gwedi ymollwng i lwch tragywydd, yr ydym ni, gweddillion pobl a fuont