Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu/149

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

unwaith yn flodeuog, ac yn cerdded ar y pummed mil o flynyddoedd o'n hanfodiad, yn aros hyd yma ar lechres y Cenhedloedd, ac yn cael ein cydnabod fel hiliogaeth y gwroniaid a wnaethant i'r llengau Rhufeinig grynu am eu diogelwch, er yn cael eu llywyddu gan y cadfridogion pennaf a arweiniasant fyddinoedd erioed i faes y rhyfel; nid ni ydynt y dynion a ymostyngant i benderfyniadau tra-awdurdodus haneswyr, pa rai a'n difeddiannent pe gallent o'n meddiant llenyddol cyfreithlon.

Yr oedd y Sefydliad Derwyddol, neu Urdd, neu Gyssegr-lywodraeth, neu Offeiriadaeth, neu pa beth bynag a ddewisir ei galw, yn ogyfoed a'n cenhedlaetholdeb; ac o wasgariad dynolryw yn Mabel, hyd ddyfodiad Cristionogaeth i Brydain, aeth ynghylch dwy fil, dau cant, a thair ar ddeg a thrugain o flyneddoedd heibio; a thrwy yr yspaid hirfaith hwn, yr oedd y Gyssegr-lywodraeth Dderwyddol yn trysori doethineb a gwybodaeth, fel ag yr oedd oesau yn dilyn oesau; ac er bod yr ysgogiad yn araf, yr oedd yn ysgogi yn barhaus; a phan gymerir eu hen arwyddair dan ystyriaeth, sef "y gwir yn erbyn y byd," yn mhlith pob urdd o bobl, nid oedd neb mor ddi-lyffetheiriau ac mor rhydd i ymofyn am wybodaeth, a'r Derwyddon, na neb mor ddiragfarn i dderbyn addysg o ba le bynag y deilliai; hwy yn gyntaf a chwilient, ac yna a dderbynient, neu a wrthodent. Yr oedd defodau derbyniad i'r Offeiriadaeth; rhyw nifer o arferion cyssegredig, a rhyw ddirgelion pennodol; a phan fyddai y rhai hyn yn cael eu cyflawni, eu hiaith ydoedd, "Procul, O procul, este profani!" Ond yr oedd eu duwinyddiaeth, eu harwireddau, eu rheolau o foesoldeb, cyfarwyddiadau eu dyledswyddau, &c., yn cael eu dysgu i'r bobl yn ddiwahaniaeth. Ac a ydyw yn alluadwy fod yr holl gyflawnder hwn of ddoethineb a gwybodaeth gwedi ei golli yn anadferadwy? A ydyw yn alluadwy bod holl weddillion yr hen dduwinyddiaeth gwedi myned i dragwyddol ddifancoll? A ydyw yn alluadwy fod yr hen arwireddau a ddysgwyd i'n cyndeidiau, a effeithiasant ar eu hymddygiadau am filoedd o flyneddau, ac a ffurfiasant eu cymmeriad cenedlaethol, gwedi eu claddu byth mewn anghof tragwyddol? Mae dynion nodedig, dynion enwog am eu gwybodaeth lenyddol, ar y Cyfandir, yn gystal ag yn Lloegr, gwedi treulio llawer iawn o'u hamser a'u talentau mewn ymchwiliadau am athrawiaethau ac arwireddau y Derwyddon; ond gwedi methu, am fyned of honynt ar ol y pwnge ar hyd trawslwybrau, ac nid ar hyd y llwybr cywir. Pe buasent hwy yn eu hymchwiliadau yn wynebu ar gongl o Ynys Prydain, a elwir Cymru, yn mhlith pobl ag ydynt yn hiliogaeth yr hen Frythoniaid, yn mhlith y rhai y blagurodd Derwyddiaeth, a'r rhai a lafarant yn bresenol iaith yr hen Dderwyddon, yn yr hon y cyflawnent eu defodau, gallasent gyrhaeddyd gwrthddrych eu hymchwiliadau. Trwy holl gyfnod yr ymchwiliadau hyn ar ol Derwyddiaeth, yr oedd trysor cyforiog o goffadwriaethau ar y pyngciau hyn yn aros yn dawel yn nghaeadau gwëoedd y pryf coppyn, ac yn orchuddiedig gan lwch oesoedd, yn ngwahanol barthau y Dywysogaeth. Y mae genym ni yr athrawiaethau Derwyddol, eu harwireddau, &c., yn y Trioedd, ac yn y cyfansoddiadau a briodolir i Gattwg Ddoeth. Mae ein Trioedd ni yn sefyll eu hunain, ac ar eu seiliau eu hunain, yn holl fawredd eu cyfoeth, yn nghanol llenyddiaeth hen a diweddar. Maent yn anghydmarol yn nghrynodeb eu cyfansoddiad, yn harddwch yr ymadroddion, yn symlrwydd y dullwedd, ac yn eu cyfaddasrwydd i fynu gafael yn y sylw; ac y mae yn amlwg arnynt, argraph anileadwy henafiaeth. Y mae genym y tystiolaethau sicraf a mwyaf diymwad, bod yr hen Dderwyddon yn trosglwyddo doethineb a gwybodaeth yn ffurf Trioedd; a gellir, gyda golwg ar hyn, grybwyll yn neillduol am Pomponius Mela, a Diogenes Laertius. Yn y Triad a ddyfynir gan Mela, y mae y gyfryw ddoethineb yn cael ei datgan, ag a geir yn ngweithiau neb o ddoethion henafol y ddaear:—

"Rhagori mewn rhyfel,
Bod yr eneidiau yn anfarwol,
A bod buchedd arall iddynt."

Y Triad Derwyddol a ddyfynir gan Diogenes Laertius sydd fel y canlyn:—

"Addoli y duwiau,
Peidio gwneuthur drwg,
Ac arferyd gwrolder."

Gadawer i'r Derwyddon lefaru drostynt eu hunain; oblegid yn fynych iawn y maent yn cael cam truenus gan anwybodusion. Y mae eu barn am natur y Duwdod yn gynhwysfawr iawn, yn y wers neillduol ganlynol:—

"Nid dim ond Duw,
Nid Duw ond Dim;"

hyny ydyw, mae yn debygol,-"Ni all Duw fod yn ddefnydd (matter); a'r hyn nid yw ddefnydd, a raid fod yn Dduw." Yn yr hen Drioedd, cydnabyddir un Duw, ac na all mwy nag un Duw hanfodi; a'i fod yn cynwys y Bywyd. mwyaf, yr Wybodaeth fwyaf, a'r Gallu mwyaf. Dyweda y Trioedd fod yn analluadwy i Dduw beidio bod yr hyn a ddylai daioni perffaith fod, a'r hyn ag y mae daioni perffaith yn alluog i'w gyflawni. Gyda golwg ar yr hyn a wnaeth Duw, ac a wna Duw, dyweda y Trioedd fod tri