Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu/150

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pheth yn dangos hyny; Gallu anfeidrol, Doethineb anfeidrol, a Chariad anfeidrol. Etto, crybwyllant am dri pheth ag na all Duw beidio a'u cyflawni; sef yr hyn sydd fwyaf buddiol, yr hyn sydd fwyaf angenrheidiol, a'r hyn sydd harddaf o bob peth; a dyweda y Trioedd am dair prif briodoledd Duw, mai llawnder anfeidrol o Fywyd, o Wybodaeth, ac o Allu ydynt. Dyma ychydig o lawer o feddyliau a thybiadau yr hen Dderwyddon draw, ym moreu yr oesau, am y Duwdod uchel a bendigedig; a thyma yr athrawiaethau a ddysgent am dano; pa rai er mwyn eu cynwys mewn ychydig ymadroddion, a'u hargraphu yn hawddach ar y meddwl, a gyfleid yn ffurf Trioedd.

Mewn perthynas i olygiadau y Derwyddon am ddaioni moesol, dywedant am dair prif egwyddor doethineb, mai ufudd-dod igyfreithiau Duw, gofal am ddaioni yr hiliogaeth ddynol, a dyoddef gyd â gwrolder holl ddygwyddiadau bywyd ydynt. Mai tair cyfraith fawr gweithrediadau dyn ydynt,-yr hyn a wahardda yn arall, yr hyn a ofyna oddi wrth arall, a'r hyn ni ofala pa fodd ei cyflawnir gan arall. Mai tri dyben gwybodaeth ydyw; dyledswydd, defnyddioldeb, a gweddeidd-dra; mai tri chwerthiniad yr ynfyd ydyw; am y da, am y drwg, ac am yr hyn ni ŵyr pa beth.

Gyd a golwg ar olygiadau y Derwyddon am ddrwg moesol, dywedant, mai tri pheth sydd yn llygru y byd; balchder, gormodedd, a segurdod. Bod tri pheth na wna Duw garu yr hwn a edrycho arnynt; sef ymladd, anghenfil, rhodres y byd. Bod tri pheth yn waharddedig i Fardd; sef anfoesoldeb, duchanu, a dwyn arfau.

Diammeu bod amryw o'r hen Drioedd Derwyddol yn cynwys syniadau na chaniateir gan y grefydd Gristionogol; ond gadawyd yr hen dybiau, a'r hen syniadau cyfeiliornus allan gan adysgrifwyr Cristionogol; y rhai a'u cyfleasant, lawer o honynt, mewn iaith fwy dealladwy; a gwnaed y diwygiad hwn i'r fath radd o berffeithrwydd, fel ag y mae yn anhawdd cael unrhyw gyfeiliornad athrawiaethol ynddynt, neu unrhyw dyb niweidiol; ac mewn nifer lliosog o'r Trioedd, braidd y ceir unrhyw beth ag sydd yn Gristionogol, yn briodol felly, neu unrhyw gyfeiriad at ordinhadau Cristionogol; yr hyn sydd brawf tebygol, eu bod yn wreiddiol Dderwyddol, ac wedi eu cyfansoddi cyn y cyfnod Cristionogol. Y Gweithiau, neu y pryddestau a briodolir i Cattwg ddoeth, ydynt o werth a rhagoriaeth mawr; ac yr oedd clod Cattwg am ei ddoethineb mor fawr, mor helaeth, ac mor gyffredinol, fel mewn amser, y tadogwyd holl weddillion doethineb yr oesau gynt, braidd, iddo. Cattwg Ddoeth ydoedd fab Gwynlliw Filwr, Arglwydd Gwynllwng yn Morganwg, yr hwn a flodeuodd tua therfyn y pummed canrif. Efe a ddygwyd i fynu i'r Eglwys; a phan wnaed Dyfrig yn Esgob Llandaf, gwnaed Cattwg Ddoeth yn Abad Llancarfan. Yr oedd Cattwg yr Eglwyswr mwyaf nodedig ac enwog yn ei oes am dduwioldeb, doethineb, dysgeidiaeth, ac ymroddiad i'w ddyledswyddau gweinidogaethol; a'r fath oedd ei barch yn ngolwg ei gydwladwyr, fel y galwyd ynghylch pumtheg o Eglwysi ar ei enw; pa rai a arosant hyd heddyw yn golofnau o'i lafur a'i glod. Ond er fod y pryddestau a briodolir i Cattwg yn llawn doethineb, a rhagorion, a phrydferthion, ac o dueddiadau moesol hollol; eto nid ydynt y cyfryw ag ellid ddysgwyl oddi wrth Offeiriad Cristionogol o gymeriad efengylaidd Cattwg; mae ynddynt fwy o'r Philosoffydd. nag o'r Eglwyswr.

Gwedi terfyniad Cymanfa Eglwysig Llanddewi Brefi, penderfynodd amryw Eglwyswyr fudo i Ynys Enlli, oblegid y cynhyrfiadau a'r aflonyddwch beunyddiol ydoedd yn y wlad. Gofynasant gyngor i Cattwg Ddoeth, ac yn ei ateb i'r Preladiaid, ac eraill, yr ydym yn ei gael yn ei gymeriad cyflawn fel gweinidog i'r Duw Goruchaf, yn atteb braidd mewn ymadroddion ysprydoledig:—

"Pan oedd Saint Senedd Frefi
Yn ol gwiw bregeth Dewi,
Wrth arch pryffwn prophwydi,
Yn myned i Ynys Enlli,
Er ymwared o bob rhwystri;
A hir gymhell cymhelri,
Yna dywedes Cybi,
Pa fyd a geir yn ngweilgi,
Pa fwyd yn ymborth ini
Yn nghanol y mor heli?"


Cattwg a ddywaid wrth Ddewi,

"Fal y gwnai y prophwyd Eli,
Duw a ro gynghor i chwi
Ar foroedd a daieri,
Goddefwch bob caledi,
Ni ellir lles o ddiogi,
Trech doethineb no gwegi,
Trech llafur no direidi,
Dirwest, a chred, a gweddi
A orfydd ar bob cyfyngi.
Mil canhaws gan Dduw roddi
No chan ddyn diddym erchi;
O chredir llyfr Generi,
Yr hwn a wiria ini
Na chafas ddyn ei eni
Heb gael gan Duw ei borthi.
Gwellgwell Dduw o'i addoli,
Gwaethwaeth y diawl o'i berchi.
Nag ofnwch a ddaw ichwi
Fwy no'r fwyalch yng ngelli.
Nid ardd nid erddir iddi,
Nid llawenach neb no hi.
Archwn bawb i Dduw Celi,
Arglwydd yr holl Arglwyddi,
Er Iesu a'i bum' weli,
Ein dwyn drwy bob cyfrwystri,
A'i gael yn ganllaw ini,
Ac ni bydd raid i neb ofni."