colli, y darfu i'r Beirdd, y rhai hwythau oeddynt yn perthyn i'r sefydliad Derwyddol, eu rhoi mewn ysgrifen. Cyhoeddiad Cristionogaeth yn Ynys Prydain, a roes ergyd marwol i Dderwyddiaeth; oblegid, pan ymholodd y Derwyddon i'w hathrawiaethau, hwy a'i derbyniasant gyd à sél. Er i Dderwyddiaeth fel crefydd ddarfod, eto y moesoldeb, a'r dyledswyddau a ddysgid gan yr hen grefydd, a gymhellid gyd ag hyawdledd adnewyddol, pan gefnogid hwynt gan y grefydd newydd; ac fel hyn, drwy y Beirdd, a thrwy y gweinidogion Cristionogol Derwyddol, cadwyd yr hen ddywediadau rhag ebargofiad, a hwy a drosglwyddwyd i'r oesau dilynol. Mewn amser, llygrwyd llawer o'r hen ddywediadau, a llawer iawn o'r geiriau a aethant yn annealladwy, fel ag y bu yn anghenrheidiol ail gyfansoddi llawer iawn o honynt, a chyfleu y nifer liosoccaf o honynt mewn diwyg mwy diweddar, i'r dyben o'u gwneuthur yn fwy dealladwy; ond y mae rhai o honynt eto mor annealladwy a theyrnas hen Nos. Gwerthfawrogid y dywediadau hyn gan Cattwg Ddoeth; a chan ei fod yn addas neillduol i'r gorchwyl, gwnaeth gasgliad ardderchog o honynt, mewn rhyw ddull a rhediad prydyddol, ond nid yn ol unrhyw reolau barddonol; ac eto yn y fath fodd, fel, gwedi darllen y llinell gyntaf, rhaid myned drwy y llinellau eraill gyd â y fath fuandra, fel ag y mae yn berygl i un golli ei anadl. Rhoddaf un engraifft:—
"Nid bywyd heb ryddid,
Nid rhyddid heb lywodraeth,
Nid llywodraeth heb ddoethineb,
Nid doethineb heb gyfiawnder,
Nid cyfiawnder heb drugaredd,
Nid trugaredd heb gariad,
Nid cariad heb haelioni,
Nid haelioni heb ystyr
Nid ystyr heb ddeall,
Nid deall heb awen,
Nid awen heb bwyll,
Nid pwyll heb athrylith,
Nid athrylith heb anian,
Nid anian ond crofydd,
Nid crefydd ond gwirionedd,
Nid gwirionedd ond gwybodaeth,
Nid gwybodaeth ond cred,
Nid cred heb dystiolaeth,
Nid tystiolaeth ond prawf,
Nid prawf ond ymgais!
Am hynny ymgais y cyfan."
Diau i Gattwg ddiwygio cymmaint ag a allodd
gasglu, a chymmaint ag ydoedd ar gof a chadw
o'r hen ddywediadau; ond oblegid y rhyfeloedd
hirfeithion a'r Saeson, ynghyd a'r goresgyniadau Danaidd, a Normanaidd; a'u buddugoliaethau, ac yn bennaf drwy ymrysonau rhyfeloedd y Cymry a'u gilydd, gwasgarwyd trysorau
llenyddol yr hen Frythoniaid, a chollwyd llawer
iawn o honynt yn dragywydd. Llosgwyd
Abattai a Mynachlogydd, a chyd â hwynt
ysgrifau gwerthfawr, yn cynwys doethineb yr
hen oesoedd; ac oni buasai nifer o feirdd gwladgarol cadair Tir Iarll yn Morganwg, y rhai a
gadwasant ychydig weddillion o honynt, buasem
ni yn gwbl amddifad o ddoethineb ein hynafiaid.
Bu y diweddar enwog Iolo Morganwg, o goffadwriaeth anfarwol, yn ddidor yn ei ymchwiliadau am ddoethineb yr hen Frythoniaid; a
chasglodd ynghyd nifer mawr o'r Trioedd, a
dywediadau eraill, a roddid ar enw Cattwg
Ddoeth; oblegid mai efe a wnaeth y casgliad,
ac a'i hargraphodd â'i awdurdod ei hun. Yn
Ngwent a Morganwg y cadwyd y rhan fwyaf
o'n hen lenyddiaeth ni; canys yno yn unig y
cadwyd yr Urdd Farddonol mewn olyniad
didor, o'r amser y blodeuodd fel yr ail radd yn
yr Urdd Dderwyddol. Nid ydoedd yr Eisteddfod Farddonawl a gadwyd yng Nghaerfyrddin,
yn y flwyddyn 1450, pryd y darfu i Ddafydd
ab Edmund, Bardd o Ogledd Cymru, arddodi
yn hoccedus ar y beirdd, ac eraill ag oeddynt
yn bresenol; nid ydoedd yr Eisteddfod hon ond
ffug, wedi ei gwisgo âg awdurdod leygol, fel
ag iddi gael ei hystyried yn awdurdodol a
chyfreithlon. Gwedi ymadawiad y Rhufeiniaid
o gylch y flwyddyn 400, hyd y flwyddyn 500, y
Beirdd, nid yn unig a gyd-gorphorasant eu
hunain yn yr hen Urdd Farddonawl, ond a
ail sefydlasant y Gadair Farddonawl yng Nghaerlleon ar Wysg, lle bu y ddau Fyrddin, Taliesin,
Mabon Sant, ac eraill yn brif-athrawon; ac yn
yr hen ddinas hon, o dan nawdd uniongyrchol
y Brenhin Arthur a'i Farchogion, y rhoddwyd
dosparth y Ford Gron ar wyddiant, gwybodaeth, breintiau, barddoniaeth, a llenyddiaeth;
a'i harwyddair oedd, "Y Gwir yn erbyn y Byd;
Yn Enw Duw a'i Dangnef."
Gwedi marwolaeth Arthur, Cadair Farddonol a Llenyddol y Ford Gron a roddwyd i ofal Urien Rheged yn Nghastell Aberllychwr, lle yr arosodd am ynghylch dau can mlynedd. Gwedi hyny symudwyd hi i Gaerwent, lle yr arosodd ynghylch can mlynedd, ac wedi hyny bu dan ofal Iestyn ab Gwrgant, yn Nghastell, a thref Caerdydd. Am gannoedd o flynyddoedd gwedi amser Arthur, bu barddoniaeth a llenyddiaeth agos a diffodd yn Nghymru; ond er hyny cedwid yr olyniad yn ddidor yn Morganwg. Tua dechreuad y nawfed canrif, barddoniaeth a llenyddiaeth a adfywiasant dan Geraint Fardd Glas o'r Gadair; yr hwn a adferodd y Gadair Farddonol, ac a'i sefydlodd yn Llandaf, gyd â yr arwyddair hwn,-"Duw, a phob Daioni;" a thyma ddechreuad Cadair Morganwg, mewn gwahaniaethiad oddi wrth Gadair Beirdd Ynys Prydain. Oblegid terfysgoedd yr amseroedd, y Gadair Farddonawl