a symmudid yn fynych yn Morganwg, o le i le; ond yr un ydoedd yn ei hanfod a'i phriodolaethau er yr holl symmudiadau. Einion ab Collwyn ydoedd y cyntaf a'i sefydlodd yn Nhir Iarll, pryd ei gelwid Cadair Einion; ac wedi amser Einion ab Collwyn, Wiliam, Iarll Caerloyw a'i hail-sefydlodd yn nhir Iarll gyd â ei holl freintiau. Yn mhlith Beirdd enwog y Gadair hon, yr oedd Rhys Goch ab Rhiccart, Ieuan Fawr ap y Diwlith (yn 1170) Trahaiarn, Edeyrn Dafod Aur, Gwilym Tew, Dafydd Ddu, Ieuan Llawdden, Ieuan Swrddwal, Einion Offeiriad, a Lewis Morganwg, y rhai oll a flodeuasant cyn y flwyddyn 1540. Mae y Beirdd ag oeddynt mewn cysylltiad a Chadair Caerlleon ar Wysg, Morganwg, a Thir Iarll, yn haeddu pob clodydd am eu hymchwiliadau, eu llafur, a'u diwydrwydd; canys oni buasai y cyfryw rai, buasem ni y dydd. heddyw heb gymaint ag olion doethineb ein henafiaid yn ein plith. Cychwynodd y diweddar Iolo Morganwg ei ymchwiliadau dan anhawsdra neillduol; cyssegrodd ei holl oes i deithio o dŷ i dŷ, ac o lyfrgell i lyfrgell, drwy hyd a lled y wlad, i gasglu hen ysgrifeniadau, ac i ail ysgrifenu rhai eraill; ac i'w ymchwiliadau personol ef ei hun, braidd, yr ydym yn ddyledus am wireddau, dywediadau, a thrysorau llenyddol ein henafiaid ag sydd yn bresenol yn ein meddiant, yn y Trioedd, ac yn y rhan fwyaf o'r cyfansoddiadau a briodolir i Gattwg ddoeth.
Er mwyn dwyn ei ddeiliaid i well trefn, a'u darostwng i'r awdurdod wladol, penderfynodd Hywel Dda, gasglu yn un corph hen ddefodau a chyfreithiau Cymru, y rhai yn nhreigliad oesau, ac yn nherfysgiadau yr amserau, oeddynt gwedi colli eu pwys a'u dylanwad. I'r dyben hwn, galwodd Hywel ynghyd, Archesgob Ty Ddewi,ac Esgobion eraill, ac Offeiriaid, Blegwryd, Archddiacon Llandaf, a nifer mawr o leygion. Y Gyfeisteddfod hon a wnaeth yr ymchwiliad manylaf i hen sefydliadau Cymru; a chyfreithiau Hywel a seiliwyd ar yr hen gyfreithiau gwladol. Dywedir i Hywel fyned i Rufain, cyn trefnu y gyfeisteddfod, er mwyn cael hyspysiaeth mewn perthynas i gyfreithiau gwledydd eraill, ac yn neillduol i'r cyfreithiau a lywodraethent Brydain cyn y goresgyniad Rhufeinig. Ond gwedi ei ddychweliad, dywedir iddo ef a'i gynghorwyr ffurfio barn, fod cyfreithiau Dyfnwal Moelmud. yn rhagori ar bob cyfreithiau eraill; ac felly yr ydym ni yn awr mewn meddiant o gorph o gyfreithiau hen, yn wreiddiol Dderwyddol, gwedi eu ffurfio yn gyntefig cyn i Draco na Solon anadlu yn Groeg, a chyn i Numa deyrnasu ar lenydd y Tiber.
Fe allai y gofynir, Pa fodd ynte y mae hiliogaeth y fath genedl ddoeth mor anenwog yn mhlith llenyddion cenhedloedd gwareiddiedig? Bwriwch olwg dros ein hanes; ystyriwch effeithiau Sacsonaidd ar ein cenedl ni; meddyliwch am ganlyniadau darostyngol deddfau gormesol teyrniaid Lloegr ar ein henafiaid; gelwch i gof mai mor ddiweddar a'r Tuduriaid y rhoddwyd iawnderau dinaswyr i ni, ac yr adferwyd ni i rai o'n breintiau fel pobl; a chedwch yn eich cof yr ymddygir tuag atom, hyd yn oed yn awr, mor genfigenus, fel mai estroniaid yn ddieithriaid a roddir yn swyddogaethau uchaf yr hen Eglwys Brydeinig, megis pe byddai rhyw beth yn wreiddiol anaddas yn mhenglog Cymro i wisgo meitr! Ond er ein hanfanteision, nid ydym mor ddisylw ag y myn rhai ein bod; ac er nad ydym namyn newydd ymryddhau o'n caethiwed hir yn nghadwynau anwybodaeth, coelgrefydd, a ffanaticiaeth, yr ydym gwedi cychwyn ar gyfnod newydd mewn llenyddiaeth; yr ydym yn esgyn yr ysgol, ac ni a gyrhaeddwn y ffon uchaf. Mae arnom eisiau Addysgiaeth,-Addysgiaeth dda, effeithiol, a pharhaus; mae arnom eisiau Coleg a breinlen iddo-rhydd; a chynorthwyer ni am ychydig, a Chymru a flodeua fel paradwys.
—O'r BRUTUSIANA.
DETHOLION O GYFANSODDIADAU RHYS GOCH ERYRI.
RHYS GOCH ERYRI, neu Rhys Goch ab Dafydd, oedd yn Fardd tra enwog; ac yn ei flodau o tu ar flwyddyn 1330 hyd oddeutu 1420. Yr oedd ef yn wr bonheddig helaeth ei feddiannau, ac yn cyfaneddu yn Hafod Garregog, yn mhlwyf Beddgelert. Dangosir ei hoff eisteddfa eto ar fryn yn agos i'r hen balas: yr ydoedd yn gyfansoddedig o gerryg mawrion, wedi eu gosod ar lun cadair. Yr oedd Rhys, fel ei gydoeswr Iolo Goch, yn bleidiwr twymgalon i'r Gwron enwog o Lyn Dyfrdwy; a dywedir fod Owain Glyn Dwr, ar ryw adeg aflwyddianus ar ei achos, wedi ffoi i'r Hafod Garregog am noddfa; ond er mor neillduedig ydoedd ei encilfa, ni bu ei elynion yn hir heb cael trywedd arno; a rhyw ddiwrnod, daeth mintai gref o weision boneddwr gelynol i Owain, hyd at yr Hafod i'w ddal, fel y gellid ei drosglwyddo i'r brenin. Ond un o weision Rhys a'u canfyddodd mewn pryd, ac a redodd i'r tŷ i rybuddio Owain, a Rhys, o'u