Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu/157

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Diymgel yw'r tri gelyn,
A wna twyll i enaid dyn;
Y cnawd anial, cnwd annoeth,
A'r byd, a'r drwg yspryd noeth.
Lle drwg yn y gell a draidd,
Y mae'r enaid morwynaidd,
Megis oen, am ei gasau,
Blwydd, a f'ai yn mysg bleiddiau;
Un flinder ag aderyn,
Yn mysg gweilch, yn y maes gwyn.
Duw deg! pam na cheidw'r doeth,
Yr enaid, mwy na'r annoeth;
Gweled y mae pawb eu gilydd,
Yr un ffed[1] o ran ffydd.
Cyngor periglor eglwys,
Ydoedd i ddyn, ond oedd ddwys!
Gwna archwy yn gynnyrchol,
Uniawn farn, ac na wna'n ffol;
Yn sant yr a'i cyn nos Iau,
Pe'n sant y pwysai yntau!
Yn ol anwiredd y naill,
Anwiredd a wna eraill;
O'n annwn rwysg a'n yni,
Ninnau a wnawn a wn i.
I ddall nid hwyrach Ddyw-llun
D'wysaw'r dall arall i'r llyn;
Neu i'r ffordd ni ŵyr, i ffau
Ddyrus, nag i'r ffordd oreu.
'Mogelwn, gwyliwn ein gwaith,
Meddyliwn am Dduw eilwaith;
Gwnawn dda drwy'r ganon ddiddrwg;
Na wnawn druth, neu wenwyn drwg.
Doedwn, coffa da ydoedd,
Er Duw mawr, goreu dim oedd,
Draw y caffom, drwy'r coffa,
Drugaredd, a diwedd da!


CYWYDD I'R LLWYNOG,
I ERCHI IDDO LADD Y PAUN, OEDD GENNAD DAFYDD NANMOR, AT WEN O'R DDOL.

Madyn ronwyn ry enwir
Meingi gwŷch mynni gig ir;
Mynni arlwy mewn irlwyn
Ymlaen dol ymlyniad Wyn.
Hwde gerdd, Hwyad a gai,
A Gŵydd, ag yt y gweddai;
Cai frâs edn, cyfrwys ydwyd,
A chall iawn mewn dichell wyd;
A dewr yn Allt dorwyn ŵr,
A chalonog chwilennwr.
Mae'r cyngor a gynghori,
Moes di hyn Madyn i mi.
Caru ydd wyf cwyraidd Wen
O'r Ddol, ail ddeurudd Elen;
A charu mae'n chwerw i mi,
Gŵr arall gwâg o Eryri:
Dafydd awenydd uniawn,
Nanmor un o enw mawr iawn.
A'm cwyn wrthyd amcenais,
Rhag ei Baun rhywiog ei bais;
Y sydd, ail irwydd Orwen,
Llattai a gyrch lletty Gwen;
Ag ar y lloer eigr y llu
A gais dwyll, drwy gastellu.
A chaiff fan wylan eiliw,
A'i bebyll aur, o bob lliw;
Dwyn a gais dan ei gasul,
Gwen i'r Mab oganwr Múl.
Er hyn moes hon er henwydd,
Ci daear gwyllt, cai dair Gŵydd;
Dos i'r Ddol, dewis Iâr dda,
Ag Oenyn a gai yna;
A rhodia 'mysg y rhedyn,
Gylch y Ddol, gwylia wŷch ddŷn;
A gochel sawl uchel sôn,
Gŵn Eiddig, a'i Gynyddion.
O gweli'r Paun gwyliwr pŵr,
Iddo Fadyn, ddefeidiwr,
Cadr cais ei hel adref,
Hudol Gwen o'r Ddol oedd ef.
I b'le bynnag blew banel,
Gwergi gwyddeli y dděl,
Gwylia êf, lle cartrefai,
Gwobr o gig, gi byr a gai;
A'i ddial ar ei ddwyen,
Ammod gwych, am hudo Gwen.
Adolwyn yt dal a naid,
A rhwyg wr', a'r Húg euraid:
A lladd, llattai frawd Llowdden,
A dwg ei bais deg, a'i ben:
Ag am Weno gi Meinael,
Gâd rhôf a'r gwiw wawdwr hael;
A cherdd cŷd bytho wých hwn,
Am Weno yr ymwanwn.


AWDL DUCHAN, I'R LLWYNOG AM IDDO LADD EI BAUN EF.

Madyn Lwynogyn agos, ei ledrad
Lodredd berw marwydos;
Mynnaist y 'Mhaun ymannos,
Mynnwn dy gael yn ael nôs.
Budredd-leidr nos, baw dreidd-lwngc,
Braen hygryg fol brynhygrange;
Bustl ffiaidd ysbaidd ysbonge,
Basbeth ofn beisboeth Afange.
Pŵl Afange naddgrange pawl neddgrys,
Prúdd penflwng praidd paunflys;
Piliwr Adarwr dyrys,
Par dengl sengl siop chwerwdop chwŷs.
Chwys Gallestr tanllestr tinllwm,
Chwerw baunlladd creigradd crygrwm;
Chwilestlwr chwiliai ystlom
Chwyl didlawd chwilod ydlam;

  1. ↑ ymddangosiad.