Chwithnych salwddrych iselddrem,
Chwithchwant lleidr difiowgfant llym.
Llym laddiad dafad tefyrn, y pwding,
Pydew Gwêr a mebeyrn;
Lleidr a gasgl, lledr ag esgyrn,
Llodr ddraig chwerw arynnaig chwyrn.
Tra chwyrn mêdd cedyrn y cais,
Tagu, Paun cu, ar ben cwys;
Tyfodd o'i din ym min maes,
Traws leugroen trosol egroes.
Egroesffagl carddagl cerddawdd, gwtterau
Y creigiau a'i crygawdd;
Egr biser, gwyrder, gwerdawdd,
Ogfaenlliw bais, rhŵd clais, clawdd.
Clawdd a gyrch colydd a gâi
Coeg irsain y cig oersur;
Ci a wnaeth herwriaeth hir,
Cam ymhob cwm amhybyr.
Rhy geiswer breuder bradwaith, yw Madyn
Meudeg hengod gyffaith;
Rhefrau seimiau osymmaith,
Rhydlyd wedd, rhy odlawd waith.
Drygwaith madyn darrogwyllt,
Dal gwyrdd baun rhwng gwaun a gwellt,
Dyrras faeddwas efyddwallt,
Drwythflew drwppsew drippa swllt.
Swllt irgig ffyrnig uffernawl, fedydd
Fadyn leidr cynhwynawl;
Seiliawdd medrawdd nid meidrawl,
Somm i fyllt was ammau fawl.
Mawl ni haedd, grêg leiswaedd groth,
Mwydion baw Madyn o bêth;
Maib rhaib, rhwyd coegfrwyd cigfrâth,
Mileindro oergno ieirgnith;
Mab tantflam pruddlam preiddlyth,
Mud marworgrud mor wargrwth.
Crwth crothlost coelffrost culffriw, cwthr enfys
Cog oerfrys cig irfriw;
Copr bryd rhwng y rhŷd a rhiw,
Caiff lemloes, y ci filamliw.
Lliw briw bras, hwyrwas, herwa, llawr llethr-graig
Llodrddraig arynnaig a wyr wyna;
Llodredd iäs gaethfedd ysgoethfa, Llygod,
Llithrodd yt anglod ammod yma.
Llyngcyd chwerw hwyrferw a hirfa llif clŷd
Llofrydd goeg ddeiryd gig y ddera;
Llwdn lledrban l'uman llyma, dy gerdded
Lludded, boeth drwydded, baw a'th dreiddia.
Llesgnaid llau hwppiaid llippa, lledrâttais
Llwynog lleipr budrbais ddyfais ddifa;
Lledpen cul aren yn clora, 'rhŷd rhôs
Lledros marwydos y meryda.
Lleiddiad, bras ddafad, brys ddifa, breugern
Llun orddwy irwern blîn gethern blâ;
Llym gostog cippiog coppa, ddrwg anian,
Llwfr leban, lliw gwan, lleuog wyna.
Llewaist nid plicciaist naws plwcca, tomdail
Llawes pensoeg sail adsail udfa;
Llyfn gefngabl barabl buria a lyngcaist
Llygraist a gefaist nid wyd gyfa.
Llo lattwm cell-lwm cylla, casgl friwsion
Llyfaist adborion droppion drippa:
Drwg weddai fawai fwa, cynffonfllam
Dy fittail a'r gam yw defeitta.
Yt gael, Paun afael, myn pen Efa ddyn
Y rhoed iddi lân yn rhaid Adda:
I'th swpper arfer oerfa, esgyrnach
Sur fadyn drappach greppach groppa
Ysbysach gleiriach glora, egroesgryd
Etto y gwyddyd yt y gwedda;
Di ddawn, chwyl annawn chwilenna, baw cŵn
A chasglu caccwn uwch osgl cicca.
Rhuddion, da fothon, na difetha, paun
Rhwng llethrydd a gwaun,nid rhwng llwythra:
Rhŵth Fadyn drasyn drwsa, canfföas
Rhuthrwas rhŵd taerwas ar hŷd tyrfa.
Rhŵth freufol rhwydol rhodia, y creigiau,
Rhefrau wâs mwthau, a'th os 'meitha;
Rhwystrffael, gwir drafael, gwer drofa, selsig
Rhysyg llid tremmig y lle trumia.
Cyfrwys-ffagl carddagl cerdda, gatt goddaith
Ymaith cod gyffaith cai dy goffa:
Crwynchwant crûg deucant crŷg dwcca, cringoch,
Creumoch, wâl cannoch, a wyl cenna
Cydlam was deulam ystola, enfys
Catgi gywionflys deithfys duthfa:
Cinyn noêth lipryn fe'th leipra, madredd,
Cimmwch ceipr beisnedd berfedd borfa.
Caib rhaib rhús rhwystrus rhestra, dy banel
Cael cyn wyth fattel cwn i'th fwytta.
Bwytta o'r ci rhongca côch,
A brain a chi rhuddlwyd, brŷch;
Briddblas, groen fudr eirias grâch,
Braenbwdr war cymar cimmwch,
Cimmwch, daëargyrch cymar, lwynoges
Llûn agwedd ffam farwar;
Cymmeraist wydn-ngat, watwar,
Creigffyrdd, fy mhaun gwawrwyrdd gwâr.
Diwar wyd, leidr coch lwyd, lûn,
Dy fŷd mynd a defaid mân;
Dwg fyllt lliw diwyg fellten;
Duw a wnel rhwydd afael rhin,
Dial y gwaith dal o gŵn,
Dŷdd a fedr dy wddw Fadyn.
AWDL I LEIDR A DDUG EI FARCH EF.
Amlwg y deliais wg ar Dal y Sarn,-ei weled
Yn dwyn f'olwyn tricharn;
Dager drwy'r llwynog deugarn,
A'i dygodd ef, hyd y carn.
Ni ddug carn grogwr ond drwy fwriad
Na chaffo drugaredd yn ei ddiweddiad
Nes na dandwn dwng digiad-anudon
A chyffes dynion na chaffo estyniad.
Cathod llwynogod naw ugain, un noswaith
Yn ysu ei bedrain;