Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu/159

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A gwiw olud o'i gelain,
Ginio brwnt i gŵn a brain:
Brain a barcutiaid i'r wybr a'i cotto,
Gwden a chebystr gwedyn a'i hachubo;
Ai gar ar ei ruman ag aerwy i rwymo,
Megis nes del o'r awyr nes y drewo;
Tra fo bys nag ewin heb wisgo,
A'i foelien liw hufen lufio—gan law
A'i farf yn ei faw drwy ei ferfau fo.
Gwedi cotto heno'n gynhwynawl,—ag adgas
Hyd at gwn uffernawl;
Y mae iddo le meddawl,
Rhwng cigweiniau delwau diawl.
Ynghrog y bo'r llwynog llwyd,
Mal ci neu ast filein-lwyd.
Ag aed ef garn lleidr defaid
Dydd caith gwylld, diwedd cath goed,
Ag yn y rhaff cyn hwyr ei rhoed;
Brain a'u cno wrth breniau Caer.
Caerlleon gron lle mae'r grog-aur fyw
A rof, a cheiniog.
Er mwyn cael ynghwyn anghenog,
Yn erbyn hwn, a'i roi yn nghrog.
Llafn dager, a bêr ar byd, o gyllill
A gwella, a mynawyd
Trwyddo, a gwaew trwydd i gyd,
Tryfer a chyrn teirw hefyd;
Cyrn hefyd i gyd, ag nid gwaeth—i'r cleddau
Trwy'r coluddion waeth-waeth
Crau i galon crug alaeth
A fo 'n swp ar fon y saeth.
Saeth wen drwy'r asen dewsur,—gi ysiad,
Ag isarn, a phladur;
Deulu a fag y dolur,
Drwy ei gig, a ffon ddwybig ddur.
Lleidr y meirch, fal lledr a mwg,
Llymleidr, na chyrch le amlwg.
Lleidr ŵyn, neu ddefaid, lleidr iawn a ddeifio,
Lleidr beichiau llin, lleidr buwch a llo;
March uchel a ddeil i oddeilio,—i dal,
Aed yn y warthal wden wrtho.
Ni ad ef boswrach afiach yfiad
Dano heb ei threisio, a dwyn ei thrwsiad.

Llawer canwyll fair yn llesmeirio
Ar ei ol y llosger er ei llusgo
Canwyll y Salm ddu, llu cymer fo—diffydd
Rhag gwanned ei ffydd y diffoddo!


CYWYDD Y FARF.

Rho Duw Farf rhydew fortresg,
Rhaid fŷdd nid Eilliedydd llêsg,
Un bob eildydd ddedwydd ddyn,
I'th eilliaw âg wyth Ellyn.
Hagr wyd, y farf finllwyd fan,
Ag anhardd ynghylch genau;
Morwyn sofl main gofl gyflwyd,
Mal cob i hen Esgob wyd;
Gwae'r ên, myn y gwirionedd.
A'th atto ewingno wedd!
A gwae a'th dyn dennyn dig,
A llaw drom nid llai'i dremyg!
Minnau, mewn glôes angau, sydd,
Nawaith, bob mis o newydd;
Arwydd yw, ar y ddwyen,
Wrth dy dynu heiddgnu hên:
Anhardd i guddio wyneb,
A gên iach, dioer gan neb.
Gweled rhwng merch, a'r erchwyn,
Blew blaidd ar ddi wladaidd ddŷn;
Bod eurberth mor anferth wyd,
Beichlwyth ar ên gwr bochlwyd.
Gwn mai dy chwaer gaer gerydd,
Ar wyneb Sioseb y sydd;
Syml wyd, y farf finllwyd, faith,
Symmud-liw, neu ddôs ymaith;
Amgen hyder, ni'th weryd,
Ymgudd mor brudd yw dy brŷd;
Nid hardd fe a'th waharddwyd,
Cusan ar farf lydan lwyd;
Myn bedd Duw, ni bydd diwarth,
Ar wr hen fod gen o garth;
Ac nid esmwyth garllwyth gŵr,
Trowswch llwyd i wttreswr.
Gwiw angerdd gwenithgerdd gwawd,
Gardd i dewfardd a'i dafawd;
Blin yw son yn anfon ym',
Am lwydo rhai aml ydyn.
Llwydion fu'r saint geraint gu,
Disyml a llwyd yw Iesu;
Llwyd yw awyr y Dwyrain,
Llwyd fydd, dechrau Lleuad fain,
Llwyd yw Rolant llid rhylew,
Llwyd fŷth, yw'r Eryr, a'r Llew;
Llwyd oedd lâs, Siohasym,
Llwyd fydd, y gra newydd grym;
Ag am hyn a gymmhenwyd,
Nid gwiw, gwneuthur lliw, ond llwyd.
Taw di farf tewdo fawredd,
Tywyll iawn waith tylluan wêdd;
Ymgudd nid adnebydd neb,
Lladrones llwydrew wyneb;
Ag os felly byddy bŷth,
Ar draws f'wyneb yn drasyth;
Ni chair, myn Mair, ar fy min,
Lle noeth, mwy na llwyn eithin.


CYWYDD MARWNAD I WILLIAM AP GRUFFYDD
O'R PENRHYN.

Rhad elfydd rho Duw eilfainc,
Rhwysg uchel ffriw mangddel Ffrainc;
Aur leithig lwyth dylwyth dwng,
Ustus Gwynedd a ostwng,
Bu boen gwag genyf bob awr
Dy weled uwch dy wiwlawr;