Pan ddel llew ag un ewin,
O Loegr draw i lwgr drin;
Y carw eurog o'r caerydd,
Yr hen dd'roganwr yw'r hŷdd!
A'r baedd gwŷn a dŷn o'i dŷ,
Maen casgl lle mae yn cysgu;
A'r hebog o'r Deheubarth,
Ar ol cadwyno yr arth.
Briw dor wyr brwydr weryd,
A geir pan ddêlon eu gyd.
Na ddywaid, na bydd euawg,
Y daw'r rhai'n er Dewi yrhawg.
Draig a fyn saig o fewn swydd,
Dan nen wybr donen ebrwydd.
Gwybydd na dderfydd arfoll,
Gwr eich penon cryn on oll.[1]
Teg yw ffrwyth y tanllwyth tan,
Tyn i gongl, taw, nag yngan;
Yn yr haf e fydd y rhyfel,
E ddarfu barnu y bêl.
BRUT ARALL,GAN YR UN.
Y ddeu-fab nid addefwn,
Hynod gerdd eu henwad gwn;
Hen addysg yr hanoeddynt,
Hir ddaw gwyn i hyn o hynt.
Addurn blaid, euraid araul,
O uwch campod rhod yr haul;
Adeiniog oediog ydyn;
A Duw a'u gwnaeth o lun dyn.
Da yw cael dieuawg hedd,
Dyn o berchen edanedd;
Gwn paham llid wen-flam dân,
Llid draig y lle y trigan',
In' y sydd yn nes addef;
Yn is o lawer na nef;-
Dawn Ner, gyd a'n deu-wr ni,
Sad-wych yn nghadair Sidi;
Y gwyr hyn ennyn anwyl,
Bonedd iaith beunydd a'i wyl;
A'r ail a gwsg orau lwrf,
Dan ddwfr ffynonwys gwys-dwrf.
Yn y maen y mae a'i mawl,
Glan ei ryw, glew'n ei reawl;
O serch Gwen, myn Dwyn-wen deg,
Y gyrodd Crist i'r garreg.
Cyd gwypwyf o nwyf iawn oedd,
Eu cwrt rif, a'u cartrefoedd.
Ni chair ffordd gadr hyffordd hyn,
Rheg yttoedd, yrhawg attyn';
Mynag dwff, manag differf,
Mwy nag y ceir ar ffeir fferf.
Ffordd at yr angel melyn,
I gyllest da, nid â dyn,
Ar na aller cryfder cred,
Prin faen at y rhai'n fyned.
Gofyn o bell ar gyfair,
Iddynt wnaf gyntaf gair,
Y gwr a guddiodd heb gig,
Bwys ryw, ar bais yr ewig,
Ag wybr nosawl fer gobrwy,
Dros bob un o honyn' hwy,
Y Beirdd, llefaren heb us,
Er more am gysgu'r Marcwys;
Saith radd draul, sathrodd y drin,
Son heb liw Sinobl ewin.
Pell yw camp pwyllog cwmpas,
Pa ham y daw pyst gwlaw glas,
Ffraeth-grych fal rhaiadr ffrwyth-grêf;
Ffrydiai ffynnon greulon gref;
Buddugawl waith nefawl Naf,
A bid lle i'r byd lleiaf.
Am roi tudwedd ar gleddyf
Noeth, cyn dysgleirient lafn hyf;
Ni wn pa ham o'n anmhwyll,
Nad oes mewn dyn cywir dwyll
Aeth o dref nam nef wen,
Y sarph, lle nid oes orphen;
Crist cyfiawn, ffynawn y ffawd,
I'w ddi-warth bobl a ddywawd,
Selwm et terwm, nam neb,
Awtem transipit atteb
Geiriau llen y gwr hen hir,
A'i groew-deg iaith a gredir;
Prydrin-gyrch pur, awdur angerdd,
Pa ham y mae, medd cae cerdd.
Clos gwyndyd ergyd argoel,
Clas maith i'n bur, fal mur moel.
Pob gwyl drud yn dysgwyl draig,
Phylip, nid oes un ffelaig,
Peirion glod i'w bwrw'n glau,
Yr hyddod gwbl o'r heiddiau.
Am hyn rhwym yw cyntyn caeth,
Enaid taer, o naturiaeth;
Nid oes ar dir, cywir cadr,
Piler mynydd y paladr,
Un hydd-gant hafn hil drafn dro,
Hynod, mae rhuwch oll heno;
Na chadair, nid cywair cynt,
Fawr-ddawn orn, Ferddin arnynt.
Gwr da doeth, a gar Duw Dad,
O Gaer, yr hen egoriad;
A oes obaith i'n iaith ni,
Faith gof owdl fyth gyfodi?
Os oes mewn cof, naw-oes caith,
Bai iawn gwbl, byw yw'n gobaith.
Pa bryd feibion digonawl,
Penceirddiaid hydr, mydr mawl,
Y cawn ni Aleluwia,
O farn ein Duw, cadarn da?
Pan ddel caled-waith chwaith chweg,
Gnawd pwy o'r mordwy mawr-deg:
Glew fab cyssegr-ddrych gwych gwyn,
Golau a marchog olwyn.
- ↑ neu, "Gwreichion pan ennynon' oll."