Edwyn swllt, adwaen y son,
Awdwr Naf, o dir Neifion;
Ag yno o ceir genau,
Y gwyl dyn o'i gêl a dau,
Heuir naws wyrion Essyllt,
A'u bernir hyn yw'r gwir gwyllt.
Beirdd a braint, cwmpas asur
Ar brysgyll a ŷr brwys-gur.
Da im' gan-pen y ddeu-fab,
Dim yw'n pwyll, da myn y Pab.
Ni wnaethan' ddim wyth-ran ddyeithr,
Deall ar bethau di eithr.
Pawb y sydd, cyn deunydd dail,
A'i ryfyg dan law'r efail,
Pa ham draw, nad y'm lawen,
Er Mair, pair bader, Amen.
Y DOCTOR RHYFEDDOL.
GAN JAMES HOGG, BUGAIL ETTRICK.
Pan oedd fy rhiaint yn cyfanneddu yn hen beriglordy Ettrick, fel y buant dros amryw flyneddau, deuai hen wr penllwyd yno un hâf, ac arhosodd gyda hwy am oddeutu haner blwyddyn, gan dalu i fy mam yn ol deg swllt y mis, am wely, bwrdd, a golchi. Yr oedd rhyw ddirgelwch rhyfedd yn perthyn iddo; ac ni wyddai neb pwy, na pha beth oedd efe; ond yr oedd yr holl gymmydogaeth yn ei gyfrif yn "wr cyfarwydd," fel y gelwir rhai y bernir eu bod yn cyfathrachu a bodau o natur wahanol.
Yr ydwyf yn ei gofio yn dda; dyn tal, trwsgl, oedd efe, yn gwisgo hugan ddu hirllaes, yr hugan hwyaf, a chulaf ar a welswn i erioed. Ei wasgod oedd rywbeth yn debyg i felfed glas, a'i lawdr o ledr, a bwclau arian ar ei benliniau. Gwisgai hosanau gwynion yn wastad, a chan na chyrhaeddai y llawdr namyn hyd ben ei lin, ymddangosai ei goesau mor hirion a meinion, fel y parai syndod i mi pa fodd y gallent ei gynnal. Cymerwch i'ch dychymyg eto socasau duon, a het dra chul ei hymyl, a meddwch ei ddullwedd yn gyflawn, mor gyflawn fel y gallai unrhyw arluniwr dynu darlun teg o hono, ond iddo ofalu am beidio ei wneyd yn rhŷ syth yn y cefn, yr hyn ni fyddai mewn un modd yn gymhwys; canys yr oedd ei gefn ef fel haner cylch mawr. Yr oedd ef yn ddoctor; ond pa un ai doctor o'r gyfraith, o feddygyniaeth, neu o Dduwinyddiaeth, ni wybum erioed; efallai ei fod o'r cyfan, canys y mae yn sicr ei fod yn ddoctor; felly y galwem ni ef, ac nid adwaenem ef dan un enw arall: mae yn wir y galwai rhai ef, y Doctor Celwyddog; a rhai, y Doctor Dail; ac ambell un, y Dewin Ddoctor, ond fy mam a'i galwai yn ei gefn bob amser, y DOCTOR RHYFEDD, a'r enw yna a ddewisais i i'w gadw, gan na ddichon fod dim dadl yn nghylch cywirdeb y cyfryw enw.
Ei holl orchwyl oedd casglu blodau, a llysiau, a'u trefnu; ac fel y casglai efe lawer o'r rhai hyn o'r fonwent, aeth hen wragedd y gymmydogaeth yn eiddigeddus ofnadwy o hono. Ymddangosai oddiwrth yr hyn a ddywedai efe am dano ei hun, ei fod wedi bod yn tramwy yr holl fyd, ar ba alwedigaeth, neu yn mha gymeriad, nid awgrymodd erioed; ond, oddiwrth ei chwedlau am dano ei hun, ac am ei orchestion, gallasid casglu ei fod wedi bod yn bob peth. Yr ydwyf yn cofio amryw o'r chwedlau hyn yn eglur, canys yr oeddwn yn credu ar y pryd, ei fod yn dywedyd perffaith wir am y cwbl, er fy mod wedi cael fy nhueddu ar ol hyny, i ammeu mai prin y gallasent fod felly yn gyson â natur, neu reswm. Adroddaf yn awr, un neu ddwy o'r chwedlau hyny, er dan yr anfantais fawr hon, fy mod wedi annghofio enwau llawer o'r lleoedd yn y rhai y cymerasant le. Nid oeddwn yn gwybod dim am ddaiaryddiaeth y pryd hyny, nac yn mha wledydd yr oedd y lleoedd; ac yr ydwyf yn ofni na's gwna yr adgof aneglur a feddaf am danynt, namyn tueddu i wneyd fy adroddiad yn fwy dyryslyd.
Un diwrnod, tra yr oedd efe yn brysur yn trefnu ei flodau, a'i lysiau, ac yn siarad wrtho ei hun, dywedai fy mam wrtho, "Doctor, a fyddwch chwi, sydd yn gwybod mor dda am natur pob math o blanwydd, a llysiau, cystal a dywedyd i mi, od oes y cyfryw lysieuyn mewn bod, yr hwn pe ei dodid ar anifail, neu ddyn, a barai i'r anifail, neu y dyn hwnw eich dilyn?"
"Nag oes, Margaret, nid oes yr un llysieuyn mewn bod, yn meddu y gallu hwnw ynddo ei hun; ond, y mae trwyth o ryw lysiau prinion, o'r hwn y cefais i yr anrhydedd, neu yn hytrach yr anffawd, o fod yr unig ddarganfyddwr, yn meddu yr effaith hyny yn ddi ffael."
"Doctor anwyl, yr oedd y cyfryw swynion yn y byd, gannoedd o flyneddoedd cyn eich geni chwi."
"Felly y dywedid, Margaret; felly y dywedid, ond yn annghywir yn sicr i chwi. Cymerodd saith mlynedd o efrydiaeth ddyfal, a llafur caled i mi, nos a dydd, a theithio llawer o filoedd o filldiroedd; ond, myfi a'i darganfum o'r diwedd, ac yna yr oeddwn yn meddwl fy mod ar ben fy