nigon. Ond-a gredech chwi hyny, Margared? —yn golled y troes e i mi, collaswn fy amser, ac ugain waith y bum ar fin fy ngholli fy hun hefyd."
"Anwyl Ddoctor, adroddwch i ni rai o'ch helyntion gyd a'r cyffur hwnw; canys rhaid eu bod yn dra hynod, yn enwedig os oeddych yn ei ddefnyddio fel swyn serch, i dynu y genethod ar eich ôl. Sylwer yma, fod y doctor yn un o'r rhai mwyaf annhebyg i fod yn ddarostyngedig i'r dyner nwyf.
"Yr oeddwn yn ei ddefnyddio fel swyn serch," medd y doethawr, gan gil-wenu yn guchiog, "ac weithiau yn cael rhai i fy nilyn na's dymunwn, fel y cewch chwi glywed yn y man. Ond, cyn myned rhagof, dylwn eich hysbysu, y cynnygiwyd i mi gan mil o bunnau gan Goleg Meddygon yr Hispaen, a dau cymaint a hyny gan frenines y wlad hono, os yr hysbyswn fy narganfyddiad iddynt yn gyflawn; ond myfi a wrthodais eu cynnygiadau! Do, a hyny er mwyn dynoliaeth. Ni feiddiaswn am fy einioes dderbyn y cynnyg."
"Pa ham, doctor?"
"Paham, wraig? A ydych chwi yn gofyn paham? Onid ydych chwi yn gweled y buasai yn troi y byd o chwith, ac yn dymchwelyd holl drefn natur? Gallasai yr ysgelerddyn isaf yn y wlad, ddwyn y bendefiges gyntaf yn y tirgallasai ei chymeryd ymaith oddiar ei rhieni, neu ei gŵr, a'i chadw yn gaethes iddo ei hun, heb fod yr un lliniarydd mewn natur, i wrthweithio y swyn. Fe à y dirgelwch gyda mi i'r bedd; canys, pe ei gwnelid yn hysbys unwaith, mewn unrhyw wlad, dystrywid y wlad hono: ac er mwyn iawn drefn yn mysg dynolryw y diystyrais i yr holl orwychder a allasai y byd hwn ei ddyroddi arnaf. Yr ydoedd y prawf mawr cyntaf o fy medrusrwydd, yn un cyhoeddus." Yna aeth y rhagddo i adrodd y modd y bu, fel y canlyn;—
YR ATHRAW HISPAENAIDD.
Wedi dwyn o honof fy swyn gwerthfawr i gyflawn berffeithrwydd tra ar lêd, dychwelais i Frydain, i fwynhau ffrwyth fy llafur, gan gredu y gallaswn sicrhau breinteb, a chludo yr holl fyd o'm blaen. Ond, pan gyrhaeddais i Lundain, fe'm hysbysid fod rhyw athraw Hispaenaidd enwog, wedi gwneyd y darganfyddiad bum mlynedd yn gynt; ac wedi cyrhaedd cyfoeth a dyrchafiad mawr ar y cyfrif hyny, dan nawdd y frenines. Ond, gan fy mod yn credu nad oedd un dyn byw ond fy hunan yn feistr trwyadl ar y swyn, aethum i'r Hispaen yn ddïoed, a gelwais gyd a'r athraw enwog, enw yr hwn oedd Don Felix de Valdez. Yr oedd y gwr yn byw mewn mwy o rwysg na phendefigion mawrion ei wlad. Meddai balas, nad oedd ei ragorach mewn ysplander o fewn y ddinas; a nifer o wastrodion, boneddwyr ieuaine, a physygwyr, yn gweini arno, fel pe y buasai y gwr mwyaf yn y byd. Bu raid i mi fod mewn trafferth fawr, a dysgwyl am dridiau, cyn cael mynedfa i'w wyddfod; ac hyd yn nod y pryd hyny, efe a ymddygai mor ffroen-uchel, fel yr oedd fy ngwaed Prydeinig yn berwi gan ddigofaint.
"Pa beth sydd arnoch eisiau gyda mi, y gwelchyn?" medd efe.
"Syr," ebe fi, "myfi a fynwn i chwi wybod fy mod yn ddoctor Seis'nig, yn athraw yn y celfyddydau, a'ch cydradd, yn mhob modd.. Hyd yna y mae pob peth yn dda. Fe'm hysbyswyd yn fy ngwlad fy hun, Syr, eich bod yn ffug-hawlydd y gelfyddyd gysswynawl; neu, mewn geiriau eraill, eich bod wedi darganfod yr edrwyth dwyfol a gysswyna bob creadur byw a gyffyrddir ag ef wrth eich person. A ydych chwi yn cymeryd arnoch eich bod wedi gwneyd y fath ddarganfyddiad? ai nid ydych?"
"A pha beth os ydwyf, ddoctor arddunol, ac athraw yn y celfyddydau? Yn mha fodd y mae hyny yn dwyn perthynas a'ch doethder chwi?"
"Hyd hyn yn unig Gadeirdraw Don Felix de Valdez," meddwn innau, "mai yr eiddof fi fy hunan yn unig, ac yn gyfan-gwbl, ydyw y darganfyddiad; ac wedi teithio dros haner y byd yn fy ymchwiliadau am y mysg-ranau, a gwneyd fy hun yn feistr y cyfaredd grymus, a ydych chwi yn meddwl ei fod yn rhesymol i mi gymeryd fy amddifadu o'm anrhydedd, a'm helw, heb wneyd unrhyw ymdrech i'w dyogelu? Yr ydwyf wedi dyfod o Frydain, Syr, ar yr unig neges o'ch herfeiddio chwi i brawf o fedr ger bron eich pennadur, a'i holl bobl, cystal a'r byd dysgedig yn gyffredinol. Yr ydwyf yn taflu fy nyrnfol i lawr Syr. A feiddiwch chwi ymgystadlu â mi?"
"Dymunwch ar fod i'm gwastrodion gymeryd y gwallgofddyn tramor hwn ymaith," eb efe wrth un o'r gweinyddion. "Curer ef â ffyn yn dda am ei haerllugrwydd, a rhodder ef i'r heddlu, i'w ddodi yn y cerydd-dy; a dyweder wrth Signior Philippo mai myfi a archodd hyny." "Chwychwi a archodd hyny!" meddwn. "A phwy ydych chwi i erchi y fath beth? Yr ydwyf fi yn ddeiliad Prydeinaidd rhyddfreiniol, yn ddoctor, ac athraw yn y celfion a'r gwyddion; ac yr ydwyf yn meddu trwydded oddi wrth eich llywodraeth chwi, i ddyfod i Madrid i ymarfer fy ngalwedigaeth; a beiddiaf neb un o honoch i gyffwrdd ag un o wallt fy mhen."
"Cymerer ef ymaith," medd efe, gan amneidio a'i ben yn wawdus, "a gofalwch am ymddwyn tuag atto megys y gorchymynais."