Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu/165

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yna yr efrydwyr a'm harweiniasant ymaith yn dirion, gan gymeryd arnynt dalu gwarogaeth fawr i mi; ond, pan y'm rhoddwyd yn nwylaw y gwastrodion anhyfoes, hwy a'm gwawdiasant, ac wedi cael gorchymyn eu meistr, hwy a ymddygasant yn dra anmharchus tuag attaf, gan fy nghuro, a'm gwanu â bidogau bychain, nes fy mod yn ofni yn fawr am fy mywyd, ac yn llawenhau pan y'm rhoddwyd yn nwylaw yr heddlu.

Wedi fy rhyddhau yn y fan pan wnaethum yn hysbys fy ngwlad, a'm ysgoleigdod, ymroddais â'm holl egni i ddwyn y cadeirdraw taiog a thrahausfalch hwn i'r prawf. Gan fod amryw o'i efrydwyr wedi clywed yr her-feiddiad, gwnaeth drwst mawr yn Madrid yn fuan; canys yr oedd y brenin ieuanc, Charles III., a'i frenines yn enwedig, yn haner gwallgof y pryd hyny am feddu y fath gyfaredd. Gan hyny, er chwanegu tanwydd at y filam oedd yn awr wedi ei chynneu, cyhoeddais her-feiddiadau yn mhob un o'r newyddiaduron Hispaenaidd, a pharais argraphu tair mil o eiliadon, y rhai a ddodais i fynu yn mhob congl o'r ddinas, gan eu rhanu i holl golegau y deyrnas, ac i goleg Toledo yn neillduol ar yr hwn yr oedd Don Felix yn benrhaith.— Anfonais eiliad seliedig i bob un o'i bedwar ar hugain athrawon, a pharais i rai cannoedd gael eu dosbarthu yn mysg yr efrydwyr.

Parodd yr herfeiddiad yma lawer o siarad yn y ddinas, a chyrhaeddodd glustiau y frenines yn fuan, yr hon a ddaeth yn dra awyddus am gael bod yn llygad-dyst o'r prawf o'n medrusrwydd yn ei hoff gelfyddyd hon; a blinodd ei fawrhydi mor effeithiol, fel y bu raid iddo ymuno â hi mewn cais ar y cadeirdraw Don Felix de Valdez, ar iddo gydsynio i wneyd prawf cyhoeddus o'i fedr gyd a'r tramorwr bostfawr hwn.

Attolygai y cadeirdraw am gael ei esgusodi rhag ymostwng i'r sarhad o arddangosiad cyhoeddus gyd â'r tramorddyn haner gorphwyllog; yn enwedig gan mai celfyddyd ddirgel oedd yr eiddo ef, ac mai yn y dirgel yn unig y dylid ei hymarfer. Ond, yr oedd cri y llys, a'r colegau yn uchel am y prawf, a gorfuwyd y cadeirdraw i gydsynio, ac enwi diwrnod. Aethom ein dau o flaen eu mawrhydi, i benderfynu ar drefn y prawf; a phan dynwyd coelbren pwy oedd i gael gwneyd yr arddangosiad gyntaf, cafodd y cadeirdraw y flaenoriaeth. Y Prado oedd y lle appwyntiedig i wneyd yr arddangosiad; a dydd Gwener y Groglith, yr adeg. Ymrwymai y cadeirdraw y deuai i'r ymorchestfa erbyn haner awr wedi deuddeg yn gywir; ond, efe a ddymunai ganiattad i ddyfod mewn ffug-wisg, er mwyn cau allan bob amheuaeth o gyd ddealldwriaeth ddirgelaidd â neb arall; a sicrhai eu mawrhydi, yr adnabyddid ef yn fuan ganddynt, trwy ei weithredoedd.

Pan ddaeth y dydd pennodedig, yr oeddwn yn credu mewn gwirionedd, fod holl Hispaen wedi ymgynnull i fod yn dystion o'r ymbrawf. Fe'm cyflewyd i yn nesaf i'r llwyfan freninol, yn nghwmni amryw ddoctoriaid dysgedig, gan fod y frenines yn awyddus i fod yn dyst o'r effaith a adawai yr arddangosiad o fedr ei chadeirdraw rhyfeddol arnaf, ac i glywed fy sylwadau. Yr oedd y pryder a ffynai am yn agos i awr gyfan yn rhyfeddol; canys ni's gwyddai neb yn mha ryw rith yr ymddangosai y cadeirdraw, na chyda pha ryw osgordd, na phwy a fyddai y gwrthddrychau y gwnelid prawf o'r enaint arnynt. Pa le bynag y gwelid ymdyriad, neu gyffro ar y cemmaes, yna dechreuai y sibrydaeth, "Acw y mae ef yn awr! Rhaid mai acw y mae efe, ein cadeirdraw mawr, Don Felix de Valdez, rhyfeddod yr Hispaen, a'r byd!"

Y frenines oedd y gyntaf i'w ganfod, a hyny fallai, mewn canlyniad i ryw awgrymiad dirgel a gawsai, yn mha rith yr ymddangosai, ar yr ayn yr amneidiai arnaf, gan nodi brawd cardoteiol fel fy ngwrthwynebwr; ac ychwanegai ei bod yn meddwl bod yn iawn i mi sylwi yn fanwl ar ei holl symudiadau, ei orchestion, a grym ei gelfyddyd. Gwnaethum hyny, a meddyliwn yn dra isel o'r holl arddangosiad, gan nad oedd, mewn gwirionedd, yn ddim amgen na choegchwareuaeth wedi ei gyfodi rhwng nifer mawr o gymdeithion, pob un yn gwneyd ei ran i gadw y twyll i fynu, ac wedi cyttuno i gyfranogi o'r elw a ddeilliai o hyny. Ni wnelai y mynach ddim hyd oni ddaeth ar gyfer y llwyfan freninol, pan wedi amneidio yn gynil ar ei mawrhydi, y dechreuai edrych allan am ei ysglyfaeth; a chan edrych ar foneddiges geinwych yn eistedd ar lwyfan, a'i chefn atto, efe a gymerth gostrel o'i fynwes, ac wedi cyffwrdd a'r gwlybyr à blaen ei fŷs, efe a estynodd y bŷs hwnw i fynu, ac a gyffyrddodd ag ymyl gwisg y foneddiges. Hi a roddes ysgrech, fel pe y buasai wedi cael ei thrywanu yn ei chalon, neidiai ar ei thraed, a dodai ei llaw ar ei mynwes, fel pe y buasai wedi ei harcholli; yna, gan edrych o amgylch ogylch, fel pe buasai mewn cyffro mawr, disgynai oddiar y llwyfan, dilynai y mynach, penliniai wrth ei draed, gan attolygu caniattad i'w ganlyn a'i wasanaethu ef. Efe a ddymunai arni fyned ymaith, gan na allai gwraig ei wasanaethu ef; ond hi a'i dylynai gan wylo. Efe a ddaeth at Affricaniad gwefl-dew, yr hwn a safai gerllaw, gan chwerthin ar yr olygfa. Y cadeirdraw a gyffyrddodd â hwnw â'i enaint, ac yn y fan y dyn du a ddechreuai ymryson â'r foneddiges, pwy a gaffai rodio agosaf i'r doethawr rhyfedd;