Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu/166

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac aeth y ddau can belled ag i ddyrnodiaw eu gilydd, er difyrwch mawr i'r gwyddfodolion, y rhai a ganmolent y ddwy orchest yma yn ddirfawr, ac a lon-gyfarchent eu cadeirdraw, fel y dyn mwyaf yn y byd. Efe a gerddodd ddwy waith ar hyd y chwarodfa, ac yn sicr yr oedd pob un a gyffyrddai efe â'i enaint yn ei ganlyn, fel, pe y buasai ef yn ddyeithr yn mysg y bobl fel yr oeddwn i, prin y gallasai fod lle i ammeu effeitholrwydd ei swyn-gyfaredd. Pan ddaeth. efe y tro diweddaf o flaen y llwyfan freninol, a'r eiddom ninnau, yr oedd tyrfa yn ei ganlyn, ac yn penlinio iddo; ac mewn ymddangosiad, yr oeddynt o bob gradd, o'r uchaf hyd yr isaf. Yna, efe a barodd roddi cyhoeddiad allan oddiar lwyfan, od oedd neb yn ammeu dylanwad ei gyffur-lyn, y gallai gael ei brofi arno ei hunan, heb berygl na di anrhydedd: rhyw bendefiges waddolog a'i her-feiddiodd; ond efe a'i dug hi ar ei gliniau gyd a'r lleill yn fuan, ac ni cheisiai yr un o honynt eu rhyddhau.

Yna, y brenin a'r frenines, a'r holl farnwyr, a gyhoeddent eu bod wedi cael cyflawn foddlonrwydd, a'r cadeir-draw a ymneillduodd gyd a'i ganlynwyr amrywiol, i ddadwneyd y swyn yn y dirgel; ac wedi hyny, efe a ddychwelodd yn y trwsiad mwyaf gorwych, a derbynid ef ar y llwyfan freninol, yn nghanol banllefau byddarol o ganmoliaeth. Yna y brenin a ofynodd i mi, os oeddwn eto yn fy nghyfrif fy hun yn alluog i ymgystadlu a'i gâr urddasol ef, y Cadeirdraw Don Felix de Valdez? neu ynte, a oeddwn i yn barod i ymuno â'r lluaws yn eu cymeradwyaeth, ac addef ei deilyngdod mewn modd cyfeillgar. Cyfarchais ei fawrhydi yn y modd gostyngeiddiaf, gan gydnabod fod galluoedd y cadeirdraw yn dra rhyfedd, os oeddynt yn ddiledrith; ond nad oedd un prawf o hyny i mi. "Pe y buasai ef yn dramor-ddyn ac estron fel yr ydwyf fi yn y lle hwn, a phe y buasai rhagfarn wedi ei gyffroi yn ei erbyn ef," meddwn, "yna buaswn yn edrych ar yr arddangosiad o'i gelfyddyd yn rhyfedd yn wir; oud fel y mae, ni's gallaf edrych arno yn amgen na ffug-chwareuaeth wedi ei rhag drefnu yn dda."

Y cadeirdraw a wridai, ac a gnöai ei wefus, yn ngrym ei ddirmyg a'i ddigllonedd: ac yn wir, ymddangosai eu mawrhydi, a'r holl bendefigion yn dramgwyddedig gan hyfdra fy ymadrodd; ar yr hyn yr ychwanegais, "Ni bydd fy arddangosiad i ond un byr iawn, fy arglwydd; ac o leiaf, argyhoeddaf eich mawrhydi, nad oes dim twyll na hocced ynddo." Ac ar hyny, cymerais chwistrell fechan o'm mynwes, yr hon a guddiaswn yno yn fwriadol, am fod yn rhaid i'r gwlybwr er cael ei effaith dyladwy, fod yn gynes gan wres corph yr hwn a fyddo yn ei daenellu, bob amser; ac a'r offeryn bychan hwnw, chwistrellais ychydig o'r drwyth ar wallt hardd-wych y cadeirdraw Don Felix, yr hwn a grogai yn gudynau modrwyawg, bron hyd ei wasg.

Ar y fynud hono, yr oedd miloedd yn sefyll gan lygad-rythu, yn orawyddus am fod yn dystion o effaith yr apeliad eofn yma. Y cadeirdraw a safai i fynu, ac a edrychai arnaf, tra y llenwid ei lygaid à dagrau. Dyna y fynud falchaf yn fy oes: dros yspaid oddeutu tri mynud, ymddangosai ei falchder megys pe yn ymladd â'i deimladau; ond grym angerddol yr olaf a ennillodd y fuddugoliaeth yn fuan, ac efe a ddaeth, ac a benliniodd wrth fy nhraed. "Felix, y corgi! pa beth yw hyn?" meddwn. "Pa fodd y beiddi fyned, ac ymwisgo fel un o bendefigion y deyrnas, ac yna ddyfod yn mlaen ac esgyn i ben y llwyfan yn mhresenoldeb breninoldeb, a thithau yn gwybod mai i fod yn gaeth was i mi y'th aned?-Dos y fynud yma, ac ymddiosg o'r dillad gorwych yna, ac ymwisg yn fy lifrai i, a thyred i weini yma wrth fy sawdl. Ac, a wyt ti yn clywed yn mhellach? dwg fy march i, wedi ei drecio yn briodol, ac un i ti dy hun; canys yr wyf yn myned i farchogaeth i'r wlad i giniaw. Dal sylw ar yr hyn a archaf i ti, a gofala am ei wneyd, os amgen, myfi a'th guraf hyd oni byddych yn gludrwyth, ac yna y'th ddystylliaf yn serch hud-drwyth. Y fath draha, i ddyfod i'm gwydd mewn gwisg fel yna!"

Efe a redodd i gyflawni fy eirchion, ac yna, yr edmygedd a ddatgenid mor ddiweddar, a drowyd yn ddirmyg. Tarawwyd yr holl bobl. à braw ac â syndod. Ni's gallent ganmawl, canys yr oeddynt wedi eu taraw â mudandod, ac yn edrych arnaf gyd âg arswyd, fel pe buaswn orddynol. "Y mae hyn tu hwnt i bob dirnadaeth," medd y barnwyr. "Pe y dywedasai efe wrthyf y gallasai gyfodi y mynyddoedd Pyreneaidd oddi ar eu sylfeini, buasai mor hawdd genyf ei gredu," medd y brenin. Ond y frenines oedd y fwyaf gwrthnysig o bawb; canys ni fynai gredu y peth er ei weled; a dywedai, na's credai byth fod y peth yn wirioneddol; ond, mai wedi rhoddi rhywbeth dros eu llygaid yr oeddwn. "A ydyw yn bossibl," ebe hi, "fod y gwr enwocaf yn yr Hispaen, neu efallai, yn y byd, yr hwn y mae ganddo gannoedd yn ei wasanaethu, ac yn rhedeg ar ei amnaid, wedi ymostwng ar unwaith, ac o'i ewyllys ei hun, i fod yn gaethwas i wrthwynebwr, yr hwn a ddirmygai, a chymeryd ei gernodio fel ci, heb ei ad dalu? Na, ni chredaf byth ei fod yn ddim ond lledrith."

"Ni ellir gwadu eich buddugoliaeth," medd y brenin Charles wrthyf; "canys yr ydych wedi darostwng eich gwrthwynebwr i'r llwch. Rhaid