i chwi giniawa gyda mi heno, gan fod genym wledd fawr i ddysgedigion ein teyrnas, goruwch yr oll o ba rai y'ch dyrchefir i'r lle uchaf. Ond, gan fod Don Felix de Valdez, yn un o'r gwahoddedigion, goddefwch i mi ddymuno arnoch ei ddad-swyno, fel yr adferer ef eto i'w le mewn cymdeithas."
"Myfi a gymeraf yr anrhydedd arbenig o giniawa gyd a'ch mawrhydi dyrchafedig, a mwyaf Catholig," meddwn innau, mewn attebiad; "Ond, oni fydd yn ddiraddiad i'ch urddas dyrchafedig, bod i'r dyn a fu yn gwisgo fy lifrai i yn y cyhoedd, ymddangos yr un diwrnod wrth eich bwrdd breninol?"
"Nid dygwyddiad cyffredin yw hyn," medd y brenin. "Er bod natur wedi ei gorchfygu trwy un ymdrech mawr, gan gelfyddyd, byddai yn galed i wr mawr gael ei adael yn waradwyddedig dros byth."
"O'r goreu, gan hyny, nid yn unig caniattaf iddo adael fy ngwasanaeth, ond myfi a archaf iddo ei adael, ac a'i curaf o hono. Ni's gallaf wneyd ychwaneg i ryngu bodd i'ch mawrhydi yn bresenol."
"Pa beth! oni ellwch chwi symmud y swyn ynte?" medd efe. "Chwi a welsoch y gallai y cadeirdraw wneyd hyny ar unwaith."
"Tric yn unig," meddwn. "Pe buasai y Cadeirdraw Don Felix yn ymwybyddus i ryw radd o allu ei wlybwr, efe a fuasai yn ymosod arnaf fi, ac yn fy ngwarthruddo. Y mae hyny yn amlwg. Yr oeddwn yn dysgwyl iddo wneyd ymbrawf o leiaf, fel yr wyf yn sicr fod y lluaws yn dysgwyl; ond safwn yn ddigon di gyffro, gan ei her-feiddio ef a'i gelfyddyd. Nid yw namyn twyllwr trwyadl; a'r darganfyddiad yr ymffrostia o hono, nid yw ond twyll."
"Nage," medd y frenines, "ond gwnaethum brawf o'i enaint drachefn a thrachefn, ac a'i profais yn effeithiol. Ond rhaid i mi addef nad yw ei effaith namyn o fyr barhad; gan hyny, yr hyn oll a geisiaf, yw i chwi roddi ei ryddid i'r cadeirdraw; a chymerwch fy ngair am dano, fe'i derbynir yn fuan."
Addawais y gwnawn drachefn; ond ar yr un pryd, ysgydwn fy mhen, cystal ag i roddi ar ddeall i'r frenines, nad oedd hi yn hysbys o ddylanwad cryf fy nhrwyth; ac yr oeddwn yn penderfynu cosbi y cadeirdraw am ei ymddygiad trahaus tuag attaf, a'r gurfa galed a gawswn yn. nghyntedd ei westty. Tra yr oeddym yn ymddiddan, dynesai Don Felix attom, wedi ymwisgo yn fy lifrai syml di addurn, yn tywys fy ngheffyl, ac yn marchogaeth anifail ysplenydd o'i eiddo ei hunan, gwerth dau gant o ducats aur; tra nad oedd yr eiddof fi namyn llog-farch cyffredin.
"Pa fodd y beiddiwch farchogaeth fy anifail i Syr?" meddwn, gan gipio ei chwip ben-eurawg o'i law, a'i fflangellu â hi. "Ewch ymaith yn y fan, y drelyn anfedrus, cymerwch eich culfarch cloff eich hun, a marchogwch ymaith lle na's gwelwyf eich wyneb mwyach."
"Yr ydwyf yn erfyn eich maddeuant, anrhydeddus feistr," eb efe yn ostyngedig; "myfi a gymeraf ryw farch a weloch chwi yn dda; ond yr oeddwn yn meddwl mai fy march i oedd. hwn."
"Chwychwi yn meddwl, aiê? pa hawl sydd genych chwi i feddwl?" gofynwn. "Nid wyf yn dewis dim yn ychwaneg o'ch gwasanaeth," meddwn yn mhellach. "Ac yma, yn mhresenoldeb eu mawrhydi, a'u holl 1ŷs, a phobl, yr ydwyf yn eich rhyddau o'm gwasanaeth; ac na feiddiwch, dan berygl colli eich bywyd, ddyfod i'm gwyddfod mwyach." "Maddeuwch i mi y tro hwn," medd efe, "gwell genyf farw na'ch gadael." "Ond, rhaid i chwi fy ngadael, neu rywbeth a fo gwaeth," meddwn; "am hyny, ewch o'm golwg yn y fan;" a chilgwthiais ef oddi wrthyf drwy y dyrfa, gan ei fflangellu hyd onid. oedd yn ysgrechain ac yn wylo, fel rhyw labwst o hogyn.
"Rhaid i chwi gael rhyw un i farchogaeth gyda chwi, a bod yn arweinydd i chwi," medd efe; "a pha ham na's goddefwch i mi wneyd felly? Chwi a wyddoch na's gallaf eich gadael." Ei fawrhydi, gan dosturio wrth y cadeirdraw diymadferth, a anfonodd lifrai-was i gymeryd ei le, a gweini arnaf ar fy ngwib-daith fer, ac ar yr un pryd, dymunai arno ef ymattal, a chofio pwy ydoedd. Ond ofer oedd y cwbl. Efe a ymladdai am y rhagorfraint â gwas y brenin, elai ar gefn fy llog-farch, ac a'm dylynai ir palas, tua chwe milldir o'r ddinas, lle yr addawswn giniawa. Nid oedd y newydd am fy muddugoliaeth wedi ei wneyd yn hysbys yno eto. Yr ydoedd arglwydd y faenor yn yr arddangosfa, ond gan na ddychwelasai ef, yr oedd y boneddigesau yn anesmwyth o eisiau gwybod y canlyniad.
"Nid ydyw yn gweddu foneddigesau ardderchog," meddwn, "i ddwyn y newydd o'm buddugoliaeth fy hun, yr hyn y gallech yn rhesymol ddysgwyl ei fod yn anwireddus, neu orliwiedig; ond cewch chwi eich hunain fod yn dystion o'm gallu."
Ar hyny dechreuent ysgrechain oll, a thaer erfyn, er y Forwyn Fair, na byddai i mi roddi prawf o'm medrusrwydd ar yr un o honynt hwy; gan nad oeddynt hwy yn dymuno canlyn hyd yn nod feistr yn y celfau a'r gwyddonau, i Loegr; a phob un o honynt a'm sicrhai y buasai hi yn bla arswydlawn arnaf, ac mai gwell oedd i mi ymbwyllo cyn gwneyd yr arbrawf.
"Foneddigesau ardderchog, a hoff," meddwn,