Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu/168

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nid oes dim yn bellach o'm bwriad na gwneyd yr un o honoch chwi yn wrthddrychau serchhudoliaeth. Ond, deuwch yma oll," ebe fi, gan agor y ffenestr;— "Deuwch yma oll, a gwelwch y prawf; ac os bydd eisiau ychwaneg, ni bydd yn ddiffygiol. Gwelwch; a ydych chwi oll yn adnabod y boneddwr acw?"

"Pa foneddwr? pa le y mae ef? ni welaf fi yr un boneddwr," oedd attebiad y cyfan.

"Y boneddwr acw sydd yn dal pen fy march, ar y llog-farch sâl acw, yn y lifrai melyn. Chwi a'i had waenoch ef yn sicr. Dyna eich cadeirdraw mawr, Don Felix de Valdez, a gyfrifir y dyn rhyfeddaf yn Hispaen, a chan amryw o honoch, y dyn mwyaf yn y byd."

Ni fynent gredu hyny, hyd oni elwais ef i ddyfod i fynu at ddrws y plâs, a'i ddangos iddynt, fel y dangosir unrhyw fwystfil gwyllt, neu ryfeddod naturiol; a'i alw wrth ei enw. Yna hwy a frawychasant, neu a gymerasant arnynt, o leiaf, eu bod wedi brawychu yn ddirfawr, wrth feddwl eu bod yn ngwyddfod dyn yn meddu y fath allu; canys yr oeddynt oll yn adwaen y cadeirdraw yn bersonol: a phe gallasai un eu credu, yr oeddynt yn barod i lesmeirio gan ofn cael eu swynogli. Eto, er hyn oll, yr oeddwn yn canfod eu bod oll yn dra awyddus am ennghraifft o'm celfyddyd; ac y buasai yn well gan bob un o honynt i'r prawf gael ei wneyd arni ei hun, na bod heb ei ganfod.

O ganlyniad, yr oedd yn eu mysg wineu-ferch hardd a hoffus, o'r enw Donna Rashelli, ar yr hon ni's gallwn lai na thaflu golwg weithiau, gan fy mod wedi fy swyno fy hun ganddi i ryw fesur. Canfuwyd hyn yn fuan gan y boneddigesau direidus, ac ymgasglasant o'm hamgylch gan fod yn daer iawn arnaf, am roddi o honof brawf o nerth fy serch-rin ar Rashelli. Gofynais gydsynied y foneddiges, ar yr hyn yr attebodd yn lled wawdus, "y byddai raid ei bod wedi ei swynogli yn wir, cyn y dylynai hi fyfi! ac o ganlyniad, rhoddai her-feiddiad i mi, ar yr ammod na byddai i mi gyffwrdd â hi, yr hyn ni's caniattai."

"Ac yn awr, Donna Rashelli," meddwn wrthi, "yr ydych chwi i fewn am eich rhan yn y chwareueg hon, ac ychydig a wyddoch chwi pa beth a awdurdodwyd genych." Hi a drodd oddi wrthyf mewn dirmyg; ond nid hir y bu onis gwelwn y dagrau yn llanw ei llygaid; hi a symmudodd yn brysur i encilfa mewn ffenestr, lle y gorchuddiai ei hwyneb a'i dwylaw, ac yr wylai yn chwerw. Ceisiai y lleill ei chysuro, a'i chwerthin allan o'i gwall-bwyll; ond yr oedd y cwbl yn ofer; hi a ymryddhaodd o'u gafael, a chan wylo y dagrau yn llif, cofleidiai fy ngluniau, gan attolygu yn y modd taeraf am ganiattad i fy nilyn i ba le bynag yr elwn

Erbyn hyn, yr oedd y boneddigesau oll wedi eu taflu i'r syndod a'r braw mwyaf, ac attolygent arnaf ei dadswyno, er mwyn y foneddiges ieuanc ei hunan, a'i cheraint anrhydeddus: ond, yr oedd fy amcanion mewn golwg genyf, ac ni's talwn unrhyw sylw i'w deisyfiadau. I'r gwrthwyneb, gwnaethum fy esgusawd am na's gallwn giniawa yno, o herwydd gorchymyn y brenin i roddi o honof fy mhresenoldeb yn y llys; ac ymadawais ar frŷs, ac wedi myned ar gefn fy anifail, marchogais ymaith, a Don Felix ar fy ôl.

Myfi a wyddwn na's gallent attal Donna Rashelli i fy nilyn; ac fel yr oeddwn yn marchogaeth yn araf, clywn ysgrechfeydd gwallgofrwydd ac anobaith, fel yr oeddynt yn ceisio ei dal hi. Hi a rwygai eu gwisgoedd oddi am danynt, ac a ymladdai fel ellylles, hyd onid oedd yn dda ganddynt ei gollwng i fyned; ond hwynt hwy oll a ddeuent ar ei hol, er mwyn fy ngoddiweddyd i, ac attolygu arnaf ollwng eu cyfeilles i ryddid.

Rhydiais afonig a amgylchai geufaes y palas, ac arhosais ar y lan arall, gan wybod yn dda pa beth a gymerai le; canys ni chroesa yr un forwynig Hispaenaidd, afonig un amser, heb ddïosg ei hosanau a'i hesgidiau. Felly, hi a ddaeth, gan redeg gyd ag ochr y ffrwd, a holl foneddigesau y plas yn ei dilyn, gan alw arnaf, a'm tynghedu i dosturio wrthynt. Chwarddwn yn uchel am eu trallod, gan ddywedyd na wnaethwn i ddim ond ar eu cais unedig hwynt, a bod yn rhaid iddynt gymeryd y canlyniadau yn awr. Taflai Rashelli ei hesgidiau a'i hosanau ymaith yn y fan, a rhuthrai i'r ffrwd, gan ofn cael ei lluddias; ond, cyn cymeryd dau gam, gan fod y swyn wedi ei gymeryd ymaith gyd âg esgid y troed chwith, hi a safai yn llonydd, ac yswil; ac erioed ni welswn gynlun mor ragorol o brydferthwch edifeiriol yn gwridio, a'i gwallt gloywddu yn hongiaw yn mhell islaw ei gwasg, ei thraed, a haner ei choesau Alabastraidd yn faddedig yn y ffrwd, a'i grudd yn orchuddiedig gan wrid cywilydd.

Gwaeddai allan, "Pa beth yr ydwyf yn ei gylch? Ai wedi gwallgofi yr ydwyf? neu gael fy rheibio? neu, a oes rhyw ellyll wedi cymeryd meddiant o honof, pan redwn ar ol gwaghonwr ag y buaswn yn erchi i'm gweision i'w yru oddiwrth fy nrws!"

"Felly gan hyny anwyl Donna Rashelli," meddwn, "a ydych chwi wedi myned? Da y boch chwi gan hyny, a heddwch a'ch canlyno. A gaf fi mo'ch gweled chwi eto cyn gadael y wlad hon?" Ond, nid edrychodd i fynu, ac ni roddodd i mi un attebiad. Ymaith y troediai, yn cael ei thywys gan un foneddiges yn mhob llaw, yn droed-noeth fel yr ydoedd, hyd oni