ddaethant at y rhodfa fanro; ac yno rhoddes ei hesgidiau morocco am ei thraed. Y fynud y rhoddai ei hesgid chwith am ei throed, hi a neidiai attaf drachefn, a'r holl foneddigesau ieuaine mewn llawn gri ar ei hôl. Yr ydoedd fel helfa ceinach yn gymhwys, a'r olygfa mor ddigrifol, fel y chwarddai y gwaradwyddedig Don Felix yn galonog. Hi a ruthrodd i'r ffrwd drachefn; a thrachefn dychwelai, gan wylo o gywilydd; a'r unrhyw olygfa a gymerodd le saith waith drosodd. O'r diwedd, tosturiais wrth y druanes brydferth, a gelwais ar ei modryb i gydio yn yr esgid chwith, a'i golchi yn y ffrwd. Hi a wnaeth felly, a minnau gan feddwl fod pob peth drosodd, ac yn ddyogel bellach, a farchogais rhagof. Ond nid oeddwn wedi myned dair furlong, pan ddechreuai yr ymlidfa drachefn, gyda chri mor uchel ag erioed; ac yn fuan, yr oedd y foneddiges yn yr afon eto. Fe'm poenid gan hyn, gan na's gwyddwn pa beth oedd yr achos, ac yn arswydo rhag fy mod wedi ei serch-hudo i lynu wrthyf dros ei hoes; ond attolygais ar ei chyfeillion ei chadw rhag gwisgo ei hosan ychwaith, hyd oni fyddai wedi ei golchi a'i thwymolchi yr un ffunud a'i hesgid. Aethant yn nghylch y gorchwyl yma yn dra phrysur, ac un hen foneddiges a gipiodd yr hosan, ac a'i cuddiodd yn ei mynwes; a phan welais hyn, marchogais ymaith yn gyflym, gan ofni bod yn rhŷ ddiweddar i gyflawni fy ymrwymiad a'r brenin.
Yr oeddym newydd amgylchu congl coedwig, pan y cyrhaeddai ysgrechiadau menywod ein clustiau drachefn.
"Pa beth yn enw Sant Nicholas, yw hyn yn awr?" meddwn. "Mae yn debyg fod yr helfa i fynu eto, Syr; ond yn ddïameu, y peth gorau i ni yw marchogaeth rhagom, a'u gadael," medd Don Felix.
"Ni wna hyny mor tro byth," ebe fi, "ni's gallaf oddef i foneddiges urddasol fy nilyn i'r llŷs, ac nid oes un gallu ar y ddaiar heblaw haiarn a chadwynau, a ddichon ei hattal, os oes y filfed ran o ddyferyn o'm trwyth yn aros oddeutu ei pherson."
Nyni a droisom yn ôl, ac wele, yr oedd yr hen arglwyddes waddolog yn dyfod, gan glunhercian ar frys a chyffro annysgrifiadwy, a'i holl ferched, ei nithoedd, a'i morwynion ar ei hol. Hi a groesasai yr afon yn ei man llettaf, heb ddiosg ei hesgidiau na'i hosanau, ac wedi cael y blaen gymaint ar ei hymlidwyr, fel mai hi a'm goddiweddodd yn gyntaf; a chan gydio yn fy nghoes, hi a'i cofleidiai ac a'i cusanai, gan erfyn am fy ffafr yr holl amser yn y modd mwyaf digrifol, hyd onid oedd bron allan o anadl. Ni's gwyddwn pa beth i'w wneyd, gan na's gwyddwn ddim pa fodd yr effeithiasid arni hi, hyd oni waeddai Donna Rashelli, "O, yr hosan, syr, yr hosan!" ar yr hyn y parais iddynt ei chymeryd oddiarni, a'i rhoddi i mi, ac yna, hwy a ddychwelasant adref yn dawel. Ciniawais y noswaith hono gyd a'u mawrhydi, nid ar yr un bwrdd, mae yn wir, ond ar ben y bwrdd yn y rhag ystafell, o'r lle yr oeddwn yn mwynhau cyflawn olwg arnynt. Yr oeddwn yn wr mawr, ac anrhydeddus y noswaith hono, ac ni allai bygythion na darbwylliadau luddias y cadeirdraw mawr i wylio o'r tu ol i'm cadair, a gweini arnaf ar ei liniau yn fynych. Wedi ciniaw, cefais osteg gyd a'r frenines; a chynnygiai i mi lwyth llong o aur am y cyfarwyddeb i wneyd fy serchrin. Ond, myfi a'i gwrthodais, gan ddangos i'w mawrhydi y perygl dirfawr i ymadael a'r cyfryw ddirgelwch, oblegid wedi ei fyned dros fy ngwefusau unwaith, na's gellid ei alw yn ol mwyach, ac na's gwyddwn pa ddefnydd a ellid ei wneyd o hono. Dywedwn fy mod yn fy ystyried fy hunan yn gyfrifol i'm Gwneuthurwr am gam-ddefnyddiad y talentau a roddasid i mi; ac am hyny, fy mod yn benderfynol y caffai y dirgelwch hwnw fyned gyda mi i'r bedd. Pa fodd bynag, gorfuwyd fi i roddi i'w mawrhydi ychydig o'r drwyth aruchel a phur, wedi ei wneyd yn barod, gan fynu ei hadduned ddifrifol ar y pryd, na's rhoddai ddim o hono i neb arall. Hi a gafodd wasanaeth parod iddo; canys yn mhen ychydig ddyddiau hi a ofynai am fwy, a mwy, a mwy, hyd oni fernais ei bod yn llawn bryd i mi adael y wlad.
Wedi cael yn awr gymaint o arian ag oedd arnaf eisiau, a llawer mwy nag y gwyddwn pa ddefnydd i'w wneyd o honynt, ymbarottoais i ymadael a'r Hispaen; canys ofnwn y'm gwnelid yn gyfrifol am y defnydd a wnelid o'r swyn yn nwylaw benyw fympwyol. Pe buaswn yn rhoddi ffordd i geisiadau y pendefigion ieuaine am gyflenwadau, gallaswn ddyhysbyddu holl olud yr Hispaen o'r bron; ond, fel yr ydoedd, yr oeddwn wedi cael mwy na fy mhwysau fy hun mewn aur, rhan o'r hwn a anfonais i Lundain, a rhoddais y gweddill allan ar log yn Hispaen, a gadawais Madrid, nid heb ofn cael fy nghymeryd i fynu, a'm dwyn o flaen y Chwil-lys fel swynwr. Ond, yn lle hyny, dyroddid yr anrhydedd mwyaf arnaf, a dylynid fi i'r porthladd gan nifer o'r gwŷr mwyaf yn y deyrnas, a chan holl gyfeillion Don Felix de Valdez. Y bobl hyn a gynlluniasent i'm llofruddio, a buasent wedi cyflawni eu bwriad, oni buasai ofn na buasai y swyn byth yn ymadael a'u cyfaill; a chan mai Felix ei hun a wnaethai y cyd-frad yn hysbys i mi, myfi a'i cedwais mewn caethiwed hyd y dydd yr oeddwn ar hwylio; yna, parais eillio ei ben, a'i olchi â chymmysg-lyn o winegr, alwm,