Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu/170

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a sinamon; ac efe a ddychwelodd i'w iawn bwyll, unwaith drachefn. Ond ni allai efe ddangos ei wyneb mwyach yn y wlad lle ei hedmygid gymaint, eithr efe a newidiodd ei enw, ac a enciliodd i Peru, lle yr ennillodd enwogrwydd ac anrhydedd mawr.

YR IARLLES.

Pan fyddo dyn yn ennill golud yn rhŷ gyflym a rhwydd, nid anfynych y mae yn ei afradu gyda chan lleied o ofal ag yr oedd ei bryder yn ei gasglu. Yr oeddwn yn gwybod hyn, ac yn benderfynol i'w ochel. Gan hyny, dechreuais yn ddi ymdroi edrych o'm hamgylch am ryw lwybr i ymsefydlu yn y byd yn barchus; ac wedi ymholi llawer, cefais restr o foneddigesau di briod, yn mysg y rhai cyfoethocaf yn Lloegr, a sefydlais fy mryd ar iarlles ieuanc, yr hon oedd yn weddw, yn meddu gwaddol mawr, ac yn cyfatteb i'm dymuniadau yn mhob modd. Gan fy mod yn feddiannol ar y serch-rin di gyffelyb, nid ofnwn na chydsyniai yn rhwydd: ac felly, wedi darpar gosgordd gyfaddas, aethum tu a'i phreswylfa, i'w charu a'i henill yn ddi ymdroi.

Pan y cyrhaeddais ei phalas, tua chanol dydd, fe'm derbynid yn lled oeraidd, yr hyn nid oedd ryfedd, gan na feddwn unrhyw rag-arweiniad, ond fy mod yn ymddiried yn fy ngalluoedd fy hun yn unig. Ond, er ei bod yn wagelog a thawedog ar y cyntaf, hi a'm gwahoddodd i giniaw cynar o'r diwedd, gan roddi ar ddeall i mi ar yr un pryd, na byddai yr un ymwelydd yn cael aros yno dros nos, pan na byddai ei brawd yn bresenol.

Yr ydoedd hyn yn gymaint wedi ei ennill; felly, diolchais iddi, a derbyniais y gwahoddiad -gan feddwl ynof fy hun, "Fy iarlles deg, cyn yr ymadawoch chwi a minnau, bydd eich uchder wedi ei ddarostwng yn rhyfedd!" Dysgwyliais am fy nghyfleusdra, ac fel yr oedd hi yn gadael yr ystafell, anelais ysgwyfen fach o'm trwyth at ei chudynau fluwch; ond, gan iddi droi ei phen yn sydyn ac ysgoywedd, disgynai ysgwyfen fy serch-rin ar ysgwyddwisg brwydweithiol, a hongiai yn delediw ar ei hysgwyddau.

Yr oeddwn yn awr yn sicr o'r effaith, oddieithr taflu o honi yr ysgwydd-wisg o'r neilldu cyn i mi allu rhoddi taenelliad newydd priodol iddi, ond gobeithiwn y byddai ei ddylanwad yn rhŷ gryf a chyflym iddi allu gwneyd hyny. Yr oeddwn yn barnu yn gywir, yn mhen tri mynud, hi a ddychwelai i'r gyfarch-gell, a chynnygiai bod i ni ein dau gymeryd ymrodfa yn ei phare cyn ciniaw, gan fod ganddi ryw gywreinion i'w dangos i mi. Gyda phleser y cydsyniais, fel y gellir tybied. Yr ydwyf yn eich meddu yn awr, fy iarlles deg, meddwn yn fy meddwl; os bydd yn bossibl i chwi ddianc oddiarnaf, cyfrifaf chwi yn fwy na dynes.

Y parc hwn o'r eiddi ydoedd faes enfawr, wedi ei amgau â magwyr uchel, a rheiliau ar ei phen. Yr oedd ganddi rai iyrchod ynddo, cwpl o hyddod, a diadell o wartheg. Y rhai olaf hyn oedd yr hyn y cymerai arni ei bod yn awyddus i'w dangos i mi; yr oeddynt oll yn llaeth-wyn, ïe yn wir, yn wynion fel eira. Nid oeddynt o rywogaeth yr ŷch gwyllt, ond mor dirion a dôf ag wyn-a deuent atti pan eu gelwid wrth eu henwau, ac ymddangosent mor hoff o gael eu hanwesu, fel yr oedd amryw o honynt yn ei dilyn a'i blino ar unwaith. Un hoffus yn enwedig, a ddaeth yn flinder iddi o'r diwedd; ac er y mynasai y foneddiges gael llonydd ganddi, ni chiliai y creadur ymaith; ond hi a'i dylynai gan fud-leisio, a rhwbio ei bochgern yn ei meistress, hyd oni ddarfu i hono o'r diwedd, er cael ymwared o'r blinder, gymeryd ei hysgwyddwisg, a tharo yr anifail yn chwim â hi, ar draws ei phen! Glynodd siobynau yr ysgwydd-wisg am gorn pellaf y fuwch; a'r anifail wedi ei brifo ychydig gan y dyrnod, a'i dallu hefyd, a lamodd ymaith, ac yn y fan, collodd y foneddiges yr afael ar ei hysgwydd-wisg. Yr ydoedd hyn yn andwyol i mi; canys trwy hyn collodd y foneddiges ei holl ymlyniad wrthyf fi yu y fan; a'r hyn a gollasai yr iarlles, a drosglwyddwyd i'r fuwch. Gan hyny, ymlidiais yr anifail a'm holl egni, a gelwais ar ei hôl ar amryw enwau tirion a serchog, i geisio ganddi sefyll. Ond nid ymddangosai ei bod yn cymeryd un sylw o hyny, ac ni fynai sefyll. Gan hyny wedi sylwi o honof fod yr ysgwydd-wisg yn ei mwgwdu mewn rhan, aethum yn mlaen yn lladradaidd, a chan roddi crych-lam, cipiais afael ar gongl yr ysgwydd-wisg frodiog. Carlamai y fuwch, arhedwn innau, gan ddal fy ngafael, yn benderfynol i fynnu yr ysgwyddwisg, hyd yn nod pe buasai raid i mi ei thori yn ddarnau-canys gwyddwn mai effaith fy nhrwyth ar anifeiliaid, oedd eu gwneyd yn gynddeiriogwyllt-a deliais fy ngafael a'm holl egni; ond ni's gallwn ei chael yn rhydd; y cwbl a wnaethum oedd rhwymo y corn arall ynddi yr un modd, ac ymaith a'r fuwch trwy y parc, fel boneddiges yn ei brodwaith euraidd.

Rhedais at yr iarlles can gynted ag y gallai fy nhraed fy nghludo, ac attolygais arni er mwyn y Nefoedd, i ffoi gyda mi, am fod ein bywyd mewn perygl. Ni's gallai ddeall hyn; ac heblaw hyny, yr hon a ymlynai wrthyf, fynud neu ddau yn ol, gyd a'r fath ymddiried a phe buasem yn adnabyddus er's llawer o flyneddoedd, a hyny o'r natur fwyaf cyfeillgar, a ymddangosai fel pe buasai yn arswydo rhagof, ac ni's goddefai i mi ddyfod yn agos atti. Nid