Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu/173

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dywedwn ynof fy hun, Gyfaill, nid wyf yn dymuno y fath gyfagosrwydd a thi; felly, gyd a'th genad, myfi a gadwaf o fewn pellder priodol oddiwrthyt; ac yna gan ddisgyn i'r brif-ffordd, dechreuais droedio ymaith, er yn lled bwyllog, gan fy mod yn gwybod na allasai mewn un modd ddyfod dros y fagwyr oedd a'r rheiliau haiarn ar ei phen.

Yn awr yr oedd gwrŷch cauedig o bob tu i mi, tuag wyth, neu ddeg troedfedd o uchder; ac fel y mae yn naturiol i ddyn a fu mewn perygl mawr, edrych o'i amgylch am encilfa ddyogel mewn achos o angenrhaid, felly yr oeddwn innau yn parhau i fyned rhagof ac edrych am y cyfryw le manteisiol; ond yn methu ei ganfod, pan glywn drwst mawr yn mhell o'm hol; ac wedi troi o honof i edrych, gwelwn yr anghenfil auwrthwynebol yn dyfod, gan gwympo oddiar y fagwyr, gan fwrw y clwydi, y bolltau, a'r rheiliau o'i flaen. Efe a gwympai gyda godwrdd ofnadwy, a gobeithiwn yn fawr ei fod wedi tori ei wddf yn y codwm, canys ar y cyntaf, efe a geisiai gyfodi, a chan dripio, a gwympai drachefn; ond, er fy nychryn, yr oedd yn fy ymlid eto; ac yn ynnill arnaf yn gynt nag erioed. Deuai yn agos attaf o'r diwedd, ac nid oedd genyf ddim i'w wneyd ond dyosg fy hugan geinwych, a throi i'w erbyn, gan ei thaflu dros ei gyrn, a'i lygaid.

Darfu i hyn roddi rhyw gymaint o attalfa arno, ac efe a ymdrôdd yn lled hir i arllwys ei lidiawgrwydd ar yr hugan, yr hon a rwygodd yn ddarnau â'i draed ac â'i gyrn, gan ei chamgymeryd am ryw ran o honof fi fy hunan. Erbyn hyn, yr oeddwn wedi cyrhaedd helygen yn y gwrých, cangenau yr hon a oblygent hyd o fewn cyrhaedd. Ymaflais mewn dwy neu dair o honynt, a thrwy eu cymhorth, ymdeflais dros y gwrŷch. Eto, nid arafai fy nghamrau, gan y gwyddwn fod y diafol yn y creadur, ac na allai dim ond gwaed liniaru ei gynddaredd. Ac nid hir a fu, na's gwelwn ef yn rhuthro drwy y gwrŷch; a thrwodd y daeth. Yn awr, canfyddwn lyn, neu afon o ddwfr ar fy llaw aswy, tua milldir o lêd; ymwnaethum am dano, å hyny o nerth a adawsid i mi, yr hyn nid oedd yn llawer; croesais amryw fagwyrydd cyffredin yn fy ngyrfa; ond nid ymddangosai fod y rhai hyn yn unrhyw attalfa yn ffordd fy erlynydd; a chyn cyrhaedd o honof y llyn, yr oedd efe wedi dyfod mor agos attaf, fel y bu raid i mi daflu fy het i'w wyneb, a thrwy iddo yn ffodus gymeryd mai fy mhen oedd hono, cymerodd beth amser i'w malurio yn ddarnau, fel y cyrhaeddais y llyn, ac y neidiais i fewn iddo. Ar y cyntaf, ymsuddais, a nofiais dan y dwfr cyhyd ag y gallwn ddal fy anadl, gan hyderu y buasai fy ngelyn yn colli pob trywydd arnaf trwy hyny; ond, pan ddaethum i'r wyneb, canfum ef yn pwffio o fewn dwy lâth i mi. Yr oeddwn mor frawychus, fel na's gwyddwn pa beth i'w wneyd; canys gwelwn y gallai nofio yn llawer cyflymach na mi; gan hyny ymsuddais drachefn; ond gan fod fy anadl yn pallu, ni allwn aros dan ddwfr, a phryd bynag y deuwn i'r wyneb, dyna lle yr oedd ef.

Pe buasai y radd leiaf o'r gallu ymresymiadol wedi ei adael ynof, neu fy mod unwaith wedi meddwl ei wrthsefyll, gallaswn ddeall yn hawdd fy mod i yn berffaith ddyogel yn awr. Ni allasai y creadur fy niweidio. Pa bryd bynag y gwnelai gyrch attaf, elai ei ben dan ddwfr, yr hyn a'i dyrysai: ond yr oedd fy nherfysg meddwl mor fawr, fel yr oeddwn ar drengu gan ludded cyn i mi sylwi ar hyn; eithr pan sylwais mai felly yr oedd, ymgalonogais, ymaflais yn ei gynffon, dringais ar ei gefn, ac yna marchogwn yn berffaith ddyogel.

Ni chawswn ddialedd mwy cyflawn a boddhaol ar elyn erioed; na ddo, hyd yn nod ar y cadeirdraw Hispaenaidd; ac yr oedd hwnw yn ddigon cyflawn: ond, nid oedd genyf ddim i'w wneyd ond eistedd yn orfoleddus ar gefn yr anghenfil, tra yr oedd ef yn ymdrybaeddu ac yn ymdrechu yn y tonau. Yna cymerais fy nghyllell fain o'm llogell, ac a'i gwânais yn bwyllog dros ei holl gorph, gan ollwng gwaed ei galon allan. Nid da y cymerai ef hyn; ond yr oedd yn cael digon o waed o'i amgylch yn awr, a dechreuai ymlonyddu. Pa fodd bynag, ymgedwais ar ei gefn, er gwneyd yn sicr o'm hamcan, hyd oni ddechreuai ei ben ymsuddo dan y dwfr, a'i ranau ol enfawr a dröent i fynu yn union-syth; yna myfi a'i gadawais yn nofio ymaith, fel rhyw nofnod anferth wedi colli ei angor."

"Yn awr, doctor, pa un bynag a yw pob chwedl yn gywir, y mae yn sicr nad yw yr eiddoch chwi yn gelwyddog," medd fy mam ar derfyn yr adroddiad uchod; ond y mae arnaf eisiau ychydig o eglurhad-y mae hi yn stori ardderchawg, ond y mae arnaf awydd gwybod y canlyniadau. Pa beth a wnaeth brenines yr Hispaen â'r enaint a adawsoch gyda hi? Gallwn feddwl fod rhyw olygfeydd dyeithr o amgylch y llys hwnw dros ryw yspaid."

"A dweyd y gwir i chwi, Margared, ni's defnyddiwyd y drwyth yn y modd y buasid yn dysgwyl. Deallwyd wedi hyny mai dyma y gwir. Yr ydoedd y brenin y pryd hyny wedi penderfynu ar y rhyfel andwyol hono a elwid y Cyngrhair Teuluaidd, ag oedd yn dra anmhoblogaidd ar y pryd; a'r frenines yn canfod bod yr offeiriaid, ac amryw o'r prif bendefigion, yn wrthwynebol iddi, ac yn gwybod na's gellid dwyn y rhyfel yn mlaen yn effeithiol heb eu cydsynied, hi a bwrcasodd gyflawnder o'm