serchrin grymus, ac a roddes gyffyrddiad ysgafn o hono i bob un o honynt: ac wrth gwrs, yr oedd yr effaith yn ddïoed, yn rymus, ac yn hynod; ac y mae yn ffaith hynod, ac anwadadwy, bod effeithiau y taenelliad hwnw, wedi parhau y gwŷn o ymlyniad yn mysg y dosparth hwnw yn Hispaen hyd y dydd hwn."
"A pha fodd y daethoch chwi yn mlaen gyd a'ch iarlles ardderchog? Gallwn feddwl fod golwg ryfedd arnoch chwi yn dychwelyd adref i'w lle, yn haner noeth, a chenych i atteb am fywyd ei hoff anifail!"
"Testyn lled ofidus yw hwnyna, Margaredtestyn lled ofidus. Ni welais i mo honi byth wedi hyny! Yr oeddwn wedi colli fy hugan, a'm het. Yr oeddwn wedi colli fy nghyfoeth, yr hwn oedd mewn arian-nodau, wrth nofio, ac ymsuddo. Yr oeddwn wedi colli fy ngherbyd a'm meirch, ac wedi colli fy enw dâ, yr hyn oedd yn waeth na'r cwbl; canys o'r dydd hwnw allan, fe'm gochelid, ac fe'm gwarth-nodid fel dewin. Nid oedd y cyfnewidiad disymwth a dyeithriol yn nheimladau y bendefiges, wedi diane yn ddi sylw ganddi hi ei hunan, tra yr ydoedd gorphwylliad yr anifeiliaid ar drosglwyddiad yr ysgwydd-wisg swynedig iddynt, yn cadarnhau ei drwg-dybiau gwaethaf, mai un yn ymarfer a'r celfion annghyfreithlawn oeddwn, a'm bod wedi dyfod yno i geisio ei pherchenogi hi a'i chyfoeth, trwy y mesurau mwyaf annghyfreithlawn; a chan nad oeddwn yn dewis myned i roddi eglurhad iddi ar y pen hwnw, diangais o'r ardal mor dawel ag y gallwn."
"Y mae yn sicr nad ydyw yn bechod ymwthio i gyfrinion cuddiedig natur, yn enwedig, yr eiddo planwydd, a blodau. Gan hyny pa ham y cefais i fy nghosbi yn fwy nag y cosbwyd unrhyw gyfferiedydd erioed o'm blaen? A ellwch chwi ddweyd hyny i mi Margared?"
"Gallaf yn wir, doctor, yn ddigon rhwydd. Bu dynion eraill yn astudio ansoddion llysiau, er cynnorthwyo natur; ond gwnaethoch chwithau hyny yn unig er gwyr-droi natur-a gobeithiaf eich bod wedi darllen eich pechod yn eich cosbedigaeth."
"Dyna y synied y mae fy nghalon fy hun wedi ei sibrwd wrthyf fil o weithiau! Yn wir, daeth i fy meddwl tra yr oeddwn yn ystelcian o amgylch ar fy ffoedigaeth, wedi fy anturiaeth gyd a'r iarlles: ond ni ddygwyd fi yn foddlawn i ddystrywio y gwlybwr gorphwylliadol, hyd wedi cael o honof brawf pellach, a chwerwach, o effeithiau peryglus fy nghyfrin. Cymerasai flyneddoedd o bryder a llafur i berffeithio cymmysglyn, oddiwrth yr hwn y dysgwyliwn y canlyniadau buddiolaf. Ond, y canlyniadau a ddug arnaf fi, er eu bod ar y cyntaf yn addaw bod yn bob peth a ddymunaswn, a brofasant yn y diwedd yn bob peth oedd yn ofidus, ac yn fynych, buant agos a bod yn angeuol i mi; gan hyny, myfi a fum yn ofalus i ddifa pob dyferyn o'r drwyth & than; a phob dernyn o bapur ar yr hwn y gwnaethwn unrhyw gof-nodiad am ffyniant y darganfyddiad. Ni's gallaf annghofio fy hunan y camrau blinion a phoenus, trwy y rhai ei caed. Ac hyd yn nod wedi yr holl anffodion i'r rhai y'm darostyngodd-wedi yr anrheithiad truenus o'm holl uchel-gais dyrchafedig, ni's gallaf lai na theimlo yn falch yn yr ymwybodolrwydd fy mod yn meddu gwybodaeth o ddirgelwch na fu yn meddiant un marwol-ddyn o'r blaen; ac na chaiff un dyn ei ddysgu genyf fi; a'r hyn y mae agos yn sicr, na bydd i neb ar fy ol, feddu digon o ddyfalwch, ac athrylith i'w gyrhaeddyd."
Byddai y doctor dysgedig yn arfer terfynu hanes rhyw anturiaeth âg ymadroddion seinfawr fel yr uchod; tôn fostfawr pa rai a gynnyrchai effaith rhyfeddol ar ei wrandawyr yn fynych. Gan edrych ar ddynsawd culfain y doethawr, fe'm meddiannid â rhyw barchedig ofn anfesurol; ac er fod darswyniad ei chwedlau rhyfeddol yn fy nghadw i wrandaw gyda chwilfrydedd awchus tra y parhaent, byddwn yn ymneillduo yn wastadol yn fuan wedi y darfyddai lefaru, am nad oeddwn yn alluog i oddef presenoldeb gwr mor urddasol a doeth, ag yr ymddangosai i mi ei fod.
Yr oedd llawer o'i hanesiadau yn fwy rhyfedd na'r rhai a gadwyd genyf; ond, y mae y rhai hyn yn ddigonol fel ennghreifftiau; a di fudd a fyddai dilyn gorphwyllderau y doctor yn mhellach. Yr hyn oll a allaf ei ddywedyd o barth i'r anturiaethau hyn ydyw, fy mod pan yn eu gwrandaw gyntaf, yn eu derbyn fel gwirioneddau diamheuol; ac yr oedd fy mam yn eu credu yn ddiamheuol, a'r doctor yn eu hadrodd fel dyn a gredai eu gwirionedd ei hunan. Ond byddai dadleuon beunyddiol rhwng fy mam ag yntau mewn perthynas i ddarganfyddiad y swyn; y flaenaf yn parhau i hòni ei fod yn adnabyddus i bennaethiaid llwythau y sipsiwns, neu, yr Aiphtwys, er's canrifoedd yn ol; ac fel profion o'i haeriad, crybwyllai hudiad pendefiges Iarll Cassillis gan Johnie Faa, mor adnabyddus yn nghaneuon yr Isel-diroedd; a hudiad Hector Kennedy o'r tair prïodferch, oll o radd uchel, yn unig trwy gyffwrdd â chledrau eu dwylaw, mewn canlyniad i'r hyn nid oedd unrhyw allu yn ddigonol i luddias yr un o honynt i'w ddilyn ef. Adroddai chwedl dra effeithiol hefyd am eneth dra phrydweddol, o'r enw Sophia Sloane, yr hon a adawodd Kirkhope, gan ddiane ar ol y sipsiwns, er na buasai yn ymddiddan gair âg un o honynt erioed. Aeth ei thad a'i hewythr ar ei hol, ac a'i cawsant gyda hwynt mewn hen