Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu/177

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

AWDL FOLIANT I'R GWR O'R TYWYN.

Anhawdd, bod hebod, uwch Ynys, Dywyn
Deau, Gwynedd, Powys;
Y mae'n oll, mewn ewyllys
Yn dri llu, yn dy dair Llys.

Llys i'r holl Ynys, yn rhoi llyn, ag aur
Ag arian a berthyn;
Lletty Ieirll, o bob lle tyn
Llu dacar, oll i Dywyn.

Tywyn, mewn y bryn, un bryd, a Rhufain
Lle rhifais yr hollfyd!
Y lle gwn, gallai eu gyd
Dri Emprwr, dorri ympryd.

Emprwr, wyd o wr, dewr-wych, cadarnaf
O Deyrnas Merfryn Frych:
Nid gŵr ond a gerych,
Nid hir fy oes ond tra fŷch.

Oesed yr Unduw sy' Drindod.
Yt gyd oesi, a'th gwraig briod;
O'ch meibion, o hon, cewch hynod, wyrion
A mil orwyrion, mal Eryrod.

Anhaws, ddydd a nôs, wrth ymosod.
Yw taro wrthych, na'r tŵr Arthog;
Ofer, dan faner ei fyned, gwladoedd
Ymwasg, a lluoedd, ymysg Llewod.

Pan fých lareiddiaf, ar dy dafod
Pan'd mawr gwedd, bonedd, medd pawb ynod;
Pan sorrych, garw gwŷch, gŵr y god, beilchion
Graian yr eigion, a gryn rhagod.

Chwegwaith y peraist, chwe gwaith parod,
Chwe chappan, i'm rhan, Gymro hynod;
Chwe Dwbled felfed, am dy fod, mewn grym
Chwe Gwn, ag aur ym, chwe ugain grôd.

I wan y cordych, roi naw cardod
I ŵr du gwarnoeth, y rhoed gernod;
I ddifeilch, i feilch, am fod i'th brofi,
I wyr y trefi, y rhoed trafod.

O'r rhai, ni'th garai, heb wyth gwirod,
Naw ugain aethant, yn wâg nythod,
Wyth gantai o'th dai aeth dïod, ynys
Ar Llŷs, lle ddwyd Rys, llaw Dduw trosod.

Ni'th luddiant drichant, i'r tir uchod,
Y mån uchelwyr, mwy na chwilod;
Lludd di y rheiny rhod a Chaer Ludd,
Mal y llúdd carw rhûdd, y cor hyddod.

Fal yr ymlidiai hyd pan wnai nôd,
Un cenau torchog, naw can iyrchod;
Fal y maedd henfaedd heb hanfod, genfaint
Ar Llew naw ugaint o'r llwynogod.

Eryr wyd ar wŷr, hyd y daw'r dd,
Hwyntau mewn llwynau, mal dylluanod;
Pan faet walch, glewfalch a'th glod, am ganpunt
Y caet o honynt farcuttanod.

Nid un eu gwisgoedd, yn dwyn gwasgod,
Nid un ymryson dawn mawr isod,
Nid un dadau, yn Iau, ŵr nod a mannau
Nid un wynebau, nid un wybod.

Nid un ddwy grafange, i fwrw Ffrangcod,
Nid un ebawlfeirch, nid un balfod;
Nid un râs dy gâs gofod, a'th gleddau,
Nid un wayw'n ddarnau, nid un ddyrnod.

Ni bu yn Ustus, neb un ystod,
Ni bŷdd dragywydd mewn dûr gawod;
Ni bwyf na fynnwyf dy fod, yn ddiwarth
Na bo Deheubarth, na bŷd hebod.


AWDL FARWNAD TOMAS, ARGLWYDD Y TYWYN.

Duw mawr! Nef a llawr, ef a'n lâs, yn llwyr
Holl wŷr y deyrnas;
Mor drom ar Gymru, a'i drâs,
Fu'r dymestl, farw o Domas.

Tomas, wyf ddulas i ddilyn, mawrglwyf
Am Arglwydd y Tywyn;
I'm coludd y mae celyn,
Drain a dûr wedi'r un dŷn.

Un dŷn wyf mewn clwyf, pawb am clyw, gwae fi!
A gwae 'i fam o'r diluw!
Amcanodd, pam y cenyw,
Neittio'r bedd, antur y byw?

Ein bywyd eu gyd oedd geidwad, gwyr oll,
Gwae ei wraig, a'r teirgwlad!
Am ei gŵr, yma ê gâd,
Angau hiraeth, Angharad.

Hiraeth oer ar faeth a fŷdd, a galar
Drwy galon ei Brydydd;
Hiraeth fal brâth saeth, y sydd,
Ar ei frawd, ŵyr Feredydd.

Meredydd, Tomas, Rhys, gymmrodedd, tem!
Tomas, a'i etifedd;
Mewn un gair, mae yn gorwedd,
Mae yno bump mewn un bedd.

Gwae Farg'red weled dialedd, ei blwyf!
Gwae ei blant o'i orwedd!
Gwae Elliw, bod ei ddiwedd!
A gwae Fallt, o gau ei fedd!

Margred os poened yn oes Pâb, ei Dduw
Am ddwyn un o'i deufab;
Gettid Mair, ddiwair arab,
I hon amen, ei hûn Mâb.