Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu/180

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dan weryd mae dyn wirion,
Anhap oedd roi wyneb hon.
O daiarwyd ei dwy-rudd,
Mae'n llai'r gwrid mewn llawr gwŷdd.
Och i mi ei marw, chemmwy,
O bridd ei math mewn bedd mwy!
Och Dduw Tad! o chuddiwyd hi,
Nad oeddwn ammod iddi.
Och! funig o chaf einioes,
Ei rhoi yn fud, arhown f'oes
A gweddw am hon mewn bronydd,
Yw'r gog ar bedwar gwŷdd.
Ni chwardd bronfraith o chuddiwyd,
Is y Glyn, nag Eoes lwyd.
Os marw yw hon is Conwy
Ni ddylai Mai ddeilio mwy!
Gwywo wna'r bedw a'r gwiail,
Ac weithian, ni ddygan' ddail:
Os marw fis Mai'r forwyn,
Och Fair fyw! farw'r ferch fwyn.
Och anian na chawn innau,
Yr un dydd i farw ein dau;
Ni fynwn yn hwy f'einioes,
Gan na chai amgenach oes.
Och yn awr na chawn orwedd,
Gyda bun dan gaead bedd.
A dyn ar ei hol ydwy'
Uwch ben Gwen ých bannog wy:
Marw a wnaeth yn y marn i,
Yr haulwen ar haelioni.
Anwych wyf oni chyfyd,
O farw, bun yn fyw i'r byd.
Gwnaed am hyn o ganiad hir,
I minnau godi Meinir.
Diles wyf fel y ddeilen,
O frig yw am farw Gwen.
Hon fo'r seithfed ddi ledryw,
Bun fain a wnel Beuno'n fyw.


CYWYDD I HARRI, IARLL SOMERSET,
YR HWN A FU FARW YN IEUANC.

Os wyneb Iarll sy'n y bedd,
Iarll a aned er llynedd;
Duw Oruchaf edrychwr,
Eginyn Iarll a'i gwna'n wr.
Daroganais drwy ganu,
Yr à 'n fab o'r em a fu;
Daroganais dri ugein-waith,
Yr a fe'n wr 'n yrfa 'n iaith;
Gorthrechiad ei dad ydyw,
'Rel mewn oed i'r Almaen yw;
Yn arglwydd can-mlwydd ei ran,
Symerset, simwr sidan.
O wïalen yr hen-wydd,
Derwen fawr o deyrn a fydd.
Caed ti Harri Caterwen,
O'r Simmwnt, Iarll Rismwnt hen.
Y pren hwn fab brenhinaidd,
O for Groeg ei frig a'i wraidd.
Trwy'r môr er ennill tir maen,
Trwy'r eil-mor Tir yr Almaen;
O'r tyrau hwn o ryw'r tri
Ymherodr yma, Harri.
O edain mal Owain Môn,
Y daw'r carw a'r tair coron;
Y cynta'n un o'r can-teyrn,
A bair gwaith, a bwrw ei gyrn.
Oes afon hyd Rôn a red,
Ond un afon o Ednyfed?
Yr haf yr aeth pob afon,
Yn dir sych; ond erys hon!
Nid â'r afon o Ronwy,
Onid â'r môr, yn dir mwy.
Yn un y mae, hwn a'n medd,
Yn ganwyll Owain Gwynedd.
A'r ganwyll oni'n twyllir,
A ennyn tân yn ein tir.
Ac o egin breniniaeth
Deg a gawn, a'n dwg o gaeth.
A hadyd o'i hau ydyw,
Hyd y môr, rhyddhad mawr yw.
Impyn a gwallt melyn mân,
O fab Iarll, a fu berllan.
O hwn y magwn bob mis,
Bren pêr, fel brenin Paris.
O'r ceneu a ddechreuwyd,
Y ceir llew, concwerwr llwyd.
Ef a bair o Fynwy banc,
I gaer Rhufain, a'i grafanc;
Ei ddwy asgell a ddisgyn,
Tros y môr a'r tir, os myn.
Alecsander fal eryr,
Och! bu'n y gwynt, uwch ben gwŷr.
Dau o adar a'i dodynt,
Lluwch gwin, yn mhob lle uwch gynt.
Uwch du wg, na breichiau da'r,
Ei ddau ewythr o'r ddaear.
Bid Harri wedi Edwin,
Iarll uwch Gwent, adar lluwch gwin.
Oni chair cyn pen tair-oes,
Yn deg yn niwedd ei oes;
Aed iddo Gymro, nid gwaeth,
Yn ei henaint, freniniaeth.


AWDL MOLIANT I WILLIAM NORTHYLON,
O UWCH AERON.

Lloegr gron hyd Aeron, llyna daith—William
I reoli cyfraith.
Llawer cadben o'r hen-iaith,
Llawer Iarll i'r llawr o'r iaith.
Am ei waith ar gaith[1] daeth gweithwyr—ddeugain

  1. ↑ caethion.