Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu/181

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Meddygon, Physygwyr:
Ofera gwaith fu i'r gwyr,
Eliaw ôl ei wewyr.
Ei wayw llym Wilym eilwaith—o chyfhwrdd
Dyn ni chyfyd unwaith;
Ei gledd megis gloyw oddaith,
A nodes groen, nid oes graith.
Odid araith eilwaith cynt elawr,—at wŷr
Cynt arwyl no neithiawr;
Efo wnaeth o fewn wyth-awr,
Gladdu mil, a'i gleddau mawr.
O'r maes mawr deir-awr uwch Durham—gwnaethwyr
Heb na thai nag adlam;
Fo ddoi gof am Ddafydd Gam
Wrth weled dy nerth WILLIAM.
Am ei nerth WILLIAM NORTHYLWN-a'i lafn
A'i leifniau, a'i gantwn,[1]
Y bu'r Nordd heb un arddwrn,
Heb na gwas, na mab, na gwn.
Gwr yw a'i ffyniant o gorph Einion,
A'i wreiddiau WILLIAM, o urddolion;
A ffrwyth ei dylwyth lle y delon,
Yn feilch daleithiog-weilch dylwyth Wgon.
A'i freichiau agwrdd o Farchogion,
A'i waed sy' agos i Dywysogion,
A'i dyrau chwe-ugain, aur-dorchogion.
Uchel yw ei sel fel Absalon,
Uchaf er Addaf yw ei roddion;
Uwch yw ei ryw na'r on—ffynadwy
Uwch no rhyferthwy mordwy[2] mawr-don,
I yru blaeniaid yn wyr blinion,
I ymlid oliaid mal y delon:
Ni thrŷ, ac ni ffŷ a'i ffon—yn ei law,
Ei gefn i giliaw rhag ofn galon.[3]
A miniai ei gleifiau[4] hyd pan glwyfon,
Aml tyr eu gwallt mal teirw gwylltion;
A'i law, wrth frysiaw i'r fron—mewn cadau
A'i gleddau eilliodd llu o ddewrion.
Efo a'i Bole-axes[5] hyd Fabilon,
A'i wyr i ddaear yr Iuddewon.
O waith ei law fraith, a'i fron—yn ei oes
Arofyn y groes i Rufain gron;
A'i wayw mrwydraw hyd amherodron,
Wedi concweru dau can coron,
O For Tawch[6] i'r awch y gwnai wreichion,
I ymwân mal tân yn y tywynion;
Aml oedd lluoedd hyd yn Nghaerlleon,
Mae iddo enwau mwy o ddynion.
Pob sant, pob ddeu-sant ddigon—o dylwyth
I lawr Caer Ystwyth,[7] lawer Cristion,
Y pyrth i aros y porthorion,
A. Chaer i aros carcharorion;
Ac am frad, lledrad lladron—y Blaenau,
Yr ânt i rwymau heiyrn trymion.
Ni bu un gyfarch March ab Meirchion,[8]
Neu Lawnslot Lag,[9] nac Uthr Ben dragon;
Ni bu brodyr Llŷr fab Llŷron—un rwysg,
Neu Fwrd[10] o Gaer Wysg wrth y Ford Gron;
Y gwr byw ei grest, a ddwg gar bron,
Er briwo esgyrn wewyr breisgion.
Oes flawydd na nŷdd, neu on-yn wewyr;
Oes bren ffŷr, na's gyr yn ysgyrion,
Trychant ni threuliant wrth wŷr haelion;
Traian a roddes teyrn o roddion,
Tryma traul dan haul, pan êl hon-i lawr,
Traul fawr hir, a Chawr tir Uwch Aeron.


CYWYDD DAMON A PHIDAS.

Y Cywydd isod sydd wedi ei seilio ar chwedl Roegaidd, am ddau athronydd o'r enwau Damon a Phythias, y rhai a dyngasent gyfeillgarwch puri'w gilydd. Rhoddwyd prawf llymdost ar eu ffyddlondeb yn y modd canlynol. Cafodd Damon ei ddedfrydu i farw, gan Dionysius y Creulawn, Gormeseyrn Syracuse; ac efe a ddeisyfodd am ganiattad, i gymeryd taith i'w wlad ei hun, er mwyn trefnu ei feddiannau; gan addaw dychwelyd i fyned dan y ddedryd, ar amser nodedig; a'i gyfaill Phythias, yn y modd mwyaf haelfrydig, a gynnygiai feichiafu drosto. Pendefigion y llys, ac yn enwedig Dionysius, a ddysgwylient yn bryderus am derfyniad y fath anturiaeth ddyeithr. Fel yr oedd y dydd gosodedig i'r dihenyddiad gymeryd lle yn nesau, a Damon heb ddychwelyd, yr oedd pawb yn beio Phythias am ryfygu myned yn feichiau drosto; ond, yr oedd Phythias ei hunan yn ymddangos yn hollol dawel a di bryder: ond, pan oedd awr y dihenyddiad bron ar ben, a Phythias gyd a'r sirioldeb mwyaf yn ymbarottoi i offrymu ei einioes dros ei gyfaill, cyrhaeddai Damon yno yn ol ei ymrwymiad; ac wedi cofleidio ei gyfaill ffyddlawn, rhoddai ei hun yn llawen yn nwylaw y dihenyddwr; a'r olygfa a effeithiodd mor rymus ar Dionysius, fel y caniattaodd efe ei fywyd i Damon, gan ddymuno cael ei dderbyn yn drydydd i'w cyfeillgarwch.-Rollin's Ancient History, book xi. ch. i. sect. 4.

Dionysius, dyn oes-wyllt,
Ydoedd frenin gerwin gwyllt;
Yn tario yn llawr y taerynt,
Y Saracess gynes gynt;
Ac a riwliai yn greulon,
Wrth ei frest oer waith ei fron.
Ni rodiai dyn 'rhyd ei dai,
Fryd awchus na fradychai;
Daeth i wlad y pennadur,
Ddau gydymaith perffaith pur;
Un oedd Phidas cof-was call,
A Damon wirion, arall.
Yno pan welodd ennyd,
Eu gwaith a'u trysor eu gyd;
Y brenin heb air anwyl,
O chwant i'w cowaeth uwch hwyl,
A ddug arnyn' ddig oernych,
Gau dystion, anudon nŷch;

  1. adfeilion
  2. rhuad y môr
  3. gelynion
  4. cleddyfau
  5. ffon-fwyall
  6. Mor yr Almaen
  7. Castell Aberystwyth
  8. Tywysog enwog o Ogledd Prydain, yn y бed ganrif
  9. Launcelot Lake, un o dri chad farchogion llŷs Arthur
  10. Bwrt fab Bwrt, brenin Gwasgwyn, un o dri Diweir farchogion llys Arthur