Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu/183

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bu darian rhag ymwân gwr,
Breintiedig uwch Bran Tewdwr.
Lliwied wr i F'redydd,
Llew o'r aur, a llaw o rudd,
A'i law'n dwyn fal hoelion dur,
Ar ei fysedd arfau Assur.
Cynan, dywysog Gwynedd,
A'i arfau oll ar ei fedd.
A llu y tri llew o wyn,
Yn sengi yn y Sangwyn.
Ar faner rhodder y rhain,
A'r llewod i Iarll Owain.
Os y tad a osod dydd,
I roi'r faner ar fynydd,
Dichon gael hyd yn Maelawr,
Dri-ugain mil, darogan mawr;
Cyn yr haf nesaf i ni,
Cyn Gwanwyn, cyn eu geni.
Mae'n ol y marn a wylynt,
Y ddraig wen ar wŷr enyd,
A draig wen a drŷ eu gyd;
A gofalu, draig felen,
A ddyru gwymp i'r ddraig wen
Pan aeth dan poenwaith it' hyn,
Oll o aelwyd Llewelyn.
O Fon y caed gwreichionen,
Ar Ffrainc ac Aberffraw wen;
Owain a'i blant yn un blaid,
Y tywynion Brutaniaid.
Iesu i'w gadw yn gadr,
I gadw aelwyd Cadwaladr.


OWDL DAFYDD LLWYD AB DAFYDD AP RHYDDERCH
O OGERDDA.

Dewis wyt wr llwyd ar holl wyr—Brytaen
Bwrw etto y bradwyr,
A dryllia hwynt wrth dwr Llyr,
A'u diwedd fo dy wagwyr.

A'th wayw rhudd Dafydd hyd Ial—a'th isarn
Wrth osod dal yn dal,
Y peraist ym mhob stal
I fil d'ofni fal Dyfnwal.
Megaist ofn mil myrdd megis Dyfnwal Moelmud;
Mal awch awyr taran naw mil a chwarterud.
Miloedd ni'th arhoent mewn ymladd o tharawud,
Mwy na llu adar yn y man y llidud.
Ni bu wayw a chalon neb a ochelud;
Ni bu lewach calon, ni bu lai awch cilud;
Ni bu gawr a safn wyneb y gaer y safud;
Ni bu'n oes y cewri un byw nas curud;
Neu belydr nas arhoest, ni bu leidr nas rhestud.
Ni bu leisiau gloywon na blisiau a glowud;
Ni bu o'r oes hon wynebwr well ei sud.
Ni bu'r gwr a wnelai er bwrw'r gwyr a wnelud,
Ni bu i'n oes yd yn hyn un bwa nas tynud;
Ni bu wr a fwriai'r un bar a arferud;
Ni bu hen Syr Hywel, na neb nas arhoud;
Ni bu wn er teir oes, ni bu wayw nas torrud.
Ni allai dy aros yn y lle y dyrud,
Na llu ar y mynydd yn y lle yr ymwanud.
Ni bu aliwns ogryf, ni bu lu nas gorfud;
Ni bu law nes o rym, ni bu lew nas rhwymud;
Neu Arthur a'i gaerau y north hir agorud.
Ni allai athrywyn yn y lle o thrawud,
Ni bu lan y fyddin neb o'i blaen a faeddud;
Na llawer o filoedd yn y lle ry'felud.
Nid a'i un i adwedd ond ai un a oedud;
Nid a'i un is dy nod hyd nis di eneidud;
Nid a'i wr i neidio wedi yr enwaedud;
Nid a'i un yn oediog o'i dynion a nodud;
A'th wayw ar foroedd a thir yr arferud;
Y curi y llongau a'u caerau a ollyngud,
O lew iawn dy grym dewr hael yn dy grud;
A dewr iawn yd elor a dur yno y dalud,
I'th deyrnas wiw Ddafydd, waith dewr nis goddefud.
Wyr yr hen Rhydderch yr aur hyn a roddud.
A'th wyr a'th hirflam, a'th ddewr waith orfflud,
A thai yn w'llysgar, a thanau y llosgud,
Oes o gaerwysg yno le nas goresgynud;
Wythgant o'u caerau a thai y cwnewerud;
Oes gwr nes i nawllu, oes gaer nas ynillud?
Oes deyrnas drwyddi, oes dewr nas diwraiddud?
A fo yn un ysgol a fai yn iawn esgud,
Ni allai dy attal yn y lle y dywettud.
A'r tai ar fwnai, a'r tir a ofynud,
A'i holl dyrau breiniau daiar a brynud;
A dwy erw'n farwol a'i dewrion a fwrud,
A'r llyfron i orwedd, a'r llu a farnud;
A glew wyd a gloyw draw a goludog a drud;
A mwy yw dy galon am waed a golud;
A'i sylltydd Rhonwen is elldydd y rhanud;
A'th law fu'n ei dal, a'th leisiau yno yw dylud;
A thi a wnai yn Lloegr a'th onen y llugrud;
A'th ofn i wyr Bambri waith a fu'n erbyn brud.
I'r llawr y rhoi dri chawr o'r lle yr edrychud;
A phob cwymp o'i tri chwymp fal cwymp ffaracud.
A'r holl wyr o gampau ar y llawr y cwympud;
Ac yn oes Arthur er un gwr ni syrthud;
O ddifri na chwarau yd ar ddofr na charud;
Er da ar y ddaiar awr dori ar addawud;
Ond iawn i'm weddio un Duw maddeud;
A rhoi dy oed Iesu Ner hyd y dewisud.


CYWYDD Y CAE BEDW.

Eirchiad wyf archiad ofydd,
Erchais gae euraches gwydd,
Cae ir o daeth mewn cor dail,
Ysta gae ysto gwiail.
Dewis orchwyl dau serchog,
I'w edrych gwaith drych y gog.