Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu/185

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

aml ag y byddai rhyw ran o'r gwaliau creigiog yn dyfod i'r golwg. Yr oedd y meddwl fod genym daith o ddeunaw milldir cyn y caem olwg ar y byd uchod, yn ychwanegu at yr ofn a deimlem yn barod. Cyn pen hir, dywedodd Stephen wrthym, er ein cysur, y parhai y lampau oedd genym i oleuo am bum' awr; ac fod yno mewn manau priodol, am y rhai yr oedd ef yn eithaf hysbys, ystorfeydd o olew. Dywedodd wrthym hefyd, fod gan y bachgenyn Indiaidd ag oedd yn ein dylyn, fasgedaid o fwyd; ac felly cawsom ein rhyddhau o ofn newyn, a thywyllwch, yr hyn a barodd i ni deimlo dipyn yn fwy calonog wrth gychwyn ein taith beryglus ac anturiaethus.

Er nad oes i'r ogof ond un fynedfa, er hyny, mor fuan ag yr ydym yn dyfod i'r oriel, y mae yn ymwahanu yn ugeiniau o wahanol rodfeydd yn myned i wahanol gyfeiriadau. Y mae y rhai hyn eto yn cael eu croesi gan luaws o lwybrau yn cyfeirio yma ac acw, rhai yn uchel, ac ereill mor isel, fel yr oeddym yn gorfod gwthio ein hunain trwodd. Y mae y rhan fwyaf ohonynt heb eu chwilio erioed, ac yn aros yn ddirgeledigaethau. Y mae y brif ogof, mewn gwirionedd, yn gynwysedig o nifer o rai llai, rhai o faint aruthrol, ac yn gyffredin oddeutu tri chant o latheni islaw arwyneb y tir. Y mae yn cael ei hadnabod wrth yr enw "Ogof Mammoth," nid am fod esgyrn yr anifail hwnw erioed wedi eu darganfod ynddi, ond oherwydd ei maintioli aruthrol.

Erbyn hyn, y mae ein llygaid wedi ymgynefino â'r tywyllwch, ac yr ydym yn cael ein harwain i mewn i'r lle a elwir Neuadd Audubon, lle anghredadwy o fawr. Yn nesaf awn i mewn i Neuadd yr Ystlumod, a elwir felly o herwydd y nifer mawr o'r creaduriaid hyny sydd yn crogi wrth y nen. Dyna lle yr hongiant yn un twr gyda'u gilydd, fel pe na buasai yno ddigon o le iddynt; yno y cysgant ar hyd y gauaf, er fod tymheredd y lle, fel y nodasom yn barod, yn bedwar ar bymtheg a deugain o raddau. Ac y mae un peth arall pur hynod mewn cysylltiad â hwynt, sef eu bod, mor fuan ag y daw y gwanwyn, yn gollwng eu gafael, ac yn ehedeg i'r awyr agored, er nad oes yr un arwydd allanol fod y gauaf oer wedi myned heibio, a'r gwanwyn gwyrdd wedi gwneyd ei ymddangosiad. Onid oes genym yma engraifft neillduol, fod y creaduriaid bychain hyn yn gwybod yr amserau a apwyntiwyd iddynt gan Greawdwr holl-ddoeth, er fod hyny heb ei ddarganfod gan ddyn?

Yn nesaf, yr ydym yn myned i mewn i oriel, o dair i bedair milldir o hyd, haner cant o droedfeddi o uchder, ac o bedwar ugain i gant a haner o led. Pa beth yw yr ystafelloedd a adeiledir gan ddynion i'w cyferbynu gyda'r fath ystafell a hono, wedi ei thori allan gan gywrain

law natur mewn craig? Teimlasom ar ein gwaith yn ceisio ffurfio rhyw ddrychfeddwl am faint y lle, fod yr awyr a anadlem yn effeithio yn hynod o adfywiol arnom. Ac nid dychymyg ydoedd hyny ychwaith, oblegid o'n hamgylch yn mhobman yr oedd gwelyau anferth o nitre, y rhai a ollyngent oxygen yn rhwydd, yr hwn, yn ol barn pawb sydd yn gwybod am dano, sydd yn nwy hynod o adfywiol. Mor belled ag y mae yr ogof wedi ei harchwilio, y mae yr awyr yn hynod o iach; a chydag un eithriad o ffrwd o ddwfr chwerw, sydd yn agos i'r fan a elwir "Mary's Bower," y mae y dwfr yn risialaidd, ac iachus. Rhyw ddeugain mlynedd yn ol, pan yr oedd eisiau saltpetre at wasanaeth rhyfel, yr oedd y gwelyau hyn yn cael eu gweithio, a gwelsom ddwfr-bibau, coed, a hen olwynion, yn agos i'r lle, y rhai a ddefnyddid i weithio peirianwaith, yr oll mor ddilwgr a phan y daethant i mewn. Y mae yr awyr yno hefyd yn hynod o sych. Sylwyd fod yr anifeiliaid a ddygwyd i mewn y pryd hwnw yn pesgi, er nad oedd eu bwyd yn wahanol i'r cyffredin, yr hyn a ddygodd rai pobl i'r farn y gallai y lle fod yn fanteisiol i rai yn y darfodedigaeth. Adeiladwyd ychydig dai bychain, gweddillion y rhai a welsom, a chymerwyd meddiant o honynt gan bymtheg o gleifion, yn niwedd 1853, ac arosasant yno hyd ddechreu y flwyddyn ganlynol, yspaid o dri, neu bedwar mis. Ond er fod awyr sych ac ysgafn yn llesol mewn achosion o ddarfodedigaeth, fe ffaelodd yr anturiaeth. Bu un o'r pymtheg farw yn ei gartref tywyll; a bu i ychydig o goed cedrwydd a blanwyd yno farw hefyd.

Ond y mae yn rhaid i ni adael y fan hon eto. Wrth fyned yn mlaen am chwarter milltir, yr ydym yn dyfod at yr eglwys, ystafell fawr, bedwar ugain o droedfeddi o uchder, ac mor gyson ydyw ei gwaliau, fel y gallech o'r braidd ei chymeryd am un Gothaidd. Y mae yno gôr yn un pen iddi, ac mewn lle manteisiol y mae yno bwlpud, mor berffaith, fel y gallech feddwl mai llaw ddynol fu yn ei ffurfio. Ond nid yw yr oll ond gwaith natur. Y mae ffurfiad yr eglwys mor berffaith, fel, ar rai adegau y goleuir hi i fyny, ac y cynelir gwasanaeth gan drigolion yr ardal, ac ymwelwyr â'r lle. Mor effeithiol y rhaid fod sain cân a moliant yn y fath le! Aeth ein harweinydd i'r pwlpud, a goleuodd ffagl, wrth oleuni pa un y gallem weled y colofnau a'r addurniadau ag sydd wedi eu gwastraffu ar hyd ei muriau gan law haelionus natur.

Yn mhellach yn mlaen, y mae yno gareg anferth, ar lun arch, y mae dros haner can' troedfedd o hyd. Yr ydym yn nesaf yn gweithio ein ffordd trwy fynedfa gul ac anghyfleus, nes i'r Arweinydd yn sydyn beri i ni aros, er mwyn