iddo gael dangos i ni agoriad mewn craig, yn debyg i fynedfa i ffynon. Y mae yr ochrau mor llyfnion a phe buasent wedi eu tori gan weithiwr celfydd; ond yr oedd yr oll wedi eu ffurfio trwy weithrediad dwfr. Nid oedd y lamp yn gallu dangos i ni yr un gwaelod; a dernyn o bapur ag olew ynddo a oleuwyd, ac a daflwyd i lawr, a aeth i lawr, i lawr yn araf, ond llosgodd allan cyn cyrhaedd y gwaelod. Yehydig yn mlaen yr ydym yn gallu clywed dwfr yn disgyn, a thrwy gymhorth ein lampau, yr ydym yn canfod ffynon debyg i'r hon a adawsom, ond yn fwy o lawer. Yn wir, gellid ei chymeryd am ystafell fawr gron, o uchder anfesuradwy. Yn union o'n blaen, y mae rhywbeth ar lun llen fawr, wedi ei phlygu yn fil o blygiadau, ac wedi ei haddurno yn ardderchog, ar hyd yr hon y mae dwfr yn rhedeg, yr hwn a ymgasgla ac a dora yn un rhaiadr brigwyn wrth ei gwaelod. Trwy gymhorth ffagl fawr, a oleuwyd gan ein Harweinydd, gallem weled y gwaelod oddeutu can' llath o danom, ond yr oedd gweled y pen uchaf yn anmhosibl. Wrth fod goleuni y ffagl yn chwareu, yr oeddem yn meddwl fod y llen fawr yn symud i fyny, neu yn cael ei phlygu o'r naill du. Yr oedd yr olygfa yn ofnadwy o brydferth! Yr ydym yn eistedd i lawr mewn syndod. Ond y mae arnom eisieu gweled pen uchaf yr ystafell aruthrol hon; a chan fod gan fy nghydymaith foddion i wneyd goleu cryfach nag arferol, dringasom i fyny yr hen greigiau, a rhoddwyd y Drummond light mewn gweithrediad, pryd y datguddiwyd cromen aruthrol o faint. Yr oedd yn codi dri chant o latheni uwch ein penau, yn cael ei rhanu yn dair rhan, gan y llen dryloew y soniasom am dani. Yn wir! nid yw y nefoedd uwchben yn datgan mwy o ogoniant Duw, na'r dyfnderoedd islaw!
Ar ol ymgripio allan eto, yr ydym yn dyfod i oriel, muriau duon yr hon sydd wedi eu britho gan ysmotiau gwynion. Yn mhen mynyd yr ydym yn yr ystafell a elwir Neuadd y Ser. Yr ydym yn gorphwys ar golofn, ac yn edrych i fyny. Y mae ser a phlanedau yn dysgleirio uwch ein penau, mor ddysglaer a'r rhai a welsom yn y byd uwchben, gan ffurfio golygfa ryfeddol. Y maent yn ymddangos yn anfeidrol bell oddiwrthym, mor gyflawn a pherffaith y debygoliaeth. Yn ofer y dywed rheswm wrthym, mai ar sylwedd a elwir gan y fferyllydd yn manganese yr ydym yn sylwi, ac nad yw y ser tybiedig, amgen nag ysmotiau o gypsum taenedig ar hyd-ddo. Tra yr ydym yn sylwi, y mae Stephen yn cymeryd ein lampau oddiarnom, ac yn cuddio ei hun a hwythau mewn craig, fel y mae rhywbeth tebyg i gwmwl yn myned dros bobpeth; y mae y ser a'r planedau yn diffodd, a'r oll yn myned yn dywyllwch dudew. Yn fuan pa fodd bynag, y mae y cymylau yn cilio, a'r wybren ymddangosiadol yn gwneyd ei hymddangosiad drachefn.
Yn awr yr ydym yn cael ein harwain i weled rhyfeddodau o natur arall; nid yw y gallu creadigol wedi ei ddwyn allan i gyd gyda'r pethau a welsom ar lun temlau, &c. Yma, dair milldir o geg yr ogof, y mae llyn, o ddyfnder anadnabyddus, a elwir y Môr Marw. Tu draw iddo, y mae tair afon, y Styx, y Lethe, a'r Echo; y gyntaf yn ddeugain troedfedd o led, a deg troedfedd ar hugain o ddyfnder. Yr ydych yn croesi y Styx tros bont bach naturiol, anhawdd ei thramwyo; y mae y ddwy arall yn cael eu croesi gan gychod bychain, a gedwir i'r perwyl. Nid yn unig yr ydych yn croesi y drydedd, ond yn ei mordwyo am filldir neu ychwaneg; ac os oedd ein meddyliau yn gyffrous o'r blaen, yr ydym yn awr mewn dychryn; ar ein gwaith yn cyflym lithro yn mlaen, mewn rhai manau yr oedd y graig yn dyfod mor agos, nes prin roddi lle i'r cwch fyned odditanodd. Ni theimlasom ein hunain yn y fath gaethiwed erioed o'r blaen. Yn mlaen yr ydym yn myned, yn cael ein harwain gan y goleuni ansicr. Beth pe buasai y pen uchaf yn syrthio ar ein penau! Neu, efallai, yn fwy ofnadwy na hyny, beth pe buasai yr afon yn codi!! Pe codasai ond dwy droedfedd, buasai ein dychweliad yn anmhosibl; ac ni's gwyr neb pa faint a fuasai rhaid aros i'r dwfr fyned i lawr yn ddigonol i ganiatau i ni fyned yn ol. Dywedodd Stephen wrthym, ei 1 fod ef yn gwybod ei fod yn codi pedair troedfedd a'r hugain mewn dwy awr. Y mae meddwl am y peth yn ein dychrynu. O'r diwedd, ar ol cyfwng a ymddangosai yn oes, er fod Stephen yn yn ceisio ein difyru â rhai o'i ganeuon difyr, y mae ein bâd bychan yn cyrhaedd yr ochr arall, ac y mae yr olygfa sydd o'n blaen yn ddigon o ad—daliad am bob pryder a deimlasom. Yma yr ydym yn gweled pobpeth fel newydd ddyfod o law y Creawdwr. O'n blaen y mae Rhodfa i Cleveland, math o dunnel hir a phrydferth, yn dyfod i'r golwg, tair milldir o hyd, triugain a deg o droedfeddi o uchder, a phymtheg o led, a'i furiau yn orchuddiedig gan sylwedd dyeithr, ac o herwydd ei debygolrwydd i ddail, a elwir gan yr ymwelwyr yn leaf stone, neu gareg iddeiliog. Tu draw iddo, yr ydym yn dyfod i'r Cabinet, lle wedi ei bontio drosodd, yn agos i rddwy filldir o hyd, haner cant o droedfeddi o uchder, a deg o led. Y mae y pen a'r ochrau yn dysgleirio, am eu bod yn gyfansoddedig o cgalch tryloyw, mor llyfn a phe buasai wedi ei osod gan law ddynol. Y mae miloedd o emau sfel yn dysgleirio o bob ochr i ni, ac uwch ein penau. Y mae cywreinrwydd a medrusrwydd adeiladwyr yn myned o'r golwg, wrth ei gyfer-