Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu/187

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bynu â'r muriau gemog hyn. Mewn rhai manau y mae y sylwedd tryloywaidd yn cymeryd ffurf gwraidd coed wedi eu cydwau a'r colofnau, tra y mae y brigau a'r dail yn plygu o dan y gwahanol flodau a'u haddurnant. Yn mha le y mae y paentiwr neu y bardd a all ddarlunio y fath olygfa a hon, lle y mae yn anmhosibl i chwi wneyd dim ond sefyll a rhyfeddu?

Wrth fyned yn ein blaen, yr ydym yn dyfod i'r lle a elwir Ystafell y Belen Eira, o herwydd fod y gwaliau a'r llawr yn orchuddiedig gan belau, fel wedi eu lluchio gan blant chwareus yr ysgol. Y fath yw prangciau natur rai gweithiau! Y mae y pelau yn gyfansoddedig o carbonate of lime, a magnesia. Ychydig gamrau yn mlaen, y mae darnau anferth o greigiau, y rhai y tybir iddynt syrthio i lawr ar amser daeargryn, yn dyfod i'r golwg; gelwir hwynt, y Mynyddoedd Creigiog, ac ar un ochr iddynt, y mae ystafell lefn, wedi ei gorchuddio â thywod, lle yr aethom i giniawa, tra mae y rhaiadr yn bwrlymu i lawr dros graig serth yn ymyl ein traed.

Yr ydym yn awr naw milldir o'r ddyfodfa i mewn; y fath bellder i fyned drosto cyn gweled goleu dydd! Ond cyrhaeddasom yn ddyogel. Ar ein gwaith yn dychwelyd, gwelsom rai o'r llygod sydd yn byw yn yr ogof, y rhai er fod ganddynt lygaid, ydynt berffaith ddeillion. Y mae y pysg sydd yn y dwfr yr un fath. Ac felly y gadawsom "Ogof Mammoth" gyda'r orielau hynod, yr ystafelloedd cywrain, a'r afonydd grisialaidd sydd yn rhedeg i rywle anhysbys i ddyn, a'r miloedd rhyfeddodau sydd eto, efallai, heb eu darganfod.

Nid oes genym i ychwanegu, ond fod daearegwyr o'r farn, fod yr ogof hon wedi ei ffurfio trwy weithrediad afonydd mawrion tanddaearol, y rhai a lyngewyd i fyny yn ddisymwth trwy weithrediad daeargryn, neu ryw gynhyrfiad nerthol arall yn nghrombil y ddaear.

—O "OLUD YR OES."


YR ENFYS.
GAN WILSON.

Fel yr oedd teithiwr unigol ar ei draed, yn tramwy glynoedd a mynyddoedd ardal wyllt o Ucheldiroedd Gogleddol yr Alban, dechreuai enfys ymffurfio dros ran o'r werydre arddunawl. Yr ydoedd, ac nid heb achos, yn ddyn pruddglwyfus, a galarus; a cheinwychedd cynnyddol yr olygfa hono, a gyffyrddodd ei galon yn ddiarwybod iddo, & hyfrydwch y buasai yn

ddyeithr iddo er's talm o amser. Fel yr oedd cyfliwiau dysglaer y bwa, yr hwn nid oedd eto prin yn unedig, ond yn unig yn dangos darnau dysgleiriawl, yn dyfod yn fwy eglur, teimlai ei holl natur loniant cyfattebol; diflanai yr iselder ysbryd, a'r trallod a fuasai yn mron a'i lethu er's blyneddoedd, ac ymorfoleddai unwaith eto yn hoenusrwydd canol-ddydd einioes. Tra y syllai ar yr olygfa, deuai y bwa yn berffaith, gan rwymo daiar a nefoedd yn nghyd mewn rhychwant o lawenydd. Y gogoniant a addurnai ddau fynydd, ac fel yr ymagorai y glyn rhyngddynt, ymddangosai yr ysplander hwnw megys mynedfa fawreddawg i fyd arall, llawer gorwychach. Yr oedd ystlysau y ddau fynydd hyn, y rhai oeddynt rwygedig gan agenau, a llifddyfroedd rhaiadrawl, wedi eu cyfliwio yn y bwa ceinwych, fel yr ymddangosai y creigiau megys wedi eu gwisgo â phorphor, a'r rhaiadrau yn ymarllwys i waered yn aur melyn. Fel y dechreuai yr Enfys ymollwng, diflanai crib y bwa, a'r lliwiau gwymp gan adael y ffurfafen, a ymffurfient yn gorph o ysplander ar bob ochr i'r glyn llydan hwnw. Am ychydig eiliadau, yr oedd aelgerth pob un o'r mynyddoedd yn guddiedig dan len y dysglaerdeb llachar hwnw; ond yn raddol, ymdoddodd ymaith i awyr ddigyfliw, ac yr oedd yr awyr—gylch yn agored eto; ac nid oedd dim ond ychydig gymmylau cawodog a welid yn crogi ar gyfer yr haul, yn aros i dystio am yr Enfys ddiflanedig. Ond, yr oedd yr holl faesydd gwyrddion, a'r coedydd, yn dysgleinio mewn tegwch adnewyddol,—yr adar yn canu, a'r anifeiliaid yn brefu ar y bryniau,a'r gigfran, a'r hebog, wedi esgyn i'r uchelderau; fel pe y buasai y greadigaeth yn ymuno i gadw jubili, a'r dyn unigol, yr hwn a eisteddasai ar graig, wedi llesmeirio gan yr olygfa, a gyfodai i fynu, ac a ddywedai ynddo ei hun, "Bydded i mi gyfeirio fy nghamrau i fynu y glyn yna, porthfa ogoneddus yr hwn sydd newydd ddiflanu—bydded i mi gerdded oddi tan yr hyn oedd ychydig fynydau yn ol mor debyg i fwa buddugoliaeth a gorfoledd, i fawrwychder neillduedig anian." Felly y meudwy a aeth i fynu gyda cheulan goediog ffrydlif garegawg; ac wedi cyrhaedd cefn y bryniau, canfyddai o'i flaen rosdir ehang, anhylon, yr hon a groesodd efe; ac wele, ddyffryn harddwych yn ymagor o'r tu isaf iddo, yn yr hwn yr oedd maesydd diwylliedig, a choedlwyni prydferth; ac yn mysg amryw fwthynau, gwasgaredig fel cynnifer o greigiau, yr ydoedd un palas, i ba un yr ymddangosent oll fel yn perthyn; a'r hwn, heb unrhyw fawrwychder o'i ddeutu, oedd yn gweddu i nodwedd y llanerch neillduedig a hawddgar hono, o ran yr olwg hybarchus ac anymhongar oedd arno. Efe a ddisgynai i'r dyffryn; ac yn