Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu/189

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ient rhagddynt, ac yr oeddynt hwy, y rhai ychydig oriau yn ol, ni's gwyddent am fodolaeth y naill y llall, yn awr ar ganu yn iach i'w gilydd gyd ag ocheneidiau—bron â dagrau. O'r diwedd, y dyeithr-ddyn a safai, ac a ddywedai,—"Byth nid anghofiaf y dydd hwn,—y glyn hwn, a'r rhai yr ydwyf ar ymadael â hwynt yn awr. Myfi a'u cofiaf oll pan fyddo fy enaid yn athrist, yr hyn sydd raid ei fod tra fyddwyf byw. Derbyniwch fendith calon rwygedig. Byddwch wych, Foneddigesau!" a'i lygaid wedi tywyllu gan gyffroad y fynyd hono, a gyfarfuant lygaid y wyryf deg hono, yn troi arno gydag arddangosiad o dosturi nefol, ac o'r diwedd, hyd yn nod wedi eu cyfliwio â dagrau anattaliadwy. Yr oedd duwch bygythiol yn y ffurfafen, yr hyn a dywyllai y bryn glaswyrdd ar yr hwn y safent; a deuai godwrdd bygythiol y gwynt i waered ar hyd y dyffryn; a thebygid y clywid trwst taran o bell. "Bydd heno yn noswaith ystormus," medd y foneddiges, gan edrych yn hyfwyn ar y dyeithr-ddyn. "Nid yw yn gweddu i lettygarwch yr Ucheldir ollwng osb i ymadael yn ngwyll y nos, ac mewn tymhestl; rhaid i chwi ddychwelyd gyda ni i'n tŷ;" ac yr oedd taran-gwmmwl anferth, a daflai ei gysgod dros haner y dyffryn, yn ddadl na's gellid ei gwrthsefyll;—felly hwy a ddychwelasant yn nghyd; a chyda eu bod yn cyrhaedd y tŷ, clywid trwst hirfaith y daran ar hyd y bryniau; a'r afon, wedi ei chwyddo yn ddisymwth gan y gwlaw mawr, a ruai wrth ymdreiglo trwy y coedlwyni, hyd onid oedd yr holl ddyffryn mewn terfysg. Yr oedd yn gyfryw noswaith ag a welir yn unig yn yr Ucheldiroedd; a'r hen dŷ a siglid, fel llong ar y môr. Ond, yr oedd muriau y palas, yr hwn a fuasai yn fath o gastell unwaith, yn drwchus a chedyrn; a threulid yr hwyr yn gysurus o fewn, tra yr oedd trwst y taranau, a'r coedlwyni, a'r llifeiriaint, a'r trowyntoedd oddiallan, yn cyd ymderfysgu yn frawychus.

Nid mewn glyn yn yr Ucheldir y treuliasai y boneddigesau hyn eu holl oes; ac ymddiddanent â'u gwesteiwr yn nghylch gwledydd tramor, â'r rhai yr ymwelsent oll. Chwareuid ambell dôn Gaelaidd ar y delyn, a'r wyryf deg a ddatganai rai o'r caneuon cenedlaethol gyda swn y tannau. Nid dewines yn cyfaneddu rhyw gastell darswynol a chwareuai, ac a ganai; ond, yr oedd hi yn eneth ieuanc hawddgar, dan ugain mlwydd oed, ac mor ddiniwed ag ydoedd hi o brydferth; ac o ganlyniad, yn hudoles lawer mwy galluog nag un ddewines a fu yn rhwymo cadwynau anweledig ei swyn o amgylch yr un Marchog Rhamant erïoed. Ar derfyniad un dôn, "Galareb y Pennaeth," deuai uchenaid drom o fynwes y fam; ac yn y cyfwng o ddystawrwydd a ganlynodd, dywedai yr eneth annichellgar wrth y dyeithr-ddyn, yr hwn a safai gerllaw iddi, wedi ei berlesmeirio gan y beroriaeth, "Arferai fy anwyl frawd trancedig fod yn hoff o'r dôn yna; ac ni ddylaswn i mo'i chanu." Ond, aeth y teimlad hwnw heibio, a chyn ymneillduo i'w ystafell wely, dywedai y dyeithrddyn yn siriol,—"Enw eich gwesteiwr crwydredig yw Ashton."—"Stewards ydym ni," oedd yr attebiad; a chyn pen yr awr, yr holl dylwyth a hunent yn dawel.

Yr estron yn unig oedd yn effro. Ni buasai efe mor ddedwydd er's llawer o flyneddoedd, ag a fuasai efe drwy y dydd a'r hwyr a aethai heibio; ac yr oedd delw yr eneth hawddgar hono, yn chwareu ei thelyn, ac yn canu mor beraidd, tra y rhuai y dymhestl ffrochwyllt yn y glyn, wedi llwyr feddiannu ei feddyliau. Ac hyd yn nod tu a'r plygain, pan ddechreuodd efe huno, hono oedd sylwedd ei freuddwydion; ac ymddangosai fel pe buasent wedi bod yn gyfeillion er ys talm,—a'u bod wedi eu dyweddio, a dydd eu priodas wedi ei bennodi. Efe a ddeffroai o'r gweledigaethau hyn, a chlywai swn y rhyferthwy yn ei ruaw ei hun i orphwysdra, a'r coed yn ymsiglaw yn llai ffyrnigwyllt, fel arwydd nad oedd y gwynt mor nerthol. Yna, dechreuai adgofio pa le yr oedd,—dychwelai i ystyried ei gyflwr mewn gwirionedd—ac nad oedd y wyryf hoff hono iddo ef namyn drychiolaeth a welsai unwaith, nad oedd i wenu arno mwyach. Efe a gyfodai ar godiad haul, ac o'r ffenestr, sylwai ar ostyngiad graddol y dymhestl,—enciliad y llifeiriant, yr hwn yn amlwg ydoedd yn dyfod yn llai, lai, bob mynyd—y tawelwch a ymsefydlai yn raddol ar y coed—y niwloedd gwynion a ymrolient i fynu i lethr y mynydd, hyd oni feddiennid y ffurfafen o'r diwedd gan ddydd claerdeg a heulawg, a gorweddai Glyn Creran oddi tanodd, mewn prydferthwch siriol a thawel, fel rhyw baradwys wyllt, lle y gellid annghofio y byd, a threulio bywyd dynol megys breuddwyd.

Y dydd Sabbath ydoedd; ac yr ydoedd Glyn Creran, yr hwn oedd ychydig o oriau yn ol yn drystfawr fel y môr, erbyn hyn, nid yn unig wedi dystewi yn ngorphwysiad tawel anian, ond yr oedd pob llafur dynol wedi ei roddi o'r neilldu hefyd; ac o'r braidd na allasid dywedyd, fod y cymmylau di gyffro, y ffurfafen lasar, yr awyr beraroglaidd, a'r ddaiar lonydd, yn cyd uno oll mewn ysbryd addoli. Ni chlywid bloedd yr un bugail ar y mynydd,—ni welid medelwr yn yr un maes oedd ar haner ei gneifio,—ac yr oedd rhwyd y pysgodwr wedi ei chrogi i fynu i sychu yn yr heuldes. Pan gyfarfuant yn y parlwr, ffenestr yr hwn yn agored hyd lawr, a ollyngai bersawr pur y rhosynau a'r gwyddfid i fewn, ac a wnelai yr ystafell megys cyfran o'r