Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu/192

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyny bydded i mi yn awr ymdrechu i dawelu y galon gythryblus hon, a gweinyddu dyddanwch, gan ei fod mewn cymaint angen am dano, i un a ddygwyd, nid gan ddamwain, ond gan Ragluniaeth, i westya gyda mi." Wedi i'r cyfryw feddyliau gael dyfodfa i'w chalon unwaith, cawsant arhosfa barhaus yno—adferwyd tawelwch i'w hysbryd, a barai syndod iddi ei hunan; a chan gymeryd Edward Ashton gerfydd ei law, hi a ddywedai wrtho, gan led wenu, nad oedd wiw iddo eu gadael felly, ac ymruthro wrtho ei hun i annghyfanedd-leoedd y mynyddoedd duon hyny; ond bod yn rhaid iddo ddychwelyd yn ol i'r ty gyda hwy; ac megys y buasent yn cyduno yn nghyoedd addoliad Duw, y byddai iddynt y noswaith hono gyd benlinio cyn ymneillduo i'w gorphwysleoedd, ac attolygu ar iddo drugarhau wrthynt, y rhai oeddynt yr un ffunud yn bechaduriaid.

Yn ystod yr holl amser yma, safasai Mary Stewart, yn welw, a bron yn ddi anadl, fel delw; gan yfed pob gair a ddywedai ei mam, sylwi ar bob goslef o'r eiddi, a phob cyfnewidiad a ymddangosai ar ei hwynebpryd. Nid oedd hi namyn genethig pan elsai ei brawd o'r wlad; ac er ei bod yn ei gofio yn dda, ac yr hoffai ef â holl frwdfrydedd plentyn, eto, yr oedd tyfiant ei meddyliau a'i theimladau tuag at fil o wrthddrychau newyddion, y rhai a feddent gyfaddasrwydd yn eu natur i dynu ei sylw, a denu ei bryd, wedi gordoi y serchawgrwydd boreuol hwnw; a phan yr edrychai ar ddarlun ei brawd ar bared ei hystfell wely, neu ar yr arysgrifen oedd ar y goflech yn yr eglwys, gwnelai hyny â thawelwch ysbryd perffaith, heb unrhyw wag rwgnachiad na gofyd, a chyd ag adgof difyr yn unig o hen gofiannau oeddynt bron wedi eu llwyr ddileu. Gan hyny, pan y gwelodd hi ei mam unwaith eto, yn ymgymmodi â phresenoldeb eu gwestywr, ac yn anewyllysgar i un ag yr oedd cyssylltiad mor alarus rhyngddo a'u tynged mewn bywyd; ac a ddygasid attynt mewn modd mor hynod, i gael ei adael i grwydro byth fel hyn yn ddi borth a dïobaith, llawenychai ei henaid o'i mewn, adferid sirioldeb blaenorol ei gwedd; ac unwaith eto, gwelid y wên a gyfyd oddiar galon wedi ei gwneyd yn ddedwydd, heb, a bron yn erbyn ei hewyllys, yn ngrym ei phurdeb a'i diniweidrwydd.

Fel yr oeddynt yn cyd rodio yn ol drwy Glyn Creran, tua'r hen balas,—ymddangosai fel pe buasai nodwedd yr hin, y ddrychfa, a'r dydd, wedi myned dan ryw gyfnewidiad. Yr oedd peroriaeth fwy sobr yn y ffrydiau, nid oedd y ffurfafen mor dra thryloyw, ymlusgai cysgod godywyll dros Lyn Phoil, ac yr oedd swn pob aderyn wedi dystewi, fel pe buasai hebog yn yr awyr. Ychydig eiriau a ddyferent dros eu gwefusau; ond yr ychydig eiriau hyny oeddynt yn dyfod yn fwy—fwy dedwydd a rhydd; ac fel y croesawai y foneddiges a'i merch, yr ymwelydd Seis'nig dan eu cronglwyd unwaith eto, gwneid hyny gyda theimlad dwfn, yn yr hwn nid oedd gan wrthwynebedd, dygasedd, nac anhoffder un gyfran;—yr oedd yr holl deimladau hyn wedi diflanu—er hyny pan eisteddasant yn nghyd yn y parlwr, dystawrwydd trwyadl a ffynai ar y cyntaf, ac yna amryw ocheneidiau, yn cael eu dylyn gan ffrydiau o ddagrau. Ychydig oriau yn ol, dyeithrddyn dyddorol oedd efe yn eu mysg, ar fyned heibio i ebargofiantyn awr, yr oedd efe yn un na's gallent byth ei annghofio, ac yn un y teimlai y ddwy bellach, wedi i'r braw ingawl cyntaf fyned drosodd, y rhaid iddynt feddwl am dano gyda serchawgrwydd, er ei fwyn, a thosturi at ei anffawd, a chydymdeimlad ag ef er mwyn yr edifeirwch chwerw a deimlai am weithred, a gyfrifid ganddo ef, yn fwy na chanddynt hwy, na neb arall, fel camwedd ysgeler.

Ymneillduodd y fam a'r ferch i'w hystafell eu hun yn gynnar y prydnhawn, a gadawyd Edward Ashton i'w fyfyrdodau ei hunan. Efe a aeth allan i'r glyn, ac ymrodiai yn mysg y coedlwyni tawel hyny hyd onid esmwythawyd ei enaid cynhyrfus a thrallodus i fesur, yn yr unigrwydd dystaw hwnw. Efe a welsai y rhai hyny yr oedd arno fwyaf o ofn eu gweled o bawb yn y byd—a llifeiriasai geiriau tirion, a golygon mwynaidd, o'r naill galon i'r llall. Yr oeddynt yn berffaith hapus,—yr oedd eu gofyd wedi myned heibio; ac efe a ddechreuai obeithio y gallai heddwch gael ei adferu iddo yntau hefyd wedi ei hir benyd. Ar draws y meddyliau hyn oll, deuai delw yr hoffus Mary Stewart yn ddiarwybod iddo, ac ymrithiai ger ei fron; a braidd na buasai ef yn beiddio gofyn iddo ei hun, "A ydyw hi yn caru rhyw un?—neu, a adawyd ei chalon fwyn iddi ei hunan yn ei hunigedd brodorawl?" Nid oedd hyn namyn breuddwyd yn myned heibio;—ond, myned heibio yn unig i ddychwelyd eilwaith yr ydoedd; a phan ei cyfarfu drachefn, fel yr oedd y nefoedd ar ddechreu dangos ei sêr, efe a deimlai serchawgrwydd mor dyner a dyfn-ddwys tuag atti, fel y rhyfeddai pa fodd y gallasai un diwrnod ei gynnyrchu; ond wedi hyny, efe a adgofiai pa fath ddiwrnod a fuasai hwnw; ac ni ryfeddai mwyach.

Yn awr, deuai yr holl wasanaethyddion i'r ystafell, rhai o honynt yn benllwyd, y rhai a fuasent yn gwasanaethu amryw genedlaethau yn ffyddlawn; a darllenai Mary Stewart amryw bennodau o'r Beibl iddynt. Yr ydoedd yn olygfa dawel a dedwydd; ac fel y gwelir gnotai