Mareni. Treuliodd fy amcan yma fy oriau hamddenol er's llawer blwyddyn faith. Yr enw a roddaf arno yw, "CELTIC REMAINS," neu ddesgrifiad o'r hen ymerodraeth Geltaidd, yn yr iaith Saesonaeg, yn cynwys cynnulliad o ddefnyddiau bywgraphyddol, beirniadol, hanesyddol, geiryddol, amseryddol, a daearyddol, o ddeilliad Celtaidd, er ffurfio hanes Frytanaidd o'r cynoesoedd; yn ddwy ran:—Y gyntaf yn cynnwys hen enwau dynion, lleoedd, gweithredoedd, a'r cyffelyb, yn y Frytanaeg, a'r Gaelaeg, yn ol trefn yr egwyddor; lle y chwilir i mewn, nid yn unig i wir enwau Celtaidd yn ol yr orgraph hen a diweddar, gan eu profi o awdurdod Brytanaidd, yn nghyd ag enwau lleoedd presenol, a'r cyffelyb, ond hefyd i'r camgymeriadau, a'r gwallau, pa un bynag a'i o ddymuniad neu o ddamwain, a wnaed gan ysgrifenwyr a draethasant ar hen helyntion Prydain mewn unrhyw iaith, gan eu diwygio a'u hegluro. Gorchwyl dirfawr a llafurus yw hwn. Yr ail ran a gynwys enwau dynion, a lleoedd, o darddiad Celtaidd, wedi eu Lladineiddio gan ysgrifenwyr Lladinaidd, y rhai a ystumiwyd, ac a nyddwyd, yn ol eu hiaith hwy; lle yr ymdrechir dangos yr hyn oeddynt o'u dechreuad Celtaidd; gan eu cymharu â hen hanes, ac iaith prif ganghenau y bobl hyny, y Frytanaeg, y Wyddelaeg, yr Armoraeg, a'r Gernywaeg. Geiryddol ydyw y rhan hon o'r mwyaf, lle y caiff mympwy ei rhaff, ond nid heb ei chadw oreu y gellir o fewn terfynau. Yn nghylch ugain mlynedd yn ol, prydyddiaeth Gymraeg oedd yn nofio uwchlaw fy holl drysorau, er ei bod weithian yn mawr iselu; a byth er pan wnaethym ryw gampwri yn y ffordd hono, nid oes dim a wna y tro gan fy nghydwladwyr, os na roddaf gymeradwyaeth i'w cyfansoddiadau cyn eu gyru i'r byd, ond ocho finnau! mor isel yr ydym wedi cwympo oddiwrth enwogrwydd yr henafiaid!"
Dyma olygiadau yr hen lenor enwog yn eglur ger bron, mewn sylwadau ar ansawdd trysorau llenyddol ein gwlad ar y pryd, a'r modd yr oedd eu rhagoroldeb gwreiddiol wedi cael ei anffurfio trwy ymyriad eraill, nad oeddynt yn deall yr hen Frytanaeg yn ddigon trwyadl. Wedi datgan ei syniadau fel hyn, y mae yn myned rhagddo yn y Llythyr hwn, ac yn mynegi ei ddymuniad am yr hyn a farnai a ddylesid ei wneyd:—"Mi a hoffwn o'm calon i ryw un galluog gymeryd arno y gorchwyl o wneyd cyfieithiad Lladin, o rai o'n hen brydyddion Brytanaidd. Yr wyf yn addef i chwi, er mai Cymraeg yw fy mamiaith, ac er cael o honof fy magu yn Mon, lle y siaradir hi mewn mawr burdeb, ac yr hoffir hi gan y trigolion, lle hefyd y mae prydyddiaeth a henafiaethau mewn mawr gymeradwyaeth; eto, yr wyf yn dysgu rhywbeth yn feunyddiol wrth ddarllen yr hen feirdd, ar ol bod yn gydnabyddus â hwy, er ys yn agos i ddeng mlynedd a deugain. Am y cyfieithiad o Tysilio, chwi a welwch wrth y gwaith a dorais allan i mi fy hun, pa fodd yr wyf yn sefyll. Y mae yn debyg na byddaf byw i orphen yr un o'r pethau hyny; ac ofnaf na bydd gan fy mhlant yr un awyddfryd angerddol ag sydd genyf fi at y fath fyfyrdodau; ac ni welaf ond ychydig o rai eraill yn meddu na'r tueddfryd, na'r defnyddiau, i gyflawni y cyfryw orchwyl."
Y mae Llewelyn yma yn awgrymu ei fod yn ofni nad allai efe ei hun gwblhau y gwaith a ddechreuasai; ac yr awyddai yn fawr weled rhyw rai eraill yn cyflawni y gorchwyl. Efe yn ddiau ydoedd prif athraw a chefnogydd y dynion ieuainge talentog oedd yn codi ar y pryd; ac yn mlaenaf yn eu plith gellid enwi Ieuan Brydydd Hir, a Goronwy Ddu, o Fon. Dichon mai cymeryd yr awgrymiad uchod o eiddo ei athraw a wnaeth Ieuan, pan y cyfansoddodd y "Dissertatio de Bardis," yr hwn a olyga pawb fel caffaeliad gwerthfawr iawn, fel y mae wedi dwyn trysorau barddonol boreuol ein cenedl, yn deg ger bron y cyhoedd. Cyflwynwyd ysgrifau Llewelyn, mewn amser wedi hyny, i ofal y galluog Gwallter Mechain, a dysgwylid yn bryderus am hir dymor, y byddai i'r awdwr teilwng, ymgymeryd a gorphen y gorchestwaith. Bernir ei fod wedi gwneyd llawer tuag at hyny; ond eto, ei fod yntau wedi gorphen ei yrfa ddaiarol, cyn cwblhau y gwaith. Yn y flwyddyn 1737, darfu i Gyfarwyddwyr y Morlys, benodi Lewis Morus i arolygu, mesur, a darlunio porthladdoedd Cymru. Hyn a gyflawnodd yn y modd mwyaf cywrain a gorchestol, ac a fawr gymeradwywyd gan y cyhoedd; a chyhoeddwyd ffrwyth ei lafur yn y flwyddyn 1748, mewn llyfr ag sydd yn awr ger ein bron, ac a elwir, "PLANS OF HARBOURS, BARS, BAYS, AND ROADS IN ST. GEORGE'S CHANNEL." Dywedir nad oedd hwn yn waith gorphenol, ond iddo ychwanegu ato ar gyfer argraphiad arall, a gyhoeddwyd yn fuan wedi hyny. Cynnwysa tua Deg a deugain o For-arleni, yn dangos ansawdd amrywiol borthladdoedd Cymru. Nid anmhriodol fyddai cyfleu yma ychydig o'r Rhagymadrodd, er mwyn dangos natur y gwaith i'r rhai hyny, nad ydynt mewn mantais i gael gweled y gwaith, sydd wedi myned erbyn hyn yn lled brin, ac heb fod yn masnachfäau y llyfrwerthwyr cyffredin:—"Yr athrist hanesion am long-ddrylliadau, a cholledion, sydd yn dygwydd mor fynych ar dueddau Cymru, (y rhai yn ddiameu a achlysurwyd yn benaf o ddiffyg gwybodaeth, ac anmherffeithrwydd yr arlenau a ddangosai y parthau hyny) a gymhellodd Gyfarwyddwyr y Morlys i gymeryd yr unrhyw dan