Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu/199

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fedrusrwydd Llewelyn yn y gelfyddyd o fesuriaeth Arfordiroedd. Nid oes neb hyd yma wedi ceisio gwella na newid dim ar ei waith; ac y mae yn dangos mewn modd arbenig, briod oldeb llinellau Goronwy Owen, yn ei Farwnad ar ei ol:—

"Mesurai, gwyddai bob agweddion,
Llun daear ogylch, llanw dwr eigion;
Amgylchoedd moroedd mawrion,—a'u cymlawdd,
Iawn y danghosawdd, nid anghyson.

Dacar a chwiliodd drwy ei chalon,
Chwalai a chloddiai ei choluddion,
A'i dewis wythi meini mwynion;
A thew res euraidd ei thrysorion,
A'i manylaf ddymunolion—bethau,
Deuai i'r golau ei dirgelion.

Olrheiniodd, chwiliodd yr uchelion,
Llwybrau'r taranau a'r terwynion,
Fflamawg fellt llamawg, folltau llymion,
Is awyr gannaid a ser gwynion,
Nodau'r Lloer, a'i newidion—hynt cwmwl
O fro y nifwl i for Neifion!"

Ysgrifenodd Mr. Morus ddarluniad hanesyddol o Fwnyddiaeth y parthau hyny o'r Dywysogaeth ag oedd dan ei sylw a'i arolygiaeth; ond ni chyhoeddwyd byth mor gwaith hwnw. Ni a welwn wrth yr hyn a grybwyllwyd eisoes am dano, ei fod wedi cael ei orlwytho gan gynnifer o drafferthion y byd, fel nas gallasai gael ond ychydig hamdden i goledd nac i ganlyn ei dueddiad mwyaf naturiol, sef henafiaeth, barddoniaeth, a llenoriaeth yn gyffredinol, yn y rhai, er y cwbl o'i orchwylion, y pelydrodd ei alluoedd, gyda graddau mawr o ragoroldeb. Y mae ei enwogrwydd yn cael ei ddwyn ger bron y byd, gan mwyaf, yn yr hyn a gyhoeddwyd o'i Pan y sonir am enwogrwydd unrhyw athronydd, neu wladgarwr, neu lenor, y gofyniad naturiol sydd yn codi ar dafod pawb ydyw, "Pa beth a wnaeth y cyfryw un, er enill y ganmoliaeth hon?" Dyma y golled gydag enw Llewelyn, fel na wyddir yn iawn pa un a'i fel bardd o feddyliau aruchel, ai fel celfyddydwr mewn ffaith a gweithred, y rhagorai; a thu ag at egluro hyn, bydd yn ofynol gwneyd rhai dyfyniadau o'i weithiau cyhoeddedig yn y naill gangen a'r llall yma, yn nghyda chyfeiriad at rai o'i lythyrau at wahanol bersonau, o bryd i bryd. Bu yn ymdrechgar iawn am gael codi argraphwasg, er mwyn cyhoeddi llyfrau Cymraeg er lles ei genedl. Gan fod ei anerchiad at drigolion Gwynedd, yn egluro amgylchiadau ein gwlad ar y pryd mor gyflawn, ni ellir amgen na'i ddodi ger bron. Ymddengys mai gwaith Golygwyr y "Greal," yw yr Arweiniad, a ysgrifenwyd yn 1805: "Anogaeth i argraphu llyfrau Cymraeg. Rhoddwyd yr argraphwasg ar waith yn Nghaergybi, B.A. 1735, gan Llewelyn Ddu o Fon, er amcanu gosod Tlysau yr Hen Oesoedd ger bron ei gyfoedion; eithr o wall ymgeledd, gorchwyl fethiantus fu hono, fel llawer un arall o'r fath yn Nghymru; a gwael y dynged na buasai amgen meddwn ni; ond barned y darllenydd ai nad oedd pwys yn chwedl y gwr a roddes ei law yn y gwaith, yr hwn sydd yn rhagymadroddi fel hyn: 'At Drigolion Gwynedd: Pwy bynag na fedr roddi gair da i hyn o orchwyl, harddach iddo na ddywedo ddim; canys pwy yn ei gof a darawai'r llaw a fa'i yn cynyg cymhorth, er gwaeled fyddai? Ac nid yw yn chwareu teg enllibio gwr dieithr yn ei gefn. Beth a wyddoch chwi na fedr ateb drosto ei hun, pe ba'i yn y fan? Os ffol a fu'm am fyned i gost fawr, er mwyn lles i'm gwlad (tygaswn i), y peth lleiaf a ellwch, ydyw esgusodi y gwr gwirion. Pwy wyr flas peth heb ei brofi? Wele gan hyny yn dyfod atoch i ofyn eich nodded, forwyndod yr argraphwasg cyntaf erioed yn Ngwynedd. Os da fydd y peth yn eich golwg, chwi a roddwch fywyd iddo; os amgen, dychweled i'r llwch, o'r lle y daeth. Llawenychasai eich hen deidiau, pe gwelsent y cyfryw beth; nid oes amheu nad digio a wna rhai o honoch chwi; dylaswn fyned i wlad arall i ddechreu prophwydo. Er mwyn denu y Cymry Seisnigaidd i ddarllen Cymraeg, ac i graffu ar bethau na chlywsant erioed braidd son am dano (sef bod dysg a gwybodaeth yn Nghymru) rhoddais y cynnwysiadau yn Saesonaeg; na ddigiwch gan hyny wrth y cymysg; bernwch pan wyddoch y cwbl. Da iawn y gwn i, mai gwir a ddywed yr Hen Wyr—'A fo gwas cyffredin y byd, hwyr y caiff ei dal,' canys dyled ar bawb, nid yw ddyled ar neb. Eto chwi welwch, er gwybod hyn, i mi dori trwy reol callineb i'ch gweini chwi. Pe'r edrychem ar fyrdra oes dyn, ac ar ei gwagedd, nid oes neb mor gibddall na welai mai ffolineb ydyw bydol ddoethineb; a byddem yn fwy caredig i'n cenedl sydd yn dyfod ar ein hol. Anifeilaidd ydyw'r dyn a adawai blant y byd mewn tywyllwch, lle y gallai â chanwyll ffyrling eu goleuo;—Gwell gwae fi na gwae ni.—Yr argraphwasg, medd y doethion yw canwyll y byd, a rhyddid plant Prydain. Pam i ninau, a fuom wyr glewion gynt, os oes coel arnom, na cheisiwn beth o'r goleuni? Swllt o bwrs pob un o honoch, tu ag at y papyr a'r gwaith, a lanwai'r wlad o lyfrau da, ac â llawer o fwynder a dyddanwch, ac a gadwai eich enwau i dragwyddoldeb, fel cenhedloedd eraill. Oni wnewch hyn, gwnewch a fynoch. Duw gyda chwi, yw dymuniad eich ufudd wasanaethwr." Y mae yn alarus meddwl na chafodd ef mo y gefnogaeth a ofynodd, ac a haeddai mor llawn. Dywedai Dafydd Ddu o Eryri, yn ei gofion am dano, a ymddangosodd yn y "Diddanwch Teuluaidd," a gyhoeddwyd yn 1817, fel y canlyn;—"Mr. Lewis Morus a