LEWIS MORUS. osododd Argraphwasg i fynu yn Modedeyrn, yn Mon; argraphwyd yno lyfryn a elwir, Ymarfer o Lonyddwch,' a rhai mân bethau eraill. Cynnygiodd argraphu llyfr a elwid 'Tlysau yr Hen Oesoedd,' yr hwn a fwriadodd efe i arddangos henafiaethau, ond ni lwyddodd yr amcan, ac ni ymddengys iddo argraphu ond un ran o hono." Yr argraphwasg a grybwyllwyd uchod, a werthwyd i Dafydd Jones o Drefriw, a thebygol yw fod y wasg hyd y dydd heddyw, yn meddiant ei fab, Ishmael Jones; yr hwn, yn nghyd a'i fab, John Jones, (bardd celfyddgar) sydd argraphwyr blodeuog yn Nhrefriw, yn agos i Lanrwst." Gwelir fod y ddau gyfeiriad uchod yn anghyson a'u gilydd, un yn dywedyd mai yn Nghaergybi y codwyd y wasg, a'r llall yn dywedyd mai yn Modedeyrn, pentref o fewn chwe milltir i Gaergybi, ar yr hen brif-ffordd o Fangor, y codwyd hi. Dywed yr olaf hefyd mai un rhifyn o "Dlysau yr Hen Oesoedd" a argraphwyd. Cof yw gan yr Ysgrifenydd, glywed Mr. Jones, Argraphydd, Llanrwst, yn dywedyd, fod dau rifyn o hono yn ei feddiant ef yn ddiweddar. Symudwyd yr hen wasg o Drefriw, gan Mr. Robert Jones, brawd i Mr. John Jones, Llanrwst, i Langollen. Yn mhen dwy flynedd ar ol sefydlu yr Argraphwasg, sef yn 1737, dyrchafwyd Lewis Morus eilwaith i'r swyddi a grybwyllwyd yn ei lythyr at Mr. Pegge, i wneyd mesuriaeth arolygol o arfordiroedd Cymru, &c., ac ymadawodd o Gaergybi, i breswylio mewn lle a elwir Gallt Fadog, yn sir Aberteifi; lle y bu, fel yr ymddengys, hyd 1749, pan y priododd ei ail wraig, Anne Lloyd, etifeddes Pen-bryn-y-barcud, Llanbadarn-fawr, yn sir Aberteifi. Ei wraig gyntaf, yr hon a briododd, Mawrth 29, 1729 ydoedd Elizabeth Gryffydd, etifeddes Ty-Wydrin ger Caergybi, o'r hon y ganwyd iddo fab, a elwid Lewis, pan nad oedd ei wraig ond un mlwydd ar bymtheg a chwe diwrnod oed. Bu y mab hwn farw yn ieuange. Am fam y Morusiaid, y dywedodd Goronwy Owain, mewn llythyr at ei mab Rhisiard, fel hyn. "Mi a glywais fyned o Dduw a'ch mam, a saeth i'm calon oedd y newydd. Da iawn a fu hi yn ei hamser i laweroedd, ac yn mysg eraill i minau hefyd. Hoff iawn oedd genyf redeg o'r ysgol ar brydnhawn Sadwrn, o ysgol Llanallgo i Bentre Eirianell; ac yno y byddwn sicr o gael fy llawn hwde ar fwyta brechdanau o fel, triagl, neu ymenyn, neu yr un a fynwn o'r tri rhyw; papyr i wneud fy nhasg, ac amryw neges arall, a cheiniog yn fy mhoced i fyned adref; ac anferth siars wrth ymadael, i ddysgu fy llyfr yn dda; a phwy bynag a fyddai fyw yn y byd, y ceid fy ngweled yn glamp o berson." Yr oedd raid fod ymroad a diwydrwydd Lewis Morus yr anghyffredin, pan y meddylir am amrywiaeth cangenau ei efrydiaeth, ac amlder ac eangder ei ysgrifeniadau. Gadawodd ar ei ol yn nghylch pedwar ugain o gyfrolau o ysgrifeniadau. Y mae amryw o honynt yn yr Ysgol Gymreig yn Llundain. Bernir mai y trysor gwerthfawrocaf yn eu plith ydyw y "Gweddillion Celtaidd," y cyfeiriwyd atynt yn barod, y rhai sydd yn cynwys rhan fawr o ffrwyth ei lafur am yn nghylch deugain mlynedd o amser, neu yn rhagor.
Y mae y detholion o'i waith a gyhoeddwyd yn y "Diddanwch Teuluaidd," yn rhoddi i ni awgrym bur dda am ddull ei ddawn, mewn barddoniaeth a rhyddiaith, a phriodol yw gosod ychydig o'r naill a'r llall ger bron yma. Y mae dau argraphiad o hono o'n blaen yn awr, sef un 1763, a gyhoeddwyd gan Huw Jones, o Langwm; a'r un a gyhoeddodd L. E. Jones, Caernarfon, dan olygiad Dafydd Ddu o Eryri. Y mae yn y cyntaf bethau nad ydynt yn yr olaf, ac yn yr olaf ddarnau na cheir yn y cyntaf. Y mae y blaenaf wedi ei gyflwyno, "At y Parchedig a'r Urddasol Bendefig, William Fychan, Ysw. o Gors-y-gedol, a Nannau, yn Sir Feirionydd, Seneddwr, Arglwydd Raglaw'r Brenhin, a Cheidwad y Rholau, dros y Wlad hono; a Phenllywydd y Cymrodorion yn Llundain." Dilynir y Cyflwyniad a math o Ragymadrodd, yn Saesonaeg, gan Llewelyn Ddu, ond heb ei enw wrtho, yn cael ei gyfeirio at William Parry, Ysw., Arolygydd Bathiant ei Fawrhydi yn Nhwr-gwyn, Llundain. Ymddengys fod hwn wedi ei ysgrifenu ar gais y Cyhoeddwr. Y mae yn cyfeirio yn barchus at y Cymrodorion, fel noddwyr Cymry, a Chymraeg; ac yn cyfeirio at weithiau yr hen feirdd, ac at henafiaethau ein gwlad; nodiadau ar wahanol gangenau yr iaith yn Neheubarth a Gogledd; awgrymau am ddyled y Saesonaeg i'r Gymraeg am amryw o'i geiriau; adolygiad ar gerddoriaeth a barddoniaeth foreuol ein gwlad, a'r gwahanol fesurau a arferir; penillion a threfn datganu gyd a'r delyn; cyfieithiad o farddoniaeth Saesonaeg i'r Gymraeg, ac o'r Gymraeg i'r Saesonaeg, gyda rhai nodiadau ar y Mydr Diodl; a dyrif, neu benill fel cynllun, o'r hen Driban, o saith sill yn y ddwy linell gyntaf, a phedwar ar ddeg yn y drydedd:—
"Tebyg wy' i'r Aderyn,
Ni hau, ni fed un gronyn;
Ni wna ddaioni yn y byd, ond canu ar hyd y flwyddyn."
Cymer olygiad ar farddoniaeth foreuol yr hen Geltiaid, a dywed fod yr "Englyn Milwr," yn mysg y rhai henaf oll o honynt. Datgana hefyd fod y rhai canlynol i'w hystyried fel y prif-feirdd ag y mae eu gweithiau wedi eu cadw hyd yr amser presenol, yn llyfrgellau boneddion ein