Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu/202

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llawer o hen Wragedd cyfarwydd, fe fydd farw yn Gelain oer ar fyr amser."

"Gwae holl gred, a gwae anghred; gwae'r adar, a'r pysgod, ac anifeiliaid y maesydd; ac uwch ben pob gwae, gwae chwi'r cyfreithwyr o bob gradd, o Sion Llwyd y Baili, hyd yr Ustus Martin; canys torwyd eich braich a'ch cynnydd, torwyd ffon eich bara; o blegid Bol Haul, yr ardderchocaf a'r dysgedicaf o'r Twrneiod, a ddifwynwyd o'i law ysgrifenu, Y melldigedicaf o'r dynion, sef y Mwc Mawr, a elwir yn gyffredin 'Sion Michael, o'r Tyrci Sior,' a'i fachau ciaidd afrywiog, a ymaflodd yn adain wan yr Ysgrifenydd, a braidd na thynodd hi ymaith oddiwrth ei gorph ef, mewn llid a brad, fal tynu cwilsyn gwydd!

"Na thyfo yd trwy y ddaear yn y lle y gwnaed yr hagr weithred hon; eithr bydded yn Ysbytty i'r meddwon, yn llety i Redegwyr Brandi, ac yn Eglwys i grefydd y Tyrciaid, a nythed adar y to yn ei magwyrydd; fel y dialer gwaed yr Etifedd ar y genhedlaeth ystyfnig hono. Udwch a lleisiwch, chwi fân Gyrtiau; Tydi, Bodedern, gwna oernad hyd na bo'r creigiau yn diaspedan; canys darfu am gyfreithiau mân Caergybi, a bydd dy Gwrt yn ddiffaethwch, a gwellt yn tyfu yn yr heolydd, fel ar ben Mynydd y Twr. Chwychwi gwiliau gwyddau, trowch yn bibau bugeiliaid; o blegid amser eich dinystr, a diwedd pinau ysgrifenu a nesaodd. Tithau, Ryd-Angharad, gostwng i lawr dy ben, ac wyla; yn iach gwlwm croes ar gyfraith, nes codi o ryw 'Phoenics' allan o lwch yr enwocaf o'r Twrneiod. Pa beth a wnei dithau, Bangor fawr yn Ngwynedd? Tynwyd y cleddyf o'th law, a bydd raid i ti ymladd a'r dyrnau moelion; o'r diwedd y daeth y dydd mawr caled i ti, i weithio priddfeini heb na gwellt na sofl; canys darfu yn dragywydd am Saer y Llythyraucymun dau-wynebog, ac 'Informer y Temerary Administration.' Chwi, Broctoriaid, trowch yn Ddoctoriaid, o blegid enaid y gyfraith a ymadawodd a'i chorph, ac ni welir pen ar wddwf mewn ffair na gwylmabsant; na ddysgwyliwch am gyfraith, ond cyfraith y pastwn. Cwynwch, a chrochlefwch, chwi Broctoriaid Cybi; pwy bellach a wna fil y dreth-eglwys, ac a ran arian y tlodion? Tithau Berson, dyrcha dy lef; pwy a dderllyn osber pan fo'ch yn glaf o'r gymalwst? Bydded rhyw Lyfr cyfraith, a allasai ef ysgrifenu, pe cawsai hoedl ac iechyd, yn benaf o'r holl lyfrau; a boed enw'r llyfr hwnw; Bol Haul upon Littleton; ac na arferer llyfr arall yn y mân gyrtiau, namyn y llyfr ardderchog hwnw, o blegid pwy wyr na allasai fod yn gystal a Wood's Institutes, neu Gyfraith Hywel Dda?

"Oh, ysgolheigion bychain, plant eich mamau, teflwch eich Ffecos dros Graig Alltran, a chesglwch bentwr o lyfrau-cyrn, Child's Guide, Spelling-Book, a Grammar Lily, a gwnewch goelcerth o honynt, i losgi corph eich Athraw mewn arogldarthau. Gwae, gwae, i Dafarn-wragedd Cybi! A chwithau, bysgod, a salad, a phennau Lloiau, gwyliwch atoch, canys holl gwrw Cybi a droes yn alegr, er pan ysigwyd braich Bol Haul, fel na allo godi cwpan at ei ben! O chwychwi, offeiriadau'r Pab, cribiniwch ei enaid ef o'r purdan; a gosodwch ef yn seren yn y ffurfafen, wrth glun y Botwm gloew, a'r Cnaf pig. A phob llw a dynger mewn tafarn, a fyddo, 'Myn Bol Haul dros byth.' O dydi Herculus Cybi, a'n Magna Charta ni, a oedd Iaith na's gwyddit? Di fedrit ddarllen y 'Secretary's Guide' yn Saesneg, cyn bod yn ugain oed! Ond beth oedd hyn wrth y gwyrthiau a wneist yn dy henaint? Di yraist drigolion Caergybi benben am ddwy geiniog; a gwneuthur iddynt ysgwyd dwylaw, a rhoddi cusan ffrins, am chwart o gwrw! O ddyfnder dysg! Oh rinweddol ymadroddion! Cwsg dithau Bol Haul lythyrenog, yn mysg dy dadau o hyn allan; cefaist enw hynod, yr hwn ni lygra; nid rhaid i ti ond gorwedd yn dy wely yn dragywydd, Amen."

Ni bydd y darlun uchod yn gyfa heb ei ddilyn ag "Erfyniad Bol Haul, pan redodd ei Feistr tir arno am ardreth, yn 1740.

"Anherchion Gwyr Cybi at eu hawddgar Gydwladwyr, a garo hen Frytaniaid coesfeinion, traednoethion; hyn o hanes cyflwr tosturus yr hen begor llygadfrith, a elwir yn gyffredin, Bol Haul; ond yn ol ei enw bedydd, os gwir cael o hono fedydd, ef ai gelwir, William Dafydd y Twrnai. Y creadur berfain, anghenus, tinllwm hwn, gwedi bod o hono driugain mlynedd, ac ychwaneg, yn ymryson â chenedl y Saeson brychion, a'r Gwyddyl-ffichtiaid, a'r Ysgotiaid, gan ymddygnu a'i holl nerth, i ddiddymu eu croes-gyfreithiau allan o'r ynys, ac i osod i fynu rai llawer gwell, o'i waith ei hun, ac weithiau eraill; yn dysgu i gywion y cenhedloedd hyny ddarllen Cymraeg loew lan, er mwyn dadwreiddio plant Alis o'n plith: weithiau hefyd fe feddyliai yn ei galon, am yfed holl gwrw cadarn Cybi, a'i geg ei hun, rhag trwy ryw anhap y byddai i'r gelyn enbyd hwnw yru benben ei gydwladwyr anwyl, trigolion Mon. Cymaint oedd ei gariad brawdol ef tu ag atom, mai gwell oedd ganddo feddwi ei hunan, er mawr boen i'w gorphyn egwan, na gweled cymydog yn y byd ag ol traed cwrw yn ei dalcen. Mawr iawn oedd ei ofal beunydd am anrhydedd ein cenedl ni; cymerodd boen anfeidrol dros lawer o flyneddoedd, i ffusto'n ddyfal yn ei ben ei hun, ac oddiyno yn mhenau rhai eraill, wmbredd gwlad o ieithoedd dieithrol. Bu'n constro'r