O gwrw da a gwyr i'w drin,
A gwin ar fin afonydd,
Goreu bir, a goreu bwyd,
A ranwyd yn Meirionydd.
Eidion du a dyn ei did,
Ond-odid i ddyn dedwydd,
I dori' ei gwys i dir ac âr,
A braenar ar y bronydd;
Goreu tyn, fe'i gwyr y tad,
Morwynion gwlad Meirionydd.
Da ydyw'r gwaith, a dweud y gwir,
Ar fryniau Sir Feirionydd,
Golwg oer o'r gwaela gawn;
Mae eto'n llawn llawenydd,
Pwy ddisgwylai' canai cog,
Mewn mawnog yn y mynydd?
Pwy sydd yn lan o bryd a gwedd,
Ond rhyfedd mewn pentrefydd?
Pwy sy'n mhob hwsmonaeth dda,
Yn gwlwm gyda'u gilydd?
Pwy sy'n ymyl dwyn fy ngho'?
Morwynion bro Meirionydd.
Glan yw gleisiad yn y llyn,
Nid ydyw hyn ddim newydd,
Glan yw'r fronfraith yn ei thy,
Dan daenu ei hadenydd,
Glanach yw, os dwedai'r gwir,
Morwynion tir Meirionydd.
Anwyl yw gan adar byd,
Eu rhyddid yn y coedydd,
Anwyl yw gan faban laeth,
Ei famaeth odiaeth ddedwydd;
O! ni ddywedwn yn fy myw,
Mor anwyl yw Meirionydd.
Mwyn yw telyn o fewn ty,
Lle byddo deulu dedwydd,
Pawb a'i benill yn ei gwrs,
Heb son am bwrs y cybydd,
Mwyn y can, oddeutu'r tân,
Morwynion glân Meirionydd.
Er bod fy nghorph mewn hufen byd,
Yn rhodio hyd y gwledydd,
Yn cael pleserau mor a thir,
Ni chaf yn wir mor llonydd;
Myned adre'i mi sydd raid,
Mae'r enaid yn Meirionydd!
Y mae Caniad "Hanes Henaint," mewn math
o gylch-ymddiddan rhwng y Bardd, y Gwas, a
Henaint, yn llawn o fywiogrwydd awenyddol,
yn gystal âg addysgiadau moesol; yn codi
oddiar amgylchiadau cyffredin bywyd. Y mae
ei ddarllen yn sicr o adael argraphiadau ar
deimlad a chof, fel y mae amryw o'r penillion yn
dyfod o'r diwedd ar dafod-leferydd, fel nad ellir
lai na'u hadrodd ar oriau hamddenol:—
1.
Pwy sy'n y drws yn curo?
Ewch toc, agorwch iddo,
Mae hi'n rhewi ar hyd y nos,
Nid lle i aros yno.
2. Y GWAS.
Mae Henwr llwyd anynad,
Yn chwenych a chwi siarad,
Fe aeth i'r gegin at y tân,
Ac heb na chân na chenad.
3. Y BARDD.
Gofynwch iddo ei neges,
A'i henw ef, a'i hanes,
Pa fath ddillad sy' am ei gefn,
Oes arno drefn go gynes?
4. Y GWAS.
Mae'n edrych yn o salw,
Fel rhywbeth haner marw,
Ac yn ei enau nid oes daint,
A Henaint yw ei henw.
5.
Ni fedd un gwas i'w ganlyn,
Fe ddaeth o Sir Drefaldwyn,
Mae fel pettai ar y drain,
Yn ochain ac yn achwyn.
6.
Mae cwsg ac angau hirnos,
Ac yntau'n geraint agos,
Cyffwrdd mae ei drwyn a'i en,
Yn ail i hen wrageddos
7.
Mae'i lechwedd wedi llwydo,
A choryn moel sydd iddo,
Y mae fe cŷd ei farf a bwch,
Yn rhodd, edrychwch arno.
8. Y BARDD.
O galwch yma'r Henwr.
O croeso, Henaint fwynwr,
Pa ryw newydd sydd ar led,
Ai da dy weled, waelwr?
9. HENAINT.
Mi ddois yn genad wisgi,
Am ddyn sydd newydd eni;
Mae Mab bychan gan eich merch,
Sy'n gyru'i hanerch ichwi.
10.
Hi archodd imi'n brysur,
Eich cyfarch yn gymhesur,
Ac yn y man, eich galw'n daid,
Y peth oedd raid ei wneuthur.
11.
Hi berai imi'n dd'waetha,
Fyn'd atoch i letya,
Ac wedi i mi wneyd fy nyth,
Nad awn i byth oddiyma.
12.
A Henaint hawdd ei hebgor,
A'ch dilyn byth hyd elor,
Ac yma byddai'n ddigon hy,
O ddeutu'r ty a'r sgubor.
13.
Rhaid troi ieuengetid heibio,
A'i yru i ffordd i rodio,
Ni chaiff y fath gydymaith fol.
Eich dilyn ar ol heno.
14.
A boed hi oer neu gynes,
Mi lechaf yn eich mynwes,
Cewch fy nghario nos a dydd,
Ac yno bydd fy lloches.