40.
Dos atynt Henaint mwynlan,
Gad yma'i mi fy hunan,
Di gei yno burion nyth
A digon byth o arian.
41.
Och, Henaint, paid a chwyno,
Gad i'm ychydig eto,
Fwynhau pleser, mwynder mawl,
Amodawl cyn ymado.
42.
Dos at ryw hen gybyddion,
I fwrw dy lafoerion,
A gyr yn haid i gwr y bedd,
Ddi rinwedd hen forwynion.
43.
A dos, a'th lygaid cochion,
At wragedd afrywiogion,
A lle na bo tafodau da
Mae'n fadws, gwna hwy'n fudion.
44.
Gad lonydd i brydyddion,
I ganu mwyn benillion,
A bod yn ieuange yn eu byw,
Ni chcir y cyfryw ddynion.
45.
Os byddi di mor weddol,
Di haeddi gael dy ganmol,
Pawb dan y rhod dy glod a glyw,
Caf finnau fyw'n dragwyddol.
Y mae yn briodol eto ddwyn ger bron un o
Gywyddau difrifolaf yr Awdwr, yr hwn a gawn
yn Marwnad Llewelyn Morus, o Gaerlludd, nai,
fab brawd i'r awdwr, a fu farw Mehefin 8, 1758,
yn ddwy flwydd a haner oed.
Och! am fy nai, ddifai ddyn,
Ni alla'i alw Llewelyn;
Och angau, a'i gleddau glas,
A nododd ddiniweidwas;
Oes undyn mwy ei syndawd,
(Gwae fy mron) nag yw fy mrawd?
Colli a wnaeth, ben cellwair,
Colli ei arab fab, o Fair!
Dadwrdd, a dechreu dwedyd,
Araith, heb iaith yn y byd,
A wnae'r maban bychan bach;
A fu grefwr ddigrifach?
Digio na cha'i ryw degan,
Dwrdio'i dad mad yn y man;
Digio'n fflam, wrth ei fam fwyn,
A dyddio a'i dad addwyn;
A chwedyn, bob ychydig,
(Ni bydd meddal yn dal dig,)
Cymodi a'r ddau frau fron,
A mynych droiau mwynion,
Natur dyn yma trwy'r dydd,
Galw o'r fan bwy gilydd,
Ac ymryson ddigonedd
A'r byd, hyd nad eir i'r bedd;
Ond mae'n perthyn i'r dyn da,
Damwain gwell na'r byd yma.
Dug Duw gwyn Lewelyn lan,
Yn was da, addas, diddan;
Ni fyn Duw, o fewn ei dai,
Ond gwirion fab a garai;
Rhyw wyl fawr rheiol a fu,
Yn y nef i'n hanafu;
Duw a alwodd ei deulu,
Pen—cantorion, loewon lu,
I ganu cerdd gogoniant,
Ac yn eu plith, genau plant;
A rhaid oedd at gyhoedd gor,
Dynan, a ganai denor.
Llewelyn gall a alwyd,
A ga'dd ei le gan Dduw lwyd,
Yn angel a'i dawel don,
Yn gerub yn oen gwirion;
"Aeth, bereiddlef, i'r nefoedd,
Mynai Duw, a mwyned oedd."[1]
Ac yno'n seraph praffwych,
Yn gerddor yn ei gor gwych,
Lle hylaw bydd Llewelyn,
A'i ddiau gerdd i Dduw gwyn;
Yn lluosog yn lleisio,
Mewn tragwyddol freiniol fro!
Y mae y Llythyr a'r Gân i'r Cymrodorion. yn galw am eu lle yn nesaf yma. Y mae y Llythyr wedi ei gyfeirio at y Penllywydd, mewn dameg darawiadol drwyddi, ac mewn efelychiad i'r eiddo Dr. Swift: "Urddasol Bendefig:— Gan i chwi dybio yn addas, o'ch mwynder ar— feredig, fy nghymeryd i'ch Cymdeithas, a'ch cyfeillgarwch, mae yn ddyledus arnaf finau ddadguddio i chwi, â chalon agored, pa fath fywoliaeth fydd arnaf gartref, a pha fodd yr wyf yn sefyll yn y byd; yr hyn beth a wnaf yma, yn oleu eglur, ddigel, ddiragrith. Fe allai i chwi feddwl, wrth ddechreu fy chwedl, nad yw'r cwbl ond gwamalrwydd ac ofer stori, i beri chwerthin; ond mi rof i chwi, dan fy llaw, ar ddu a gwyn, ei bod yn wir bod ag un gair; ac mi fedrwn, ped fae achos, ddwyn Person y plwyf, a'r clochydd, i dystiolaethu'r un peth.
"Gwybyddwch gan hyny, ar yr amser presenol hwn, fy mod yn byw mewn rhyw fudrgwt o hongldy tlodaidd, pwdrwael, rhidwll, anniddos, a mur o glai iddo, yn gollwng dwfr odditano ac oddiarno; byddai ryfedd genych iddo ddal i fynu dridiau. Mae ef yn sefyll ar y tir gwyllt, fal lluestai eraill, a pheth sydd waeth na dim, yr wyf yn rhwym o droi allan o hono ar fynyd o rybudd. Math ar dyddyn yw hwn a ddelir dan arglwyddiaeth, a dyma arfer a dull taledigaeth y cyfryw dyddynod:—
"Am y deng mlynedd ar hugain cyntaf o'm hoes, nid wyf i dalu dim ardreth, neu rent, ond yn unig dysgwyl wrth orchymyn y pennaeth, a gwasanaeth y llys, unwaith yn yr wythnos, neu fynychach. Dros ugain mlynedd ar ol hyn, rwyf i dalu rhosyn coch o gydnabod bob blwyddyn; a thros y rhan ddiweddaf o'm hoes, o hyny allan, yr wyf yn rhwym i dalu un o'm dannedd o'm pen mewn dwy flynedd neu dair,
- ↑ Mae'r ddau Fraich uchod ar ei gareg fedd, yn Mynwent Eglwys St. Sior ddwyreiniol, a'i dâd R. M. a'u Cant.