Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu/207

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

neu'n fynychach, os gofynir; ond pan ffaeliwyf yn y byd, a myned o honof yn ol llaw, heb ddim i'w dalu, troi allan fydd raid dros y drws; ac ni's byddaf chwaith nemawr nes myned dan ddwylaw swyddogion a phennaeth y carchar.

"Mi allaswn gael y gwaelgwt hwn o dyddyn yn llawer esmwythach o rent a gwasanaeth, oni buasai un o'm hen dadau, a elwid Adda gynt. Hwn a'i wraig wirionffol, drwy anogiad cymydog drwg, a dorasant berllan oedd yn perthyn i Arglwydd y tir, o ryw fudrchwant i afalau melusion, a ddywedwyd iddynt fod yno; ond hwy a'u cawsant yn chwerwaf afalau a brofasant erioed. Canys heblaw cosp gorphorol, collasant y rhan fwyaf o'u breintiau a'u rhyddid, er mawr dristwch a chywilydd i'w plant, ac i minau ar eu hol. Ond eto, er hyn, rhaid i mi wneyd fy ngoreu o'r gwaethaf, a chadw fy Nghaban ddiddosaf a thaclusaf y gallwyf, tra safo ar ei draed. Nid llawer o ddodrefn sydd yn fy nghroglofft, sydd yn mhen y ty; dyna'r lle gwagaf yn yr holl dyddyn; ac ni welaf fi nemawr o bobl, mwy na minau, yn gwneuthur fawr arfer o'r ystafell hono, ond i daflu ffardial ac oferbethau iddi, i'w cadw ar draws eu gilydd. Nid oes ond dwy ffenestr ar fy holl annedd, a'r rheini, yn mhen y ty, a pheth sydd hynod yn natur y ffenestri, fal y mae'r ty yn heneiddio, mae'r gwydr yn tywyllu, fel braidd y gwelir trwyddynt yn y diwedd. Hefyd, y mae fy nghaban, yn ol dull tai Sir Drefaldwyn, yn sefyll ar bolion, ac awel o drowynt uchel, a'i taflai a'i din dros ei ben, fal y byddai ddigon o drafferth i'w godi drachefn. Mae hefyd dri drws, neu dri phorth ar fy nghaban, un i gario pethau i mewn iddo, a'r lleill i'w bwrw allan. Trwy un porth y teflir allan ysgubion a charthion y ty, a thrwy'r llall, y dwfr, a'r golchion; ac oni wneir hyn yn yr amserau penodol, ef a gynneu y ty o wres tanllyd, yr hwn a fydd debyg i'w ddinystrio. Gormod o drafferth i mi a chwithau a fyddai dywedyd hanes fy holl ddodrefn, a'm perthynasau; a'm deg ufuddwas, a'u gwisg o gyrn, sy'n cario ymborth i mi beunydd, ac yn fy nifyru ymbell dro, gan ganu offerynau cerdd, ac yn ymwisgo âg arfau rhyfel, i amddiffyn y meddianau, os bydd achos. Ni soniaf chwaith am y pibellau y sydd drwy furiau'r ty, yma a thraw, er hwylusdra i ddarllaw, ac i drin materion y gegin, y gwaith cywreiniaf ar sydd yn perthyn i'r holl dyddyn; er nad ydynt gwedi eu haddurno mor wychion â phalasau gwyr mawrion, eto maent yn well na bod hebddynt. Yn y modd hyn yr wyf yn ymbwnio yn y byd oreu gallwyf; a phan delo'r dydd, rhaid i mi dalu fy rhent, os bydd ar fy helw; a phan droir fi allan, rwy'n deall fod fy nhyddyn yn syrthio i ryw genedl front fusgrell, na wnaethant dda i neb erioed am wn i, ac nid ydynt hynod am ddim, heblaw hudo brithylliaid at 'Robyn-bysgodmân,' a'r cyffelyb. Ond bydded hyny fal y fynno, mae genyf un ystafell bach gled, yr hon sy'n sefyll ar y tu aswy i'm cabandy, ac wyf yn ei chadw er mwyn fy nghyfeillion anwylaf; ac yn hono mae i chwi groesaw gwresog, dirwgnach, dowch pan fynoch; a byddwch sier o letty a charedigrwydd ynddi, tra bo'r tyddyn yn llaw eich ufuddaf wasanaethwr."

CANIAD Y CYMMRODORION AR DDERBYNIAD I'R GYMDEITHAS.

1.
Cyd-unwn Gymmrodorion
A'n gilydd, o un galon,
I ganu clod i'n gwlad a'n hiaith
Dewisol waith cymdeithion.

2.
Wrth ddewis brodyr ffyddlon,
I blith y Cymmrodorion,
Caned pawb ar flaena'i draed,
O' wyllys gwaed ei galon.

3.
Cymraeg fydd ein penillion,
Hen famiaith heb wehilion,
Na chaffer neb yn hyn o waith
Yn sisial iaith y Saeson.

4.
Dowch, yfwch Gymmrodorion,
At iechyd ein brawd rhadlon,
A ddaeth i'n mysg mewn dysg a dawn
Yn llawen iawn ei galon.

5.
Nyni yw'r hen drigolion,
Cynnyddwn ein hamcanion,
Am garu'n gilydd, haeddwn glod,
Bid hynod Gymmrodorion.

6.
Ein llongau pan ollyngon,
Yn rhydd i'r moroedd mawrion;
Y daran fawr a deifl ei bollt,
I laenio'n holl elynion.

7.
A gwnawn i'r Ffrangcod duon,
Fyn'd ar eu gliniau noethion,
Gwae nhw erioed y dydd a fu,
Ffyrnigo Cymry a Saeson.

8.
Bydd yna'r 'Spaeniaid beilchion,
Yn crynu'u hesgyrn crinion,
Ni rown mor cleddyf yn ei wain
Nes curo'r rhain yn 'sgyrion.

9.
Pwy ostwng y Papistiaid?
Pwy rwystra gastiau'r Awstriaid,
Pwy gospa'r Ffrangcod am eu brad?
Pwy geidw'r wlad rhag gwylliaid?

10.
Hir iechyd fo i FFREDRIG,
A theulu'r ffydd gatholig,
I daflu Mari ar ei thin,
A ffrwyno'r Brenhin Ffreinig.