nos dda wrthi; a phan y byddent eill dau yn troi i gysgu, arferent ddywedyd—"Duw a fendithio y seren!"
Ond tra yr oedd hi etto yn bur ieuangc—O! yn bur ieuangc—gwywodd y chwaer, ac aeth mor wan fel na's gallai mwyach sefyll yn y ffenestr yn yr hwyr; ac yna byddai y bachgen yn syllu allan yn brudd wrtho ei hun, a phan y gwelai y seren, yn troi ac yn dyweyd wrth y gwyneb llwyd, amyneddgar, oedd ar y gwely, "Yr wyf yn gweled y seren!" ac yna deuai gwên ar y wyneb, ac arferai llais bychan gwan ddyweyd "Duw fendithio fy mrawd, a'r seren!" Ac yna daeth yr amser, yn llawer rhy fuan! pan yr edrychai y plentyn allan ei hunan, ac nad oedd yr un wyneb ar y gwely; a phryd yr oedd bedd bychan ymysg y beddau, nad oedd yno o'r blaen; a phryd yr oedd y seren yn anfon pelydrau hirion i lawr tuag atto, fel yr oedd yn edrych arni trwy ei ddagrau.
Yn awr, yr oedd y pelydrau hyn mor ddysglaer, ac ymddangosent yn gwneyd ffordd mor lachar o'r ddaear i'r nefoedd; fel pan aeth y plentyn i'w wely unig, y breuddwydiodd am y seren; breuddwydiodd ei fod, tra yn gorwedd lle yr oedd, yn gweled tyrfa o bobl yn cael eu dwyn i fyny y llwybr dysglaer hwnw gan engyl. A'r seren yn agor, a ddangosodd iddo fyd mawr o oleuni, lle yr oedd llawer yn ychwaneg o'r cyfryw engyl yn aros i'w derbyn.
Yr holl engyl hyn, y rhai oeddynt yn dysgwyl, a droisant eu llygaid tryloewon ar y bobl a gludid i fyny i'r seren; a daeth rhai allan o'r rhengau hirion yr oeddynt yn sefyll ynddynt, ac a syrthiasant ar yddfau y bobl, ac a'u cusanasant yn serchog, ac aethant ymaith gyda hwynt i lawr rhodfeydd o oleuni; ac yr oeddynt mor ddedwydd gyda hwynt fel y gorweddodd ef yn ei wely, ac yr wylodd o lawenydd.
Ond, yr oedd llawer o engyl nad aethant gyda hwynt, ac yn eu plith un ag yr oedd ef yn ei hadnabod. Yr oedd y gwyneb amyneddgar a orweddai unwaith ar y gwely, yn awr yn ogoneddus a nefolaidd; ond canfyddodd ei galon ef ei chwaer ymysg yr holl lu.
Yr oedd angel ei chwaer yn ymdroi yn ymyl y fynedfa i'r seren, a dywedodd wrth flaenor y rhai a ddygasant y bobl yno:
"A yw fy mrawd wedi dyfod?"
Ac yntau a ddywedodd, "Nac ydyw."
Yr ydoedd hi yn troi ymaith yn obeithiol, pan yr estynodd y plentyn ei freichiau allan, ac y llefodd: "O! fy chwaer, yr wyf fi yma! Cymmerwch fi!" ac yna y trodd hi ei llygaid tryloewon arno, a nos ydoedd! ac yr oedd y seren yn tywynu i'r ystafell, yn taflu pelydrau hirion tuag atto, pan ydoedd yn edrych arni drwy ei ddagrau.
O'r awr hono allan, edrychodd y plentyn ar y seren fel ar y cartref yr oedd ef i fyned iddo pan ddeuai ei amser; a meddyliai nad oedd ef yn perthyn i'r ddaear yn unig, ond i'r seren hefyd, o herwydd angel y chwaer a aethai yno o'i flaen.
Ganwyd baban i fod yn frawd i'r plentyn; a phan ydoedd mor fychan na siaradodd air erioed, estynodd ei gorph bychan ar ei wely, a bu farw.
Drachefn breuddwydiodd y plentyn am y seren agored, ac am gymdeithas yr engyl, ac am y dyrfa o bobl, a'r rhengau o engyl a'u llygaid tryloewon i gyd wedi eu troi ar wynebau y bobl hyny.
Ebe angel ei chwaer wrth y blaenor:
"A yw fy mrawd wedi dyfod?"
Ac yntau a ddywedodd—" Nid yr un hwnw, ond un arall."
Pan welodd y plentyn angel ei frawd yn ei breichiau, efe a lefodd, "O, fy chwaer, yr wyf fi yma! Cymmerwch fi!" A hi a drodd ac a wenodd arno, a'r seren oedd yn tywynu. Tyfodd i fyny yn ddyn ieuangc, ac yr oedd yn brysur gyda'i lyfrau pan ddaeth hen forwyn. atto, ac a ddywedodd:
"Dy fam nid yw mwyach! Yr wyf yn dwyn ei bendith ar ei hanwyl fab!"
Drachefn, yn y nos efe a welodd y seren, a'r holl gwmni blaenorol hwnw. Ebe angel ei chwaer wrth y blaenor:
"A yw fy mrawd wedi dod?"
Ac yntau a ddywedodd, "Dy fam!"
Torodd gwaedd fawr o lawenydd drwy yr holl seren, o herwydd fod y fam wedi ei hailuno â'i dau blentyn. Ac efe a estynodd allan ei freichiau, ac a lefodd, "O, fy mam, fy chwaer, a fy mrawd, yr wyf fi yma! Cymmerwch fi!"
A hwy a'i hattebasant ef, "Ddim etto," a'r seren oedd yn tywynu.
Tyfodd i fod yn ddyn, a'i wallt wedi troi yn frith, ac yr oedd yn eistedd yn ei gadair yn ymyl y tân, yn drwm gan alar, a'i wyneb wedi ei wlitho á dagrau, pan yr ymddangosodd y seren unwaith yn rhagor.
Ebe angel ei chwaer wrth y blaenor: "A yw fy mrawd wedi dyfod?" Ac yntau a ddywedodd—"Na, ond ei ferch brydweddol."
A'r dyn a fu yn blentyn a welodd ei ferch, yr hon oedd newydd ei cholli, yn greadur nefolaidd ymhlith y tri hyny, ac efe a ddywedodd: "Pen fy merch sydd ar fynwes fy chwaer, a'i braich sydd o amgylch gwddf fy mam, ac wrth ei thraed dyna faban hen amser, a gallaf finnau ddyoddef fy ysgaru oddiwrthi, i Dduw y byddo'r diolch!"
A'r seren oedd yn tywynu.