Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei rhwysg uchaf yn yr Ynys hon. Nid oes yma unrhyw awgrymiad am gyfryngaeth Mair, na neb o'r saint, na chyfeiriad at benydiau na phurdan; ond y mae ei Dduwinyddiaeth mor iachus a phe y canasai yn y ganrif hon, yn lle yn y bedwaredd ganrif ar ddeg.

Yr un bai ar ein bywyd,
Ar bawb, a hudol yw'r byd;
Húd ar ddyn, hyder ar dda,
Hudol anneddfol noddfa.
Malu y Sul, melus sôn,
Marwol bechodau mawrion!
Balchder yw ein arfer ni,
Digio, Cybydd-dra, Diogi,
Cynfigen, bresen[1] heb rodd,
Godineb, gwae adwaenodd;
Glythineb y glwth enau,
Nid mwyn, mi a wn, nid mau;
Nid trem fawr, nid trwm ei fod,
Nid baich ond baich o bechod.
Naw pwys ryfel ein gelyn,
Yw'r naw pwn, a wyr neb hyn?
Del i'w cof, adail a'i cudd,
Dioddefaint Duw Ddofydd.
Duw i'r hawl, a da yw rho'm,
A drwsiodd, Mab Mair drosom;
Mawr gur a gafas, mawr gwyn,
Mawr farw, Mab Mair Forwyn!
A'i boen ar Wener y bu,
Ar un pren er ein prynu.
I nef yr aeth yn ufudd,
At y Tad, deugeinfed dydd,
Yn Dad, yn Fab, Bab y byd,
Yn oes-braff glan, yn Ysbryd.
Yn un nifer henafiaeth,
Ac yn un gnawd gwn y'n gwnaeth.
Duw'n cyfoeth, dawn a'n cyfyd,
Y dydd y bo diwedd byd:
Dydd a bair ofn, fydd dydd brawd,
Dydd tri llu, diwedd trallawd.
Diau fydd drwg, a da fo,
Ufudd iawn a fydd yno;
A'r dyfyn ar wŷr Dofydd,
A fu, ac eto a fydd:
Yn rhagor i'n rhywogaeth,
Y nef ar bresen a wnaeth.
Pum archoll i'n arfoll ni,
Pum aelod y pum weli;
A'n rhoi yn iach, ein rhan oedd,
Wnai Siesws[2] yn oes oesoedd.
Bid yn wres, bod yn rasol,
Bid yn nef, bod yn ei ol.
Er ei gof hir a gyfyd,
Er ei loes dros bum-oes byd,
Er ei lun ar oleuni,
Er a wnaeth a'i roi i ni.
Y marw ni ŵyr ymorol, Am a wnaeth, y mae yn ol.
Nid edwyn yn nodedig,
Na phlaid trwm, na ph'le y trig;
Ni chyrhaedd yn iach arian,
Nid oes ond a roes o ran,
Llaswyr Fair yn llaw Iesu,
Lle fydd erbyn y dydd du:
Un pryd Wener offeren,
O'n dig byth, a'n dwg i ben:
A'm gwlad fyth, a'm golud fo,
'I'w 'mgeledd, Duw a'm galwo.
Doed y gair, deued i gof,
Trwsiad o law Duw trosof;
Er ei fedd, a'i chwerwedd chwŷs,
A'r anfad farn, a'r enfys,
Un doeth rwysg, un Duw a Thri,
Un Duw dêl i'n dydoli.


CYWYDD I'R DRINDOD.

Wrth ddarllen y Cywydd isod, ac ystyried fod yr hen Fardd yn ei flodau tua phum can mlynedd yn ôl, yn mhell cyn y Diwygiad Protestanaidd; fe'n synir mor ysgrythyrol a chywir ei olygiadau am Dduw; ac mor goeth ac eglur yw yr iaith a ddefnyddia yn ei Gyfansoddiad. O'n rhan ein hunain fe'n tueddir i farnu i'r Cywydd hwn gael ei gyfansoddi ganddo yn ei hen ddyddiau, pan wedi cyrhaedd llawer o aeddfedr- wydd barn, a phurdeb chwaeth: ac y mae yn lled debyg fod y ganwyll a oleuasai Wickliffe a'r Lolardiaid yn yr Ynys hon, wedi cyffroi sylw "Arglwydd Llechryd" at yr Ysgrythyrau, ffynonell gwybodaeth gywir am Dduw; canys yn mhen ychydig flyneddoedd ar ol hyn, cawn fod Arglwydd Cobham, yr hwn oedd yn ddysgybl enwog i Wickliffe, yn cael achles yn Aber Tanad, yn agos i Sycharth, llys yr enwog Owain Glyndwr; lle yr arferai ein Bardd dreulio llawer o'i amser yn ei hen ddyddiau. Ac y mae lle crŷf i gasglu, fod y gwron hwnw ei hunan, wedi yfed yn lled helaeth o ysbryd y Lolardiaid cyn diwedd ei oes.

Duw Iôr y Duwiau ereill,
Dofydd, a Llywydd y lleill;
Dawn llawn, Duw yw'n llawenydd,
Duw a weddiwn bob dydd:
Dawn yw gweddio Duw Naf,
Duw byth, ni's diobeithiaf!
Heb Dduw y'm dysg, heb ddim dawn,
A Duw agwrdd,[3] a digawn.
Mwyaf, yw pwys fy mywyd,
Ar Dduw byth! nag ar dda byd.
Rhodd yw, rhai a addewynt,
Rhaid yw, ym' wybod ar hynt,
Pwy ddeil gof? pa ddelw y gwn
Pa Dduw, pwy a weddiwn?
Pybyr Greawdr pob hoyw-beth,
Pob rhai byw, pob rhyw o beth
Pwy a wnaeth y nef hefyd?
Pob rhyw, feirw a byw, a byd?
wy sy'n cynnal groundwal[4] grym
Llawr yr adail lle'r ydym?
wy a oedd Dduw? pwy a ddaw?
Pwy sydd, pïau sy eiddaw?

  1. ↑ bresaidd, neu ddi gywilydd.
  2. ↑ Iesu.
  3. ↑ galluog
  4. ↑ sail