Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Llidiaw a digiaw,
Dygn wythlonedd.

Colli pregethau,
Ac offerenau;
Maddeu fy Suliau
Meddwon a salwedd.

Gwared fy enaid
Rhag cŵn dieflig,
Rhag ewn gwenwynig,
Rhag cynen dremig,
Dig digofedd.

Rhag drwg mwg migwern,
Rhag traethu iaith cethern,
Drewgant cyrn uffern
Dieffaith ddygnwedd.

Rhag trais tragwyddawl,
Tan trwch callestrawl,
Tanawl uffernawl
Ffyrnig dawchwedd.

Rhag tanllyd sybwll,
Tanllyd filam gynrwth,
Tanllyd trwch trydwll,
Trydan losgedd.


AWDL GYFFES; AR Y GYHYDEDD HIR.
GAN IOLO GOCHI, O YSRIF ARALL.

Crair cred, ced gynnydd,
Cynydd dy hedd,
Creawdwr llu bedydd,
Crist, Fab Duw Dofydd,

Gan na wn pa bryd,
ddiwyd ddiwedd.
Pa awr, pa enyd,
Y'm dycych o'r byd

Arglwydd Dad, mad mawr,
gwawr gwirionedd.
Eurgledd nef a llawr,
Erglyw fi bob awr,

I ti cyffesaf,
Naf tangnefedd.
Ac yr addefaf,
Canys wyt benaf,

Mi bechais yn llwyr,
Llwyr argywedd.
O bob gwall synwyr,
Rhwng llawr ac awyr,

Saith briawd pechawd,
cadarn chwerwedd.
Syrthni, a Meddwdawd,
Chwant cnawd, cas ceudawd,

Methiant, glythineb,
cadw fy salwedd.
Gwneuthur godineb,
Casineb cudeb,

Balchder syberwyd,
amryw faswedd.
Tori diofryd,
Cymeryd bywyd,

Goganu tybiaw,
dygn greulonedd.
Llesg i ddymunaw,
Llidiaw a digiaw,

Colli pregethau,
meddwl salwedd.
A'r Offerenau,
Maddau fy Suliau

Gwag gynwys glwys glyw,
Llyw llaweredd.
Clod mawr marw a byw,
Gwirion Dad, rhad ryw,

Dy rad a geisiaf,
Naf, nefol-wledd.
Dy nerth a archaf,
Dy nawdd a alwaf,