Nid rhaid wrthi hi yr haf,
Da gŵyr ef y digrifaf;
Nid oedd neb cyfundeb cu
Yng Ngwynedd yn ynganu.
Dyeithr a wnaen ein deuoedd,
I mi ac ef, ail Emig oedd;
Amlyn wyf, nid aml iawn neb,
O rai hen ar eu hwyneb;
Pur athro cerdd per ieithrym,
Parod oedd, pwy a ŵyr dym?
Minnau 'n dal hiriau fy hun,
Mi ni wn o mewn anhun,
Na dyrnu na gyru gwawd
Ag un-flust, och rhag anffawd!
Un natur â'r turtur teg,
Egwan wyf, ac un ofeg;
Ni ddisgyn yr edn lednais,
Ni chân ar ir-fedw lân lais;
Minnau canu ni mynaf
Byth yn oes, Ow! beth a wnaf?
Gweddio Pedr, gwaedd eorth,
Y bûm, canaf gerdd am borth;
Am ddwyn Llewelyn ddyn da,
Urddol-feistr nef i'r ddalfa.
Ni's gwyr Duw am deulu-was
Athro grym a aeth i'r gras.
Ymysg pobloedd hyddysg hynt,
Proffwydi nef, praff ydynt.
Gwaith hoff gan Ddafydd Proffwyd,
Datganu cerdd Lleucu Llwyd!
Anniwair fu yn ei oes,
Y carueiddfardd cerydd-foes.
Puro telyn per teulu[1]
Serchog, edifeiriog fu.
Duw a'i maddeuawdd hawdd hoed,
Iddo yn ei ddiwedd-oed:
Yntau a faddau i'w Fardd,
Ei ffolineb, ffael anhardd.
Prydydd oedd Ddafydd i Dduw,
Clod y Drindod, a'r Un-Duw;
Llys rhydd y sydd, echwydd uchel,
I Brydydd lliw dydd, lle dêl.
Ni chau na dôr, na chŵyn dŷn,
Na phorth rhagddo, ni pherthyn.
Nid hawdd dal dial dwys,
Prydydd ymhorth Paradwys.
CYWYDD MARWNAD SYR RHYS AB THOMAS, O DDINEFWR.
Llyma oer-chwedl cenedlawr,
Llas pen Cymru,—nen yn awr:
Gwahanwyd brawd briawd bron,
Ag enaid llyfr y Ganon,
Syrthio angl oedd swrth anglaer,
Syr Rys aur yngwregys aer.
Gwae a'i gweles yn Nghresi,
Gwr di wael mewn trafael tri;
Dorgwn cyd dan gyngyd Cai,
Dewr loyw-fryd, mewn dur lifrai;
Pan wisgawdd rydd gamlawdd ri,
Balaen uwch llethr ben Beli.
Gwr praff wrth baladr saffwy,
Yno gwelad nid rhad rhwy.
A'i aruthr gael yn ael nos,
Ac oeri traed, ac aros.
Pan ddaeth at Ffranc, a'r tranc trwm,
A'i lorf, a'i engyl larwm;
Yno bu cyn tynu tân,
Cynwrf ymlaen twrf taran;
Arwydd trympau berau bâr,
A lluched mellt, dân llachar:
A'n galw i'w golofn win-llys,
Glod eurgledd nod, arglwydd Rys.
Llew braisg yn llywio à braich,
Llu brenin, yn lle Brynaich;
Gwybu Phylib aerwib ŵr,
Ei falais, od oedd filwr.
Uthr Bendragon, lon lendyd,
Aeth Paris ar gis i gyd.
Delw Sain Sior a'i dwylaw,
A'i grog drwy fawr annog draw;
Ni chiliodd yn wacheliad,
Ni chyrchodd gwart, cart er cad.
Blaidd oedd, a threm ddi eiddil,
Blaidd oedd fo, bw laddodd fil.
Da oedd ei gof mewn gofid,
A'i laif yn gyflawn o lid;
Uchel oedd niferoedd nef,
A'i eur-grest uwch helm eurgref.
Mi a'i gwelais lednais lyw,
Dydd anrhaith, nad oedd unrhyw,
Yn nghor fy ngharw yn gyhudd,
Yn Nghaer fardd Emrys yn nghudd;
Corph mawr ar y llawr gerllaw,
A'i genedl yn ei gwynaw.
A'i wayw ar gael, gwae a'i gwŷl,
A'i Emys yn ei ymyl;
A'i lem lifaid, drem drydoll,
A'i aesawr a'i i'r llawr oll;
A'i bebyll di dywyll du,
Ner a'i faner i fynu.
A'i arwyl a'i hwyl hy lyw,
A'i guras, a'i helm las loyw.
A'i seirch yn gyfryw a sŷr[2]
A'i eisiau yn ei Assur,
A'i enaid ydoedd ener,[3]
Aed ef i wen-wlad nef Ner.
CYWYDD, I OFYN MARCH, I OWAIN AB GRUFFYDD AB OWAIN, O LAN TAWY.
Arglwydd pellenigrwydd parch,
Owain wayw, blaenfain blin-farch:
Balch mab Gruffydd, ni bydd ball,
Baun am fab Owain arall;