Gadd o hydr gwyraidd hoyw-drafn,
Gethin loyw gyfelin lafn,
Mur un-blaid mawr ewyn-blas,
Maccwy o lan Tawy las.
Tirion-walch cadarn-walch cain,
Twr naw-osgl teyrn Owain.
Tew-faedd gwyllt, ettifedd gwrdd,
Twrn gwynfyd teyrn y gwin-fwrdd.
Mae i'm bryd o loyw-bryd lwybr,
Yn niwedd am Ion ewybr:
Gwn y caf, blaen rwyddaf blanc,
Gan Owain eur-gnyw ieuanc;
March ar ol ei bedoli,
Mawr ei naid yn y marn i;
Brysia 'r tir, gwelir mai gwrdd,
Braisg ei egwyd, brwysg agwrdd;
Ffraeth gynnwr, gyrchwr gorchest,
A ffroen roth mewn ffrwyn, a rest;
Llydan dal drud, arian draidd,
Llygad-rwth, a lliw gwydraidd;
Llid o llithr, llew du llathraidd,
Llawfron arth, nid llwfr ei naid;
Mawr neidiau uwch clwydau cledr,
March di hafarch, du hyfedr;
A ffrom oedd isod ei ffriw,
Ffrwyn wan-lledr, ffroen ewyn-lliw;
Craig llathr, gwyllt sathr 'rhyd gwellt saig,
A chryf ar dor allt a chraig;
A chawr gwrdd, a châr gerdded,
A chynt na hyrdd-wynt y rhed.
Punturiwr march pwynt arial,
Pant da daw, pum punt a dâl;
Mygr Owain rudd-lain rwydd-lyw,
Mawr ydd â clod myrdd a'i clyw:
Mawl arab rhwydd-fab rhudd-fellt,
Mur tarian ddur tyr yn ddellt.
Rhoddaf gerdd i wr hoyw-ddoeth,
Rhwydd las câd, Ion rhudd-lwys coeth,
Rhudd aur, fe wyr eu rhoddi,
Rhodd mawr, ef a'i rhydd i mi;
Rhwydd olwg, rhiaidd alarch;—
Rhoed yntau i minau'r march.
CYWYDD I'R BRENIN EDWARD Y TRYDYDD,
YR HWN A DEYRNASODD O IONAWR 22, 1327, HYD MEHEFIN 21, 1377.
Edwart ab Edwart, gwart gwŷr,
Ab Edward anian bedwyr;
Edward, ŵyr Edward ydwyd,
Edward Trydydd, llewpart llwyd.
A'i awr dda, a'i wraidd Iôr,
Aur gwnsallt, eryr Gwinsor;[1]
I'th annedd a'th ddaioni,
Na fetho twrn fyth i ti.
Cael a wnaethost, post peis-dew,
Galon a llon-fron y llew;
Baedd y cyfnewid di-dwyll,
A phen, a synwyr, a phwyll.
A ffriw lygliw o lu gloyw,
A phriod dawn, a phryd hoyw;
A phob iaith, cyd ymdaith cadr,
Yn nglaidd i ti fy ngwaladr:
Ac o wychdawd brawd brydoer,
Angel da yn ngwely dwr oer.
Cefaist gost, cefaist gysteg,
Yn nechreu d' oes, iawn ochr deg;
Yn ostwng pobl anystwyth,
Lloegr, a Ffrainc, lle goreu ffrwyth,
Caf cyfedd-lyw heddyw hyn,
Bob ail brwydr gan bobl Brydyn.
Difa eu llu, lle bu'r baich,
Dal brenin, dileu brynaich;
Dolurio rhai, dal ereill;
Llusgo'r Ieirll oll, llosgi'r lleill.
Curaist a blif ddylif ddelw,
Cerig Caer Ferwig, cur ferw.
Rhoist ar gythlwng, rhwystr gwythlawn
Ar For Udd, aerfa fawr iawn.
Gelyn fuost i Galais,
O gael y dref golau drais.
Grasus dy hynt i'r Gresi,[2]
Gras teg sydd gan Grist i ti.
Llithio dy fyddin lin lem,
Frain byw ar Frenin Böem:[3]
Perygl fu i byrth Paris,
Trwst y gâd, lle t'rewaist gis.
O hedaist, mor hy ydwyt,
Hyd y nef, ehedyn wyt;
Weithian ni'th ddynoethir,
Ni thyn dŷn derfyn dy dir:
Cymmod a'th Dduw, nid cam-oes,
Cymer yn dy gryfder groes.
Od ai i Roeg, mae'r darogan,
Darw glew y ceffi di'r glan:
Ar ei ddwy-dref, arw ddi-drist,
A theimla grog, a theml Grist;
A gorestyn ar grwys-daith,
Gaersalem, hyd Fethle'm faith.
Tarw gwych, ceffi'r tir a'r gwyr,
Tor fael-waith, tai rhyfelwyr:
Cyrch hyd fin Constantinobl,
Ger bron Caer Bab'lon, cur bobl.
Cyn dy farw y cei arwain,
Y tair coron, cywrain cain;
A ddygwyd gynt ar hynt rwydd,
Ar deir-gwlad, er Duw Arglwydd.
Tirionwydd o'r tair anrheg,
A'th gledd, hil teyrnedd teg,
I wen-wlad nef, ef a fedd,
Yno deui yn y diwedd.
Rhwng y tair teilwng talaith,
Frenin Cwlen fawr-nen faith,
Gwna dithau doniau dy daid,
Doethineb da i'th enaid.