Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CYWYDD MARWNAD DAFYDD AB GWILYM.

Hudol doe, fu hoedl Dafydd,
Hoyw ddyn pe bai hwy ddydd;
Di ungor awdl da angerdd,
Fab Gwilym Gam, gwlwm y gerdd.
Lluniai fawl wrth y llinyn,
Llyna ragor dda ar ddyn.
Gem oedd y Siroedd, a'u swch,
A thegan gwlad, a'i thegwch;
A mold digrifwch a'i modd,
I'm ymwared am wiw-rodd.
Hebog merched Deheu-barth,
Heb hwn oed gwn aed yn garth;
Tau di gyd, tydi Gywydd,
Nid da'r byd, nid hir y bydd.
Pan oedd Dafydd gelfydd gân,
Ydd oeddid barchus ddiddan.
Ag ni bydd o herwydd hyn,
Gwedi ef gwiw dy ofyn.
Bwriedir y weir o wawd,
A'i dauflaen ar ei daflawd.
Eithr Pen saer claer yr ieithoedd,
Eithr py byw, athro pawb oedd.
Eithr fy nghwyn am frwyn fraw.
Athro yn ddysg oedd uthr ynddaw,
A theiliwr serch i ferch fu,
A thelyn Llŷs a theulu.
A thrysor clêr, a thrais clod,
A thryfer brawdr a thafod;
A thruan heb athrywyn,
A thraha fu'n difa y dyn;
A thrawst Beirdd, a thrist y byd,
A thrachefn, ni thra chyfyd;
A thra grym, glew-lym gloew-lef,
A theyrn oedd, a aeth i'r nef.


CYWYDD AR YR YSTYRIAETH O ENEDIGAETH DYN.

Myfyr yr wy'n ymofyn
I Dduw beth orau i ddyn,
A'i eni er llenwi llid
Naws gwiw-noeth a'i nas genid?
Wrth ddeall araith ddiwyd
Pregeth oer, beth ydyw'r byd?
Breuola braw i'w elyn,
Dim ar y ddaear yw dyn.
'O'i farn pan fo gadarnaf,
O'i lys rym a'i les yr af;
Angau a ddaw distaw don,
I'w ddwyn o fysg ei ddynion:
Gwedi'r loes a gadaw'r wledd,
A'i farw er maint ei fawredd;
Rhyw gyfle rhew gauaf-loer,
Rhaw a chaib, dyna'r rhych oer.
Ac yna yn ol y dolef,
Byr yw'r oed y bwrir ef,
A'i sathru mewn graiandy gro,
Ner addwyn a wneir iddo:
A'i genedl a'i ddigoniant
Er fu'r gwr ei arfau gant.
Os gwirion oes o gariad,
Oes dim ond un Iesu Dad?
Gwae'r neb er cwbl o'i febyd,
Byth, a ymddiriedo i'r byd!
Gwae 'n enw llid a wnel llys
Fry 'n ol y fro annilus;
Gwae a gallo naw bro Ner
Duw Nef er doniau ofer:
Y gwr a ddichon i gyd,
O Fair wyryf a'i fawr wryd,
Gostwng y gwynt hynt hynod,
A chilio gwlaw uchel glod;
Y meirw i fyw o 'maros,
A dydd o newydd a nos.
Nid oes Arglwydd ond Iesu,
Na brenin gorllewin llu;
A phiau bawb a phob peth.
Credwn i'r Tad cadar-nerth,
A'r Mab a'r Ysbryd cyd certh,
Credwn ei fod yn oediog,
I'w fawr Grist a fu ar grog.
Credwn i'r eglwys lwys lwyth,
Gatholig, ac i'w thylwyth.
Credwn hefyd cyd cadair
Yn Arglwydd Bab, a Mab Mair;
Y Duw megis ei dywawd,
Iesu ein barnu ddydd brawd.
I bawb o'r fuchedd y bônt
Y rhydd megis yr haeddont;
Nid credu haeru hirhaint
I gael ne, swyn gelyn saint;
Neu o wirfodd mewn modd maith,
I freuddwyd gwrach afrwydiaith;
Neu gredu am lu amlwg,
I lais y dryw am les drwg:
Neu gredu i'r fran yn canu,
Llath ormes Iuddewes ddu.
Na chreded ddwys-gred ddisgref,
Ddim i neb ond i Dduw Nef.
Duw orau uwch daiar-wydd,
Duw Iesu, Duw fu, Duw fydd.
Duw a fydd herwydd hiroed,
Difai ras Duw fu erioed.
Dydd brawd ar geidwawd gadarn
Diau fydd, a Duw a'i farn:
Duw a'i dyru o'r diwedd
I'r wlad dragywydd a'r wledd;
Duw draw a'n gwnel yn llawen,
Gyd a Mair i gyd, Amen.



AWDL DUCHAN.

O Ysgriflyfr Dr. Davies o Fallwyd, yr hwn a ddywedai mai Iolo Goch a'i cyfansoddasai.

Costiaf i Fadawg, casddyn un-troediawg,
Costawg cynghafawg, hufen a'm caff,